40 min

Tremolo Tremolo

    • Drama

Mae Harri'n gorffen ei arholiadau ac yn barod i ddilyn ei freuddwydion. Yna mae'n cael y newyddion bod ei fam wedi cael diagnosis o glefyd Alzheimer teuluol cynnar, cyflwr y mae ganddo ef a'i chwaer siawns o 50 y cant o'i etifeddu. A ddylai gael prawf i ddarganfod a yw'n ei gael hefyd? Drama emosiynol a phwerus sy'n cynnig cipolwg go iawn i wrandawyr ar y cyflwr meddygol hwn a'i effaith ar berthnasoedd, breuddwydion a mwy.

Yn serennu Gareth Elis, ysgrifennwyd gan Lisa Parry, cyfieithiad Cymraeg gan Branwen Davies, dan gyfarwyddyd Zoë Waterman, cerddoriaeth delyn a gyfansoddwyd ac a chwaraewyd gan Eira Lynn Jones, dylunio sain a golygu gan Rhys Young, cerddoriaeth ychwanegol gan Yws Gwynedd. Recordiwyd Tremolo yn Hoot Studios, Caerdydd.

Cynhyrchiad Theatr Illumine mewn partneriaeth â Pharc Genynnau Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth y Gymdeithas Geneteg.

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan rai o’r pynciau mae Tremolo’n eu trafod, mae cymorth a gwybodaeth ar gael gan y Gymdeithas Alzheimer’s a'r Genetic Alliance UK.