Siarad Secs BBC Radio Cymru
-
- Cultura y sociedad
Lisa Angharad a'i gwesteion yn siarad am ryw a rhywioldeb mewn ffordd agored a gonest. Popeth yn Gymraeg!
Mae'r podlediad yma'n trafod themâu o natur rywiol ac yn cynnwys iaith gref.
-
Pam dwi'n trafod rhywedd yn y dafarn yn Llanuwchllyn
Lisa Angharad yn sgwrsio gyda Meilir Rhys am ei rywedd ('gender') a'i rywioldeb ('sexuality'), pam ei fod yn gwrthod y labeli taclus a pham ei fod yn hoffi eu trafod yn y dafarn yn Llanuwchllyn.
Mae'r podlediad yma'n trafod rhyw yn agored. Cynhyrchwyd gan Astud i BBC Sounds. -
Jess Davies: Modelu, rhyw a ffeministiaeth
Lisa Angharad yn sgwrsio gyda Jess Davies am ei phrofiad o fodelu 'glamour', pam bod hi'n bwysig bod merched yn mwynhau rhyw a sut i deimlo'n dda am ein cyrff ('body positivity').
Mae'r podlediad yma'n trafod rhyw yn agored ac yn cynnwys iaith gref iawn. Cynhyrchwyd gan Astud i BBC Sounds. -
Pam fod dynion strêt eisiau rhyw gyda brenhines drag?
Lisa Angharad yn sgwrsio gyda Kris Hughes am baganiaeth, y profiad o ddod allan yng ngogledd Cymru yn yr 80au a pham bod gymaint o ddynion syth/heterorywiol eisiau rhyw gyda brenhines drag enwocaf Cymru, Maggi Noggi.
Mae'r podlediad yma'n trafod rhyw yn agored ac yn cynnwys iaith gref iawn. Cynhyrchwyd gan Astud i BBC Sounds. -
Y gwir am ryw lesbiaidd
Lisa Angharad yn sgwrsio gyda'r actor a cherddor Emmy Stonelake am ryw lesbiaidd cariadus (sy'n wahanol iawn i'r hyn sydd mewn pornos), a'r profiad o fod yn panrywiol ('pansexual').
Mae'r podlediad yma'n trafod rhyw yn agored ac yn cynnwys iaith gref iawn. Cynhyrchwyd gan Astud i BBC Sounds. -
Y boen wrth drio am blant
Lisa Angharad yn holi Nia Parry am ei phrofiad personol o drio am blant, cael problemau wrth feichiogi, cael plant a pha effaith gafodd y cyfan ar ei pherthynas â rhyw.
Mae'r podlediad yma'n trafod rhyw yn agored ac yn cynnwys iaith gref iawn. Cynhyrchwyd gan Astud i BBC Sounds. -
Pam dwi'n dewis gwneud gwaith rhyw
Lisa Angharad yn cael sgwrs arbennig gyda gweithiwr rhyw sydd yn egluro sut ddechreuodd yn y swydd a pham ei fod yn dewis gwneud hynny.
Mae'r podlediad yma'n trafod rhyw yn agored ac yn cynnwys iaith gref.