3 episodes

Mwydro a malu awyr am nyrdrwydd a gemau. Yn Gymraeg.

Podlediad f8 Fideo Wyth

    • Leisure

Mwydro a malu awyr am nyrdrwydd a gemau. Yn Gymraeg.

    Sdim Byd Gwell Na Cracio Pac ar Agor

    Sdim Byd Gwell Na Cracio Pac ar Agor

    Elidir a Daf yn trafod gemau cardiau, rhai corfforol a digidol, y gwahaniaethau rhwng y systemau, eu llwyddiannau a gwendidau a dipyn bach o hanes y genre is o'r nyrdfyd. Ymestynwch eich slipars, mae'n amser paned i'r clustiau.

    • 39 min
    Pennod 10: "Nid Aur Yw Popeth Retro"

    Pennod 10: "Nid Aur Yw Popeth Retro"

    Ar ôl unarddeg mis o ddisgwyl, mae Pod Wyth yn ôl! Allwch chi gredu'r peth? Wedi ei recordio, am y tro cynta erioed, efo'r cyflwynwyr yn yr un ystafell. Ac yn cynnwys sgiliau golygu proffesiynol Daf Prys. Disgwyliwch lot o jingls ffansi.

    Yn rhifyn #10 (nid rhifyn #11, dim ots be 'dan ni'n ei ddweud yn y bennod):

    - Yr holl gemau sydd wedi bod yn ein ticlo ni'n ddiweddar. Monster Hunter World! Celeste! Slay the Spire! Battlefield! A trafodaeth ehangach o gemau 'battle royale'.

    - Yn y newyddion: blwyddyn aruthrol gyntaf y Nintendo Switch, newidiadau ar y ffordd i'r PS4, ac Assassin's Creed yn mynd yn addysgiadol.

    - Gemau bwrdd! Ein hoff beth. Yn y byd. Clywch ein hargraffiadau o Inis, Kingdomino, a Hanamikoji. Wel, ai nefar.

    - Be ydi ystyr 'retro'? Daf sy'n trio esbonio, ac Elidir yn saethu tyllau yn ei ddadl.

    - Yr 'ogia'n trafod y dadlau ynghylch Kingdom Come: Deliverance, Kickstarter, a mudiad Gamergate. Pethau'n mynd bach yn dywyll, bois.

    Mwynhewch!

    • 1 hr 8 min
    Merched mewn sci fi, ffantasi a gemau fideo

    Merched mewn sci fi, ffantasi a gemau fideo

    Sgwrs efo Elan Grug Muse a Miriam Elin Jones ynglyn a sut mae nhw'n gweld tirwedd cynrychiolaeth merched ym mydoedd gemau fideo, sci fi a ffantasi. Daf Prys sy'n sdryglo i ddal i fyny efo rhain.

    • 38 min

Top Podcasts In Leisure

BBC Gardeners’ World Magazine Podcast
Immediate Media
Smith and Sniff
Jonny Smith and Richard Porter
The Collecting Cars Podcast with Chris Harris
Collecting Cars
Gardeners' Question Time
BBC Radio 4
The Chromologist
Farrow & Ball
Fallout Lorecast - The Fallout Video Game & TV Lore Podcast
Robots Radio