6 episodes

Cyfres o sgyrsiau a seiniau yn edrych ar y dyfodol o safbwynt Cymreig. Dewch gyda ni ar daith sain drwy ddyfodoliaeth, ffuglen wyddonol a syniadau am lle fydd Cymru’n mynd yn y dyfodol pell ac agos. Daw’r podlediad gan @cymruddyfodol a Rhodri ap Dyfrig @Nwdls. Dwedwch helo yno os ydych chi eisiau bod yn rhan o’r sgwrs. * * * * * For those of you playing in English* * * * * TCF is an occasional show that looks at futures and alternative realities from a Welsh perspective. Come with us on a journey through futurism, scifi, and ideas that deal with the far and near future in Wales.

Tonfedd Cymru Fydd Cymru Fydd

    • Society & Culture
    • 5.0 • 1 Rating

Cyfres o sgyrsiau a seiniau yn edrych ar y dyfodol o safbwynt Cymreig. Dewch gyda ni ar daith sain drwy ddyfodoliaeth, ffuglen wyddonol a syniadau am lle fydd Cymru’n mynd yn y dyfodol pell ac agos. Daw’r podlediad gan @cymruddyfodol a Rhodri ap Dyfrig @Nwdls. Dwedwch helo yno os ydych chi eisiau bod yn rhan o’r sgwrs. * * * * * For those of you playing in English* * * * * TCF is an occasional show that looks at futures and alternative realities from a Welsh perspective. Come with us on a journey through futurism, scifi, and ideas that deal with the far and near future in Wales.

    #5 Efa Lois

    #5 Efa Lois

    Sgwrs efo’r arlunydd, pensaer a pheiriant diwylliannol Efa Lois. Ymysg y pynciau yn y sgwrs oedd adeiladau Brwtalaidd Cymru, cloriau gwallgo llyfrau ffuglen wyddonol, Moomins, a chyswllt y gofod ar Mabinogi. Mwynhewch!

    • 54 min
    #4 Manon Steffan Ros

    #4 Manon Steffan Ros

    Ar ôl hir-oedi dyma ailafael gyda chwip o westai. Awdur, colofnydd a straight up ffan sci-fi - Manon Steffan Ros. 

    Nethon ni drafod llenyddiaeth wyddonias gan fwyaf yn ddigon naturiol gan drafod hoff awduron Manon, sut wnaeth hi ddod at y genre, Llyfr Glas Nebo, a sut i uniaethu gyda alien (sut allet ti beidio?). Hefyd: SEXY CAPTAIN NEMO, OCTOPI a SGWID ANFERTH. Werth gwrando am hynny yn unig. 

    Dilynwch Manon ar Twitter ar @ManonSteffanRos 

    • 52 min
    #3 Gofod - Stori fer gan Dyfan Maredudd Lewis

    #3 Gofod - Stori fer gan Dyfan Maredudd Lewis

    Enillodd Dyfan Lewis y gystadleuaeth stori fer yn Eisteddfod Caerdydd eleni. Y thema oedd Gofod, ac mae’n stori wych. Es i lawr i Graig Cefn Parc i recordio Dyfan yn darllen ei stori ar gyfer eich pleser chi. Mae dathliadau yn thema, felly mae gwrando arni dros y Nadolig yn eitha addas. Mae Dyfan hefyd yn ffotograffydd a barddonwr; ewch draw i’w gyfrif Twitter i weld mwy http://twitter.com/Dyfanlewis

    • 25 min
    #2 Hefin Jones

    #2 Hefin Jones

    Sgwrs gyda'r dylunydd, artist, darlithydd a dyfodolydd o Aberteifi. Gallwch chi weld y gwaith I'r Byd Dyfodol yn ogystal ag archifo'i waith blaenorol ar ei wefan http://hefinjones.co.uk/ibd-ttfw/

    • 45 min
    #1 Carl Morris

    #1 Carl Morris

    Sgwrs gyda’r datblygwr meddalwedd a chynhyrchydd digidol am iaith, tecno, cymunedau arlein, swyddi’r dyfodol ac ychydig rwdlan am Huw Jones a'r Diliau. Dilynwch Carl ar http://twitter.com/carlmorris neu edrych ar ei wefan http://morris.cymru

    • 1 hr 7 min
    Cyflwyniad i Gymru Fydd

    Cyflwyniad i Gymru Fydd

    Mae podlediad Cymru Fydd ar fin cychwyn! Dyma ragflas o’r pethau sydd i ddod. Sticiwch hwn yn eich tansygrifiadau os am sgyrsiau, celf a seiniau hyfryd, oll gyda’r dyfodol yn rhedeg drwyddynt.

    • 1 min

Customer Reviews

5.0 out of 5
1 Rating

1 Rating

Top Podcasts In Society & Culture

Life with Nat
Keep It Light Media
Miss Me?
BBC Sounds
The Louis Theroux Podcast
Spotify Studios
How To Fail With Elizabeth Day
Elizabeth Day and Sony Music Entertainment
Uncanny
BBC Radio 4
Happy Place
Fearne Cotton