Pigion: Highlights for Welsh Learners BBC Radio Cymru
-
- Educação
DANIEL GLYN A SIAN HARRIES
Galaru - To grieve
Yn gyhoeddus - Public
Cwympo mewn cariad - To fall in love
Diog - Lazy
Cefndir - Background
Doniol - Funny
Ymddiheuro - To apologise
Ymchwil - Research
Ymdrech - Effort
ALED HUGHES A SERAN DOLMA
Amgylchedd - Environment
Datblygu cynaladwy - Sustainable development
Cadwraeth - Conservation
Creadigol - Creative
Arbrofi - To experiment
Goroesi - To survive
Hinsawdd - Climate
Dirywio - To deteriorate
Hunan-gynhaliol - Self-sufficient
Wedi ei chyhoeddi - Published
Gweledol - Visual
DYLAN JONES A CHLOE CONDY
Uwch Gynghrair - Premier League
Dyrchafiad - Promotion
Safon - Quality
Hyfforddwr - Coach
Rhywsut - Somehow
Ymddygiad - Behaviour
Agwedd - Attitude
Gweld eisiau - Seeing the need for
GERALLT PENNANT A GARETH VAUGHAN WILLIAMS
Clawr - Cover
Cyfrifon - Accounts
Darganfod - To discover
Trysorydd - Treasurer
Swyddogol - Official
Cofnodi - To record
Yn weddol gyson - Fairly regularly
ALEX HUMPHREYS AC ARON JONES
Gyrfa - Career
Safle - Potition
GERAINT LLOYD AC ALAW OWEN
Elusen - Charity
Sefydlu - To establish
Cryfhau - To strengthen
Bodolaeth - Existence
Gwirfoddoli - To volunteer
Angerddol - Passionate
Da byw - Livestock
Deunyddiau hyrwyddo - Promotion materials
Amcanion - Aims
Dioddef - To suffer
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill y 23ain 2024.
1 Trystan ac Emma – Hyd 1.49.
Ar eu rhaglen wythnosol mae Trystan ac Emma yn cynnal cwis gyda Ieuan Jones neu Iodl Ieu fel mae’n cael ei alw. Ac yn ddiweddar roedd rhaid i Ieuan ofyn cwestiwn tie break i Trystan, Emma, a’u gwestai Megan...a dyma’r cwestiwn:
Yn ddiweddar Recently
Llongyfarchiadau Congratulations
2 Rhaglen Ffion Dafis – Hyd 2.28.
Wel, dan ni’n gwybod rŵan pa mor gyflym mae cangarŵ yn medru rhedeg yn tydan?
Ar hyn o bryd mae‘r actor Dafydd Emyr yn perfformio mewn drama lwyfan yn Saesneg yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug. Enw’r ddrama ydy ‘Kill Thy Neighbour‘ a chafodd ei sgwennu gan y dramodydd Lucie Lovatt. Mi gafodd Ffion Dafis, yn ei rhaglen bnawn Sul, sgwrs efo Dafydd Emyr er mwyn cael gwybod dipyn mwy am y ddrama.
Trawiadol Striking
Difrifol Serious
Cyfoes Modern
Cyfredol Contemporary
Y felltith The curse
Dychmygol Imaginary
Trigolion cynhenid Indigenous residents
Estroniaid cefnog Rich outsiders
Rhwystro To prevent
(G)oblygiadau Consequences
Gostwng yn ddifrifo Fallen sharply
3 Beti a’i Phobol – Hyd 2.51.
Dafydd Emyr yn fanna’n sôn am y ddrama ‘Kill Thy Neighbour‘ sydd i’w gweld yn Theatr Clwyd yr Wyddgrug.
Y nofelydd, cogydd ac actores Rhian Cadwaladr oedd gwestai Beti George ddydd Sul ac yn y clip hwn mae hi’n sôn am ei henw ‘Cadwaladr’. Mae hi hefyd yn sôn ei bod yn hoff o hel achau, ac wedi canfod ei bod yn perthyn i Cadwaladr, Brenin y Brythoniaid. Mae hi hefyd yn sôn am ei chefndir yn Llanberis a hanes ei rhieni.
Hel achau To genealogize
Y Brythoniaid The Britons
Canfod To find
Plwyf Parish
Ymwybodol Aware
Rhyfedd Strange
Dirprwy swyddog Deputy officer
Awyrlu Airforce
Be dach chi’n dda? What are you doing?
Alla i ddychmygu can imagine
4 Aled Hughes – Hyd 2.00
Wel, wel, mae Rhian Cadwaladr yn perthyn i un o frenhinoedd y Brythoniaid – pwy fasai’n meddwl!
Mae Antur Waunfawr yn dathlu pen-blwydd yn bedwar deg oed eleni. Mae’r Antur yn rhoi gwaith a chyfleoedd i bobol sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn y gogledd orllewin. Ddydd Gwener y deuddegfed o Ebrill, ‘roedd na daith feics pedwar deg milltir o hyd fel rhan o’r dathliad. Mi fuodd Aled Hughes draw i Gaernarfon i sgwrsio efo Jack Williams, sy’n trefnu’r daith feics ar ran Antur Waunfawr.
Dathliad Celebration
Unigolion Individuals
Trwsio To repair
5 Bore Cothi – Hyd 2.26.
A phen-blwydd hapus i Antur Waunfawr sy’n gwneud gwaith gwerth chweil yn ardal Arfon yng Ngwynedd.
Antur arall sy’n gwneud gwaith campus yng Ngwynedd ydy Antur Aelhearn ym Mhen Llŷn, ac yn ddiweddar ar Bore Cothi, cafodd Shan sgwrs efo John Pritchard, Dirprwy Gadeirydd yr Antur. Mae’r Antur am brynu Becws Glanrhyd, Llanaelhaearn, sydd wedi bod yn yr ardal am bron i gan mlynedd.
Gwerth chweil Worthwhile
Dychmygu To imagine
Galwad A call
Arwr Hero
Mor ddiolchgar So thankful
Llewyrchus Prosperous
Yn hanfodol Essential
Craidd Core
Ehangu To expand
Cynhyrchu To produce
Go sylweddol Quite substantial
Os na watsia i If I don’t look out
6 Dros Ginio – Hyd 2.30.
Pob lwc i’r Antur efo’r fenter newydd, dw i’n siŵr bydd hi’n llwyddiant mawr.
Ddydd Mawrth diwetha ar raglen Dros Ginio, mi gafodd Catrin Heledd gwmni’r meddyg teulu Dr Llinos Roberts, a dyma i chi flas ar sgwrs gaethon nhw am gyflwr ein gwallt ac am effaith hynny ar ein hiechyd:
Cyflwr Condition
Dw i yn cyfadde I admit
Blewyn A hair
Straen Stress
Yn raddol Gradually
Yn ei gylch e About it
Ymddangos To appear
Ansawdd Texture
Menywod Merched
Brau Brittle -
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill yr 16eg 2024
Pigion y Dysgwyr – Francesca
Dych chi’n un o’r rhai sy’n symud eich dwylo wrth siarad?
Mae ymchwil yn dangos mai Eidalwyr sy’n defnyddio y mwya o’r ‘stumiau hyn wrth siarad a rhannu straeon!
Mae teulu Francesca Sciarrillo yn dod o’r Eidal a gofynnodd Alun Thomas iddi oedd hi’n cytuno gyda’r ymchwil...
(Y)stumiau Gestures
Ymchwil Research
Ystrydebol Cliched
Ymwybodol Aware
Sylwi To notice
Hunaniaeth Identity
Am wn i I suppose
Mynegi To express
Lleisiau Voices
Barn An opinion
Pigion y Dysgwyr – Llyfrau Hanes
Bron y gallen ni glywed dwylo Francesca’n symud yn ystod y sgwrs yna on’d ife? Ond dwi’n siŵr mai llonydd iawn basai ei dwylo hi wrth drafod pethau diflas, a llyfrau hanes diflas oedd testun sgwrs Aled Hughes gyda’r hanesydd Dr Mari William fore Iau, ond beth sy’n ddiflas i’r hanesydd tybed?
Llonydd Still
Diflas Boring
Milwrol Military
Agweddau Aspects
Yn ddiweddar Recently
Pori To browse
Taro To strike
Cymhleth Complicated
Rhaid i mi gyfadde(f) I must admit
Ysgolheictod Scholarship
Astrus Obscure
Pigion y Dysgwyr – Beti a Huw
Dr Mari William oedd honna’n sôn wrth Aled Hughes am ba lyfrau hanes sy’n ddiflas iddi hi.
Nos Lun ar S4C, roedd cyfres newydd i’w weld sef Cysgu o Gwmpas. Beti George a Huw Stephens sydd yn cysgu o gwmpas Cymru mewn gwestai moethus. Yn y rhaglen gynta, roedd y ddau’n ymweld â Pale Hall yn Llandderfel ger y Bala, ac roedd Beti yn cael aros yn yr un ystafell ac y buodd y Frenhines Victoria yn aros ynddi flynyddoedd maith yn ôl! Shan Cothi fuodd yn holi’r ddau.
Moethus Luxurious
Cyflwynydd Presenter
Darganfod To discover
Anhygoel Incredible
Pigion y Dysgwyr – Gwyl Ban Geltaidd
Wel dyna fywyd braf gan Beti a Huw, on’d ife, yn cael aros mewn gwestai moethus ac yn cael bwyta bwyd anhygoel!
Sara Davies enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru eleni ac mae enillydd y gystadleuaeth honno wastad yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd, sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn yn Iwerddon. Yn nhref Carlow, yn ne-ddwyrain Iwerddon oedd yr Ŵyl eleni ac enillodd Sara gystadleuaeth y Gân Ryngwladol Orau yn yr Ŵyl gyda'r gân ‘Ti’. Gofynnodd Aled Hughes iddi hi fore Llun sut oedd hi’n teimlo ar ôl iddi hi ennill y gystadleuaeth...
Rhyngwladol International
Suddo To sink
Alla i ddychmygu I can imagine
Profiadau Experiences
Canlyniad Result
Pigion y Dysgwyr – Jonathan Rio
A llongyfarchiadau mawr i Sara am y fuddugoliaeth on’d ife!
Gwestai Beti George oedd Jonathan Roberts sy’n dod o’r Bala yn wreiddiol ac sydd erbyn hyn yn gweithio fel cyfieithydd yn Rio de Janeiro ers bron i 30 mlynedd. Buodd yn byw yn Lerpwl a Llundain cyn teithio i Brasil a syrthio mewn cariad gyda’r ddinas. Dyma fe’n sôn wrth Beti am yr adeg daeth ei dad i aros ato fe yn Rio...
Buddugoliaeth Win
Cyfieithydd Translator
Peryglus Dangerous
Ffon Stick
Pigion y Dysgwyr – RNLI
Mae’n swnio fel bod tad Jonathan yn ddyn lwcus iawn ond yw e?
Mae’r RNLI yn dathlu dau ganmlwyddiant eleni ac Emma Dungey (ynganu fel Bungee jump) o orsaf Bad Achub Y Bari, fuodd yn sôn wrth Shan Cothi fore Gwener am sut daeth hi ymuno â’r RNLI..
Dau ganmlwyddiant Bicentenary
Bad achub Lifeboat
Ymuno â To join
Rhiant Parent
Mewn cysylltiad â In contract with
Hyfforddiant Training -
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill yr 9fed 2024
Pigion y Dysgwyr - Rosalie
Caryl 020224
Rosalie Lamburn o Moggerhanger ger Bedford oedd gwestai Caryl nos Fawrth ac roedd Caryl eisiau gwybod mwy am gefndir Rosalie. Cafodd hi ei geni yn Hong Kong ar ddechrau’r rhyfel, cyn symud i fyw i Awstralia a symud wedyn o fanno i Ddeiniolen ger Llanberis. Dyma Rosalie yn dechrau drwy sôn am ei hatgofion o Awstralia.
Rhyfel War
Atgofion Memories
Mynyddog Mountainous
Anferth Huge
Bobol annwyl Goodness me
Llong Ship
Grawnwin Grapes
Pigion y Dysgwyr – Magnets Oergell
Aled Hughes 030424
Rosalie Lamburn oedd honna’n sôn am ei phrofiad yn symud i Gymru o Awstralia pan oedd hi’n chwech oed.
Dych chi’n un o ‘r rhai sy’n hoff o brynu magnet i roi ar y ffrij, neu’r oergell, pan dych chi ar wyliau? Wel mae’n ffordd dda o gofio am y gwyliau ymhen blynyddoedd wedyn on’d yw e? Mae Lowri Mair Williams newydd fod yn teithio am 5 mis yn Asia ac fel cawn ni glywed, mae casglu magnetau yn rhan bwysig o’i gwyliau iddi hi...
Traddodiad Tradition
Celf Art
Llawn bwrlwm Buzzing
Cynnyrch lleol Local produce
Pwytho â llaw Handstitched
Pren Wood
Cysylltiad Connection
Atyniad Attraction
Pigion y Dysgwyr – Clare Mackintosh
Dros Ginio 02.04.24
Faint o le sydd ar ffrij Lowri erbyn hyn tybed i gadw’r holl fagnetau na?
Mae’r awdures Clare Mackintosh, sy’n byw yn y Bala, wedi cyhoeddi ei llyfr diweddara. Fel arfer basen ni’n cysylltu ei llyfrau hi â ffuglen a throsedd, ac mae ei llyfrau wedi gwerthu dros 2 filiwn ar draws y byd. Mae ei llyfr diweddara yn wahanol iawn i’r lleill ac yn sôn am ei phrofiad personol hi o alar…
Ffuglen a throsedd Fiction and crime
Diweddara Most recent
Galar Grief
Dynes Menyw
Cennin Pedr Daffodils
Amser maith yn ôl A long time ago
Yn union Exactly
Pigion y Dysgwyr – Cerys Hafana
Beti a’i Phobol 070404
A dw i’n siŵr bydd llyfr diweddara Claire yn gysur ac yn gymorth i rai eraill sy’n galaru ar ôl colli rhywun agos.
Tair perfformwraig sydd i’w clywed yn y tri chlip nesa ‘ma gan ddechrau gyda’r delynores ifanc, Cerys Hafana, oedd yn westai ar Beti a’i Phobol ddydd Sul,
Dim ond 22 oed ydy hi ac mae hi’n berfformwraig boblogaidd iawn oherwydd ei harddull arbennig yn canu’r delyn. Cafodd hi ei geni yn Chorlton, Manceinion ac yma mae hi’n sôn am hanes ei theulu….
Cysur Comfort
Telynores Harpist
Arddull Style
Chwarelwyr Quarrymen
Dychwelyd To return
Cwympo To fall
Pigion y Dysgwyr – Golden Oldies
Bore Cothi 020404
Ac mae Cerys yn perfformio mewn sawl lleoliad yng Nghymru rhwng nawr a’r haf – cerwch i’w gweld os cewch chi gyfle, mae’n delynores arbennig iawn.
Buodd Shelley Morris o Faenclochog yn Sir Benfro yn sôn am brosiect arbennig sef y Golden Oldies ar Bore Cothi. Cynllun ydy hwn drwy Gymru sy’n cynnig siawns i rai ddod at ei gilydd i fwynhau a chael cyfle i ganu pob math o ganeuon, nid fel côr, ond yn fwy hamddenol. Ond mae Shelley yn berfformwaig ei hunan hefyd, a dyma hi’n sôn wrth Shan Cothi am ei phrofiad hi o berfformio ar lwyfannau enwog iawn...
Hamddenol Leisurely
Profiad Experience
Llwyfannau Stages
Nefoedd annwyl Good Heavens
Pigion y Dysgwyr – Connie Orff
Caryl 030204
Wel pob lwc i’r Golden Oldies on’d ife? Mae’n swnio’n brosiect diddorol a hwyliog iawn.
Ac yn ola, y frenhines drag, Connie Orff, gafodd sgwrs gyda Caryl i sôn am beth sy’n gwneud perfformiad drag llwyddiannus …
Dylanwadau Influences
Uniaethu fel To identify as
Ffraeth Witty
Israddol Inferior
Caniatáu To permit -
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill yr 2il 2024
Pigion y Dysgwyr – Tomos Owen
Mae dyn o Gaernarfon wedi dechrau menter newydd yn gwneud "smoothies". Beth sy’n arbennig ydy bod beic yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu’r "smoothies". Cafodd Aled Hughes air gyda Tomos Owen ddydd Mawrth diwetha am ei fenter.
Cynhyrchu To produce
Ar y cyd Together
Hybu To promote
Maeth Nutrition
Troellwr Spinner
Atgofion Memories
Agwedd Aspect
Lles Welfare
Manteisio ar To take advantage of
Addas Suitable
Pigion y Dysgwyr – Andy John
Wel dyna ffordd ddiddorol o gael plant i yfed "smoothies" on’d ife?
Sawl Archesgob sydd gyda tatŵ tybed? Wel, mae gan Archesgob Cymru, Y Parchedicaf Andy John, datŵ mawr iawn a fe oedd gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol yr wythnos hon…
Archesgob Archbishop
Y Parchedicaf The Most Reverand
Atgof memory
Pam lai? Why not?
Olrhain To trace
Pigion y Dysgwyr – Pasg
Hanes tatŵ’r Archesgob yn fanna ar Beti a’i Phobol.
Ond sôn am ddathliadau’r Pasg oedd y Parchedig Beti Wyn James pan fuodd hi’n sôn am draddodiadau’r Pasg ar draws y byd wrth Shan Cothi. Dyma’r gweinidog o Gaerfyrddin yn sôn am sut mae Cristnogion Ethiopia’n dathlu…
Traddodiadau Traditions
Gweinidog Minister
Amrywio To vary
Y Grawys Lent
Ymprydio To fast
Dipyn o her Quite a challenge
Gwylnos A vigil
Y wawr Dawn
Mae’n ymddangos i mi It appears to me
Pigion y Dysgwyr – Twin Town
Y Parchedig Beti Wyn James oedd honna’n sôn am ddathliadau Pasg Ethiopia.
Nos Lun wythnos diwetha ar ei raglen cafodd Rhys Mwyn gwmni yr actor Llŷr Ifans. Fe, a’i frawd Rhys, oedd prif gymeriadau’r ffilm gomedi enwog Twin Town recordiwyd yn Abertawe a’r cyffiniau. Dyma Rhys yn holi Llŷr am ei atgofion o cael ei gastio i actio yn y ffilm……
Prif gymeriadau Main characters
Cyffiniau Vicinity
Ymchwil manwl iawn Very detailed research
Ymwybodol Aware
Awyddus iawn Very keen
Cyfweliad Interview
Fatha Fel
Plentyndod Childhood
Profiad Experience
Pigion y Dysgwyr – Piano
Ac os dych chi wedi gweld y ffilm, dw i’n siŵr basech chi’n cytuno bod perthynas y ddau frawd wedi dod drosodd yn wych ynddi hi.
Mae sawl diwrnod arbennig yn ystod y flwyddyn i ddathlu’r hyn neu’r llall on’d oes yna? Ond oeddech chi’n gwybod bod Diwrnod Rhyngwladol y Piano i’w gael? Catrin Haf Jones fuodd yn holi’r pianydd Gwenno Morgan ar Dros Ginio a gofyn iddi hi beth mae’r diwrnod arbennig hwn yn ei olygu iddi hi…
Offeryn Instrument
Cyflawni To achieve
Anwybyddu To ignore
Cymryd yn ganiataol Taking for granted
Cerddorfa Orchestra
Cyfeilyddion Accompanists
Hyblyg Flexible
Y deunawfed ganrif 18th century
Esblygu To evolve
Pigion y Dysgwyr – Isabella
Ac mae perfformio yn ganolog i’r sgwrs nesa ‘ma wrth i ni wrando ar Aled Hughes yn sgwrsio gyda Isabella Colby Browne, actores sydd wedi dysgu Cymraeg, ac sydd erbyn hyn yn actio yn Gymraeg ar lwyfan gyda chwmni Arad Goch.…
Mae Isabella yn dal i gael gwersi Cymraeg ar-lein ac mae hi am fynd ar gwrs i Nant Gwrtheyrn cyn bo hir.
Yr Wyddgrug Mold
Llwyfan Stage
O ddifri(f) Seriously
Tanio dy frwdfrydedd Sparked your enthusiam
Argraff enfawr A huge impression
Diwylliant Culture
Ailgysylltu To reconnect
Parch Respect -
Podlediad Pigion y Dysgwyr y 26ain o Fawrth 2024
Pigion y Dysgwyr – Shelley Musker Turner
Ddydd Mercher diwetha cafodd Shan Cothi gyfle i sgwrsio gyda
Shelley Musker Turner sy’n aelod o’r grwp gwerin Calan, ond yn y clip nesa ‘ma sgwrsio maen nhw am waith Shelley gyda cheffylau yn y byd ffilmiau. Gweithio fel cyfrwywr mae hi a dyma hi’n sôn mwy am y gwaith
Cyfrwywr Saddler
Cymwysterau Qualifications
Ffodus Lwcus
Creadigol Creative
Ail-greu To recreate
Lledr Leather
Cyfrwy Saddle
Ar waith In the pipeline
Amrywiaeth Variety
Pigion y Dysgwyr – Mike Olson
Waw, mae Shelley wedi gweithio ar rai o’r ffilmiau mwya enwog, on’d yw hi?
Daw Mike Olson o Winnipeg yng Nghanada yn wreiddiol ond mae e wedi dysgu Cymraeg ac yn ei defnyddio yn ei waith bob dydd. Fe yw Dysgwr y Flwyddyn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Mike ddydd Mercher ar ei raglen, a dyma’r cwestiwn cynta ofynnodd Aled iddo fe...
Iechyd Cyhoeddus Public Health
Cydweithiwr Co-worker
Sylwi To notice
Heb os nac oni bai Without doubt
Brwdfrydedd Enthusiasm
Y cyfnod clo The lockdown
Degawd Decade
Ymdrech Effort
Pigion y Dysgwyr – Cofio Y Gwanwyn
Mike Olson oedd hwnna’n sôn am ei daith i ddod yn siaradwr Cymraeg rhugl.
Y Gwanwyn oedd thema rhaglen archif Radio Cymru “Cofio” yr wythnos hon. A phob Gwanwyn wrth gwrs mae’r clociau yn cael eu troi ymlaen awr. Dyma’r hanesydd Bob Morus i esbonio pam dyn ni’n gwneud hyn, a syniad pwy oedd e yn y lle cynta
Ymgyrch Campaign
Ymwybodol Aware
Goleuni Light
Glynu To stick
Galluogi To enable
Heulwen liw nos Evening sun
Ennyn cefnogaeth To elicit support
Mesur A Bill
Deddf Statute
Cynhyrchu arfau Arms manufacturing
Ar fyrder In haste
Pigion y Dysgwyr – Liz Saville Roberts
Cofiwch droi’r clociau yna ymlaen cyn mynd i’r gwely nos Sadwrn nesa, ac roedd hi’n ddiddorol cael gwybod ychydig o hanes yr arfer yma on’d oedd hi?
Liz Saville Roberts yw Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ac mae hi newydd ymddangos ar restr flynyddol cylchgrawn ‘The House’ sef ‘Merched San Steffan 2024 – y 100’.. Beth mae Liz yn ei feddwl o fod ar y rhestr hon?
San Steffan Westminster
Braint Privilege
Cydnabod Acknowledge
Dylanwadu To influence
Yn eu plith nhw Amongst them
Pleidiau gwleidyddol Political parties
Awch Eagerness
Ysgogiad Motivation
Rhagflaenydd Predecessor
Pigion y Dysgwyr – Geraint Jones
A llongyfarchiadau i Liz Saville Roberts ar ennill ei lle ar y rhestr bwysig hon on’d ife?
Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol yr wythnos hon oedd Geraint Jones. Mae e’n dod o Sir Benfro a dyma fe’n sôn am ei dad, oedd yn blismon pentre yng ngogledd y Sir. A cofiwch bod cyfle i glywed y rhaglen hon i gyd drwy fynd i BBC Sounds.
Cyfrifol am Responsible for
Lles Welfare
Trwyddedau Licenses
Yn feunyddiol Daily
Carcharor Prisoner
Gwendidau Weaknesses
Lleithio Becoming damp
Pallu Methu
Bygwth gwae Threatening
Llyw Steering wheel
Pigion y Dysgwyr – Caryl
Wel dyna stori ddoniol, a dw i’n siŵr bod llawer o straeon eraill gan Geraint am ei dad y plismon pentre.
Ar ei rhaglen nos Fercher ddiwetha cafodd Caryl sgwrs gyda Huw Rowlands sy wrth ei fodd gyda choginio, ac sydd yn hyfforddi teuluoedd i goginio. Dyma fe i ddweud mwy am sut cychwynnodd y fenter hyfforddi a hefyd am sut dechreuodd e ei hunan goginio
Ysbrydoliaeth Inspiration
Denu dy sylw di Drew your attention
Pice ar y maen Welsh cakes
Cas-gwent Chepstow
Cynhwysion Ingredients
Llwyfannau cymdeithasol Social media
Ryseitiau pobi Baking recipes
Cacen glou A quick cake -
Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 19eg o Fawrth 2024
DROS GINIO 11.03.24
Buodd Rhodri Llywelyn yn holi Mahum Umer o Gaerdydd. Mae’r cyfnod Ramadan i Foslemiaid ar draws y byd wedi cychwyn. Beth mae’r ŵyl yn ei olygu i Foslem ifanc Cymraeg?
Ympryd A fast
Cymuned Community
Nodi To mark
Crefyddol Religous
Datgelu To reveal
Hunanddisgyblaeth Self discipline
Llai ffodus Less fortunate
Ansicrwydd Uncertainty
Heriol Challenging
Adlewyrchu To reflect
ALED HUGHES 12.03.24
Blas ar sut mae cyfnod Ramadan yn effeithio ar Foslemiaid ifanc Cymru yn fanna ar Dros Ginio.
Pwy fasai’n meddwl ei bod yn bosib cynhyrchu gwin cyn belled i’r gogledd â Dyffryn Clwyd? Wel dyna sy’n digwydd yng Ngwinllan y Dyffryn a buodd perchennog y winllan, Gwen Davies, yn sgwrsio gydag Aled Hughes fore Mawrth am yr her o dyfu grawnwin yn yr ardal honno.
Cynhyrchu To produce
Gwinllan Vinyard
Her A challenge
Grawnwin Grapes
Llethr Slope
Gwerthfawrogi To appreciate
Addas Appropriate
Sefydlu To establish
Micro hinsawdd Microclimate
Yn y man Mewn munud
Gwinwydd Vines
Arallgyfeirio To diversify
GEORGIA RUTH 12 03 24
Ac erbyn hyn mae sawl gwinllan yng Nghymru on’d oes e? Pwy â ŵyr, falle mai Cymru bydd y Bordeaux newydd!
Bardd mis Mawrth Radio Cymru yw Sam Robinson. Mae e'n byw ym Machynlleth, nawr ond yn dod o Rydychen yn wreiddiol ac mae e’n rhugl yn y Gymraeg erbyn hyn. Dyma fe’n sôn wrth Georgia Ruth am daith arbennig buodd e arni i Wlad y Basg...
Rhydychen Oxford
Gwlad y Basg The Basque Country
Offeryn Instrument
Gwneuthurion Manufacturers
Preniach Small pieces of wood
Pastynau Clubs
Gwledda To feast
Wedi swyno Charmed
Ymatebol Responsive
Llanast Mess
Rhyfeddol Wonderful
BORE COTHI 15.03.24
Un arall sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhyfeddol, fel Sam Robinson
yw Debora Morgante o Rufain. Mari Grug oedd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes dydd Gwener, noson cyn gêm rygbi Cymru a’r Yr Eidal, a chafodd hi sgwrs gyda Debora gan ofyn iddi hi sut gwnaeth hi ddysgu Cymraeg yn y lle cynta...
Rhufain Rome
Cwrs Preswyl Residential course
Ymarfer To practice
DROS FRECWAST 14.03.23
Debora Morgante o Rufain oedd honna, fuodd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn yn 2015. Yn anffodus colli wnaeth Cymru yn y gêm yn erbyn yr Eidal a hon oedd gêm ola George North i chwarae dros Gymru gan iddo ddweud basai’n ymddeol yn dilyn y gêm honno. Cennydd Davies fuodd yn sgwrsio gyda George am ei benderfyniad.
Rhestr fer Short list
Penderfyniad enfawr Huge decision
Cyflawni To achieve
Y cyhoedd The public
Uchafbwynt Highlight
BETI A’I PHOBOL 17.03.24
George North oedd hwnna enillodd cant dau ddeg o gapiau i Gymru gan ennill ei gap cynta yn 2010. Trueni mawr ei fod yn ymddeol ond mae e wedi rhoi gwasanaeth arbennig i Gymru dros y blynyddoedd.
Hazel Thomas o Lanwenog yng Ngheredigion fuodd yn sôn wrth Beti George am ei hamser yn gweithio fel chef yn y Dorchester yn Llundain …y ferch gynta i wneud hynny!
Trueni Bechod
Sylw a stwr Fuss and attention
Cefn gwlad The countryside
Enwoca The most famous
Bodoli To exist