Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM Llwyd Owen
-
- Arts
-
Podlediad yng nghwmni'r awdur o Gaerdydd, Llwyd Owen, a fydd yn croesawu gwestai arbennig am siat (ie, siat) yn y sied ym mhob pennod.
-
-
Pennod 058 - Fflur Dafydd
*CAFODD Y BENNOD HON EI RECORDIO O BELL, FELLY MADDEUWCH Y SYNAU CEFNDIROL PLIS!*
Orig hyfryd yng nghwmni’r awdur slash sgriptiwr slash academydd slash cantor slash dramodydd slash cynhyrchydd ffilm a theledu, Fflur Dafydd.
Pynciau llosg: ffeindio Y cyfrwng, dilysrwydd yr awdur, cydbwysedd gwaith-a-bywyd, bara banana, euogrwydd y gweithiwr llawrydd, Ble the fuck ma Penrhiwllan?, rhieni ysbrydoledig, Cymdeithas yr Iaith, enwau plant sili, eisteddfota, caws, Caryl Lewis, bysgio yn Aberaeron, Johnny Panic, RS Thomas, y gwaith, blydi plant, gwobrau lu, Ynys Enlli, Y Llyfrgell, Euros Lyn, Parch a llawer mwy.
Customer Reviews
Joio Llwyd yn Llwyr
Dim ond yn ddiweddar wnes i ffeindio’r podlediad gwych yma…..3 neu 4 mlynedd yn rhy hwyr, yn anffodus. Cytuno gyda phob gair Sionmun. Mae hyn yn bodlediad heb ei ail. Mor naturiol, mor “real”, mor wahanol i’r delwedd “stuffy” o bethau Cymraeg yn y cyfryngau a mor, mor ddoniol. Mwy nag unwaith chwerthinais i’n uchel pan yn gwrando wrth fynd am dro. Awkward looks all round!
Y clod mwyaf allai roi yw nag oes diddordeb ‘da fi o gwbl yn y byd celfyddydau…..boed y theatr, teledu, cerddoriaeth, barddoniaeth neu awduron. Ond wnes i llwyr joio bron bob un pennod, er i fi ond nabod ambell un gwestai.
Personal highlight fi oedd y mwnciod ym Mhenscynor (absolute gold!) ond shout-out hefyd i Pritti Patel 😀
Y podcast gore am ddiwyliant Cymru gyfoes
Mae’r cymysgedd o gyfweliadau, trafodaeth ar newyddion sy’n effeithio Cymru a’r Cymry, Cerddoriaeth, Teledu, Twitter a thu hwnt mewn iaith normal da rhegi normal â hiwmor tywyll Llwyd yn chwip o awyr iach i ddiwylliant Cymru. Mae’n trin y gwrandawyr fel oedolion wrth i’r sgyrsie deithio rhwng pyncie dwys fel Brexit, pethe angerddol fel annibyniaeth, pethe grac am Alun Cairns a Katy Jopkins, dafft fel clipings newyddion rownd y byd a doniol fel straeon am gachu’ch hunan ar drips ysgol Glantaf. Ma’r stwff ddysges am gerddoriaeth Cymru trwy’r yn y penodau da Yws Gwynedd & Dyl Mei werth tanysgrifiad ar ben ei hun. Un o’n hoff bodlediadau, nid dim ond yn y Gymraeg ond o’r job lot