Sgwrs Selar Y Selar
-
- Music
Sgyrsiau rhwng cylchgrawn Y Selar a cherddorion amrywiol.
-
Sgwrs Selar: Partneriaethau - Elin Fouladi a Dafydd Dabson (Derw)
Yn y drydedd bennod o gyfres fer Sgyrsiau Selar, rydyn ni'n sgwrsio gyda dau artist arall sydd wedi bod yn cyd-weithio'n ddiweddar. Y gwesteion diweddaraf ydy Elin Fouladi a Dafydd Dabson sydd wedi cyd-weithio tipyn dros y blynyddoedd, ond dros y flwyddyn ddiwethaf wedi sefydlu'r grŵp Derw ar y cyd.
Mae EP newydd Derw, Yr Unig Rai Sy'n Cofio, allan ar label CEG Records nawr.
Cerddoriaeth intro: 'Mikhail' - Derw -
Sgwrs Selar: Partneriaethau - Cwtsh
Ail bennod cyfres fer o sgyrsiau Selar lle byddwn ni'n sgwrsio gydag artistiaid sydd wedi bod yn cyd-weithio'n ddiweddar. Mae'r gwesteion ar gyfer y bennod yma wedi ffurfio band go iawn dros y flwyddyn ddiwethaf, yn hytrach na jyst cyd-weithio. Er hynny, mae'r tri yn gerddorion profiadol sydd wedi gweithio ar nifer o brosiectau eraill, felly roedd yn ddifyr clywed sut mae pethau wedi bod yn wahanol iawn i Cwtsh...er, efallai nid mor wahanol a hynny i'r hyn roedden nhw'n cynllunio yn y lle cyntaf.
Mae'r albwm, Gyda'n Gilydd, allan ar Bandcamp Cwtsh yn swyddogol ar 26 Chwefror 2021.
Cerddoriaeth intro: 'Tymhorau' - Cwtsh -
Sgwrs Selar: Partneriaethau - Mr Phormula a Gwion Roughion
Pennod gyntaf cyfres fer o sgyrsiau Selar lle byddwn ni'n sgwrsio gydag artistiaid sydd wedi bod yn cyd-weithio'n ddiweddar. Y gwestai cyntaf ydy Ed Holden (aka Mr Phormula) a Gwion James (un hanner y grŵp electronig, Roughion a label Afanc) sydd wedi bod yn cyd-weithio ar gasgliad o ail-gymysgiadau o ganeuon albwm diweddar Mr Phormula, Tiwns wedi'i guradu gan Afanc.
Cerddoriaeth intro: 'More To This' - Mr Phormula (Sachasom remix)