
7 episodes

Siarad Secs BBC
-
- Comedy
-
-
5.0 • 9 Ratings
-
Lisa Angharad a'i gwesteion yn siarad am ryw a rhywioldeb mewn ffordd agored a gonest.
Mae'r podlediad yma'n trafod themâu o natur rywiol ac yn cynnwys iaith gref.
-
Curo'r cywilydd
Lisa Angharad yn sgwrsio gyda'r cartwnydd a chyflwynydd Siôn Tomos Owen a'r ffeminydd ac arbenigwraig hanes Sara Huws.
Maen nhw'n trafod ein 'cywilydd' am ryw - eu profiadau personol, ei effaith ar unigolion, a sut allwn ni ddod drosto.
Mae'r podlediad yma'n trafod themâu o natur rywiol ac yn cynnwys iaith gref iawn. -
‘Dwi ddim yn teimlo fel menyw na dyn’
Mae Rhi Kemp-Davies yn hyfforddi ac addysgu pobl am ryw, ac yn y podlediad yma mae Rhi yn rhannu ei stori bersonol am fyw fel person aneuaidd (non-binary) yng Nghymru heddiw.
Maen nhw hefyd yn trafod y profiad o gynghori pobl traws (trans) ar berthnasau a rhyw.
Mae'r podlediad yma'n cynnwys themâu o natur rywiol a iaith gref. -
Sut i roi condom ar fanana
Lisa Angharad yn sgwrsio gyda'r sgwennwr ac actor Alun Saunders a'r fyfyrwraig feddygaeth Ffraid Gwenllian.
Maen nhw'n rhannu eu profiadau o drafod rhyw wrth dyfu fyny, addysg rhyw mewn ysgolion, ac yn trafod sut i siarad am ryw gyda'ch plant a'ch rhieni. Oes rhaid iddo fod mor anodd a chwithig?
Mae'r podlediad yma'n trafod themâu o natur rywiol ac yn cynnwys iaith gref. -
Be' dwi 'di dysgu wrth wylio porn
Lisa Angharad yn sgwrsio gyda'r actores a sgwennwr Hanna Jarman a'r cyfarwyddwr artistig Elgan Rhys.
Maen nhw'n trafod pornograffi, eu profiadau o ysgrifennu ac actio mewn dramâu sy'n cynnwys golygfeydd rhyw, a'r defnydd o iaith wrth gael rhyw.
Mae'r podlediad yma'n trafod themâu o natur rywiol ac yn cynnwys iaith gref. -
Ydw i'n 'bi'?
Strêt, hoyw, lesbian, deurywiol - oes angen label?
Lisa Angharad yn sgwrsio gyda'r artist Elin Meredydd a'r comedïwr Steffan Alun am eu rhywioldeb, yr orgasm benywaidd, a pha mor agored ydyn nhw am ryw.
Mae'r podlediad yma'n trafod themâu o natur rywiol ac yn cynnwys iaith gref. -
Helo, libido!
Pam bod hi mor anodd i drafod dy libido?
Yr actores Carys Eleri a'r myfyriwr nyrsio John Vale sy'n ymuno â Lisa Angharad i drafod libidos a'u profiadau, da a drwg, o ddefnyddio dating apps.
Mae'r podlediad yma'n trafod themâu o natur rywiol ac yn cynnwys iaith gref.
Customer Reviews
Top Podcasts In Comedy





