49 episodes

Stori Cymru Addysg Cymru - Education Wales
-
- History
-
-
5.0 • 4 Ratings
-
Cyfres Chwe awr oedd The Story of Wales a ddarlledwyd gyntaf yn 2012 ar BBC ONE Wales ac wedyn ar rwydwaith BBC TWO. Cafwyd y gyfres hon ei gynhyrchu fel cynhyrchiad cydweithredol gan y BBC ar Brifysgol Agored. Mae’r gyfres dirnod hon yn adrodd stori Cymru o’r cyfnod cynhanes hyd y cyfnod modern. Mae’r stori epig yn dirwyn drwy gaerau mynydd yr Oes Haearn a phresenoldeb enfawr y Rhufeiniaid yng Nghymru, drwy Hywel Dda yn uno’r wlad o dan un gyfraith a brwydrau arweinwyr Cymru, megis Llywelyn ac Owain Glyndŵr, gyda’r brenhinoedd Normanaidd a brenhinoedd Lloegr. Mae’r stori sy’n gwibio’n gyflym a dramatig yn parhau wrth i’r Cymry fod yng nghalon y llys Tuduraidd, ac yn ein harwain drwy brysurdeb enfawr newid yn y wlad wrth i byllau glo a gweithfeydd haearn ffynnu - gydag arloesedd technolegol ac addysgol yn gosod Cymru ar y blaen i’r byd yn y Chwyldro Diwydiannol - ac yn dod i’w phenllanw gyda datganoli a chreu Llywodraeth Cymru.
Huw Edwards, cyflwynydd News at Ten y BBC sy’n adrodd y stori afaelgar hon am y genedl, gan ddangos pa mor ddylanwadol y bu Cymru ar hyd yr oesoedd. Yn ogystal â’r arwyr a’r brwydrau, dengys y gyfres pa mor aml, drwy’r canrifoedd cythryblus, y bu Cymru ar flaen y gad mewn newid ac arloesedd.
-
- video
Rhagair i Stori Cymru
Huw Edwards sy’n cyflwyno casgliad o straeon o’i gyfres hanes nodedig i BBC Cymru, The Story of Wales.
-
- video
Bywyd Pob Dydd Celtiaid yr Oes Haearn
Rhwng blynyddoedd 600 - 800 C.C. dechreuodd y llwythau Celtaidd oedd yn byw yng Nghymru geisio gwneud haearn. Gallwn weld y gwrthrychau a wnaethant mewn casgliadau o ddarnau gwerthfawr yr oeddent yn eu rhoi mewn llynnoedd fel offrwm i’w duwiau. Un enghraifft yw’r casgliad y daethpwyd o hyd iddo yn Llyn Fawr ger Hirwaun yn Rhondda Cynon Taf. Yng nghasgliad Llyn Fawr, yn ogystal â gwrthrychau haearn a wnaed yn lleol, mae rhai gafodd eu gwneud gryn bellter o Gymru, megis rhan o lafn cleddyf addurnedig o ddwyrain Ffrainc. Mae nifer o fannau yng Nghymru lle gallwn weld tystiolaeth sut oedd bywyd bob dydd yn y cyfnod hwn, megis bryngaer Tre’r Ceiri ym Mhenrhyn Llŷn yng Ngwynedd. Roedd bywyd yn y tŷ crwn Celtaidd yn gylch prysur o dyfu, cadw a choginio bwyd, magu anifeiliaid, gwneud defnydd a chreu offer o fetel a phren. Gallai menywod yn ogystal â dynion fod yn arweinwyr, ac roedd plant yn hanfodol i economi’r teulu.

Caerllion y Rhufeiniaid
Yn dilyn goresgyniad Prydain gan y Rhufeiniaid yn 43 O.C., cymerodd ddeng mlynedd ar hugain i dawelu’r llwythau Celtaidd yn yr ardal yr ydym erbyn hyn yn ei galw’n Gymru. Man rheoli allweddol oedd lleng-gaer fawr Isca, yng Nghaerllion fodern, a godwyd yn nhiriogaeth y Silwriaid ffyrnig. Fodd bynnag, yn y diwedd ildiodd y llwyth i reolaeth y Rhufeiniaid ac ymuno ag economi a ffordd o fyw'r Ymerodraeth. Mae darganfyddiadau diweddar wedi dangos bod anheddiad sifil mawr y tu allan i’r gaer bwerus, gyda dociau ar gyfer nwyddau a gludwyd o wledydd Môr y Canoldir. Mae presenoldeb y Rhufeiniaid yng Nghymru yn fwy nag yr oeddem wedi ei feddwl.

Y Normaniaid a'r Cestyll
Meddiannodd William o Normandi (William Goncwerwr) Loegr a threchu brenin Lloegr, Harold, ym 1066. Gwobrwyodd yr arglwyddi oedd wedi dangos cefnogaeth iddo drwy roi tir iddynt ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Yr enw a roddwyd ar yr ardaloedd hyn oedd y gororau. Gwthiodd Arglwyddi’r Gororau Normanaidd i diriogaeth Cymru a dechrau adeiladu cestyll: cestyll mwnt a beili i ddechrau, gan ddefnyddio pren a phridd, yna cestyll mawreddog o garreg gydag amgaerau cymhleth. Oherwydd gwrthsafiad y Cymry parodd ymgyrch y Normaniaid am gannoedd o flynyddoedd. Castell Caerffili yw’r castell Normanaidd mwyaf yng Nghymru ac mae’n un o’r rhai mwyaf cywrain o ran cynllun ei amddiffynfeydd. Dechreuwyd ei godi ym 1268, a chynorthwyodd i ysbrydoli cynllun y cestyll a adeiladodd Edward I ledled Cymru er mwyn sicrhau rheolaeth o’r wlad. Cyflogodd y Normaniaid rai o seiri maen a chrefftwyr mwyaf medrus Ewrop i godi eu cestyll.
Customer Reviews
Adnodd gwych
Adnodd ardderchog i gefnogi dysgu Hanes a Chymraeg.
Top Podcasts In History
Listeners Also Subscribed To