16 episodes

Podlediad rhedeg Cymraeg yn trin a thrafod newyddion rhedeg, hyfforddi a mwy, ynghyd â chyfweliadau gyda rhedwyr Cymreig. Cyflwynir gan Owain Schiavone

Welsh language running podcast featuring news, training and interviews. Presented by Owain Schiavone.

Y Busnes Rhedeg 'Ma Owain Schiavone

    • Running

Podlediad rhedeg Cymraeg yn trin a thrafod newyddion rhedeg, hyfforddi a mwy, ynghyd â chyfweliadau gyda rhedwyr Cymreig. Cyflwynir gan Owain Schiavone

Welsh language running podcast featuring news, training and interviews. Presented by Owain Schiavone.

    Pennod 1 (cyfres 2) - Dyfed Whiteside-Thomas

    Pennod 1 (cyfres 2) - Dyfed Whiteside-Thomas

    Mae'r podlediad yn ôl yn dilyn saib fach, a gwestai cyntaf yr ail gyfres ydy ffrind mawr i'r pod, Dyfed Whiteside-Thomas. Mae Dyfed yn aelod o Glwb Harriers Eryri, ac yn bennaf gyfrifol am y 'Sesiwn Elltydd' enwog (Thursday Night Hills) yn Llanberis. Mae hefyd yn rhedwr arbennig ac rydan ni'n sgwrsio'n fuan ar ôl iddo redeg marathon wych yng Nghasnewydd gan orffen mewn 2:43:57 - y Cymro cyntaf yn ei gategori oedran, sy'n ei wneud yn bencampwr M45 Cymry yn ein tyb ni, gan bod y ras yn Bencampwriaeth Meistri Cymru eleni (canlyniadau llawn). Sgwrs ddifyr, gyda boi da. 

    Cyfle hefyd i grynhoi canlyniadau rhywfaint o'r rasys sydd wedi bod yn ddiweddar, wrth i bethau ail-ddechau o ddifrif. Lot mwy o hyn yn y gyfres gobeithio. 

    Cerddoriaeth y bennod yma ydy 'Dyma Kim Carsons' gan y grŵp newydd o ardal Pontypridd, Y Dail. Allan yn ddigidol rŵan. 

    • 1 hr 10 min
    Pennod 13 - Adolygiad efo Arwel

    Pennod 13 - Adolygiad efo Arwel

    Pennod fach wahanol y tro yma, cyfle i ddal fyny a thrafod sawl peth o'r byd rhedeg gydag Arwel Evans o Running Review Cymru. Mae rasio'n dechrau nôl yn raddol felly mae'n gyfle i drafod rhai o'r rasus sydd wedi digwydd yng Nghymru gan gynnwys 10K Nick Beer yn Llandudno a chyfres 5K Athletau Cymru yn Y Rhyl a Phenbre. 

    Mae'n gyfle hefyd y gael rhagolwg fach o athletau'r Gemau Olympaidd, y gobeithion Cymreig gyda Jake Hayward, ac ambell uchafbwynt arall o'r amserlen. 

    Pennod syml, dim nonsens - rhowch wybod eich barn ac os hoffech chi glywed mwy o'r rhain yn y dyfodol. 

    • 53 min
    Pennod 12 - Dr Ioan Rees

    Pennod 12 - Dr Ioan Rees

    Bydd llawer iawn o bobl yn gyfarwydd â Dr Ioan Rees diolch i gyfres deledu boblogaidd Ffit Cymru ar S4C, ond efallai mai llawer llai fydd yn gwybod ei fod hefyd yn athletwr dycnwch llwyddiannus. Mae Ioan yn un o arbenigwyr Ffit Cymru, ac mae'r seicolegydd wedi bod yn ganolog i lwyddiant y gyfres, a'r rhai sy'n cymryd rhan ynddi yn eu hymdrechion i golli pwysau a byw yn fwy iach. Ac mae ganddo brofiad uniongyrchol o ymgymryd â phroses debyg ei hun wrth iddo golli 6 stôn dros gwta 9 mis er mwyn cymryd rhan yn ei Ironman cyntaf yn 2009. Ers hynny, mae wedi cwblhau 5 Ironman arall gan ddod a'i amser lawr i 12 awr. 

    Mae'r sgwrs gyda Dr Ioan yn amserol iawn wrth i gyfyngiadau Covid lacio ac wrth i ni obeithio gweld rasio'n dychwelyd i Gymru, a'r heriau seicolegol sy'n ein wynebu i gyd gyda hynny. Mae ganddo lawer o gyngor ardderchog i athletwyr ar bob lefel hefyd, ac mae rhywbeth i bawb yn y sgwrs heb os. 

    Cerddoriaeth y bennod yma ydy sengl newydd Y Cledrau, 'Hei Be Sy' sydd allan ar label I KA CHING. Ac mae fideo gwych ar gyfer y sengl ar YouTube.  

    • 1 hr 21 min
    Pennod 11 (Rhan 2) - Angharad Mair

    Pennod 11 (Rhan 2) - Angharad Mair

    Ail ran y sgwrs gyda'r gyflwynwraig, ac un o redwyr marathon gorau Cymru erioed, Angharad Mair. Yn y rhan yma o'r sgwrs rydym yn trafod comeback Angharad i redeg ar ôl tua 15 mlynedd i ffwrdd o'r gamp, a'i llwyddiannau anhygoel wedi hynny. Rydym hefyd yn trafod y ffaith ei bod wedi ail-ddechrau eto erbyn hyn ar ôl cyfnod (byrrach) i ffwrdd, a'i chynlluniau a gobeithon ar gyfer y dyfodol. Mae hefyd cyfle i drafod rhywfaint ar sefyllfa darlledu rasys rhedeg, a'r cyfleoedd sydd i ddarlledwyr. 

    Cerddoriaeth y bennod yma ydy 'Adfywio' sef sengl newydd The Gentle Good, allan ar label Bubblewrap Records nawr. 

    Mae'r bennod hefyd yn trafod Marathon Elite Wrecsam / Swydd Gaer a Marathon Shepperdine. Dyma ddolenni i ganlyniadau llawn rhain: 

    Marathon Elite Wrecsam / Swydd Gaer

    Marathon a Hanner Marathon Shepperdine

    • 55 min
    Pennod 11 (Rhan 1) - Angharad Mair

    Pennod 11 (Rhan 1) - Angharad Mair

    Y gwestai diweddaraf i ymuno ag Owain Schiavone ar Y Busnes Rhedeg Ma ydy Angharad Mair. Mae Angharad wrth gwrs yn wyneb a llais cyfarwydd ar y cyfryngau Cymraeg fel un o gyflwynwyr amlycaf Cymru. Ond ar un pryd, Angharad oedd rhedwraig marathon gorau Cymru hefyd. Mae ei hamser gorau o 2:38:47 dros y pellter ym 1996 yn dal i'w gosod yn y 10 Uchaf o ferched Cymreig erioed, ac fe gafodd y cyfle i redeg ym Mhencampwriaethau Athletau'r Byd yn Athen y flwyddyn ganlynol. Er iddi roi'r gorau i redeg am 15 mlynedd flwyddyn yn dilyn anaf ym 1998, fe ail-gydiodd ynddi fel rhedwr hŷn, a llwyddo i dorri record Ewrop yn y categori oedran V55! Mae hanes Angharad yn un hynod o ddifyr, gymaint felly nes bod digon o ddeunydd i rannu'r bennod yn ddau - bydd yr ail ran yn ymddangos wythnos nesaf. 

    Cerddoriaeth y bennod yma ydy sengl Griff Lynch, 'Os Ti'n Teimlo', sydd allan ar label Lwcus T nawr. Mwy o wybodaeth ar wefan Y Selar. 

    • 1 hr 3 min
    Pennod 10 - Andrew Davies

    Pennod 10 - Andrew Davies

    Andrew Davies ydy gwestai diweddaraf podlediad Y Busnes Rhedeg 'Ma yng nghwmni Owain Schiavone. Mae Andy'n un o redwyr pellter, a rhedwyr marathon yn benodol, gorau Cymru ers sawl blwyddyn bellach ac wedi bod y ddwy bencampwriaeth Gemau'r Gymanwlad ynghyd â Phencampwriaethau Athletau'r Byd unwaith. Mae o hefyd yn gyn bêl-droediwr lle broffesiynol sydd wedi chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru gyda Caersws. Yn Rhagfyr 2019 llwyddodd Andy hefyd i dorri'r record Brydeinig ar gyfer y marathon ar gyfer dynion dros 40 oed - roedd darn ar y blog ynglyn â hyn wrth iddo redeg 2:14:36 yn Valencia. 

    Mae'r sgwrs wedi ei recordio ychydig ddyddiau ar ôl i Andy redeg yn nhreialon marathon Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Siapan fis Gorffennaf felly cawn glywed ei argraffiadau ar y ras unigryw a hynod honno. Mae'n gyfle hefyd i drafod ei hanes fel rhedwr marathon, rhedeg mynydd a'i gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Sgwrs ddifyr efo boi da. 

    Cerddoriaeth y bennod yma - '400+' gan Omaloma sydd allan ar yr EP 'Roedd' (Recordiau Cae Gwyn). Mwy am yr EP ar wefan Y Selar. 

    • 56 min