14 episodes

A Welsh language rugby podcast following Wales throughout the 2021 Six Nations Championship.

Y Sgarmes Ddigidol S4C

    • Sports
    • 4.9 • 8 Ratings

A Welsh language rugby podcast following Wales throughout the 2021 Six Nations Championship.

    Pennod 14: Tor-calon ym Mharis

    Pennod 14: Tor-calon ym Mharis

    Er gwaethaf ymdrechion y Cymry ym Mharis, nid oedd y Gamp Lawn i fod eleni i ddynion Wayne Pivac. Ymunwch â Rhodri, Elinor a Nigel wrth iddynt drafod un o'r gemau gorau yn hanes Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

    • 35 min
    Pennod 13: Ymlaen at y Gamp Lawn!

    Pennod 13: Ymlaen at y Gamp Lawn!

    Ar ôl 4 buddugoliaeth i'w chofio, mae Cymru 80 munud i ffwrdd o'r Gamp Lawn! Ymunwch â Rhodri Gomer, Elinor Snowsill a Nigel Owens wrth iddynt drafod buddugoliaeth broffesiynol y Cymry yn Rhufain ac edrych ymlaen at noson enfawr o rygbi ym Mharis.

    • 37 min
    Pennod 12: Kieran Hardy a'r daith i Rufain

    Pennod 12: Kieran Hardy a'r daith i Rufain

    Kieran Hardy sydd yn ymuno â'r Sgarmes Ddigidol yr wythnos hon wrth i Rhodri, Nigel ac Elinor edrych yn ôl dros bythefnos prysur iawn ym myd y bêl hirgron.


    O ddyfodol Dwayne Peel ac Alun Wyn Jones i'r gêm fawr yn Rhufain, mae'n bodlediad llawn dop!

    • 44 min
    Pennod 11: Gêm Y Goron Driphlyg

    Pennod 11: Gêm Y Goron Driphlyg

    Ar ôl cyffro a cheisiau'r rowndiau agoriadol, mae Cymru yn croesawu'r hen elyn i Gaerdydd lle byddai buddugoliaeth yn sicrhau'r Goron Driphlyg a cham arall tuag at y Gamp Lawn! Ymunwch â Rhodri, Elinor a Nigel wrth iddynt drafod gobeithion Cymru yn ogystal ag ymddeoliad Dan Carter a phenwythnos arall ym Mhencampwriaeth y PRO14.

    • 38 min
    Pennod 10: Yr Alban v Cymru

    Pennod 10: Yr Alban v Cymru

    Ymunwch â Rhodri, Elinor a Nigel wrth iddynt edrych yn ôl dros fuddugoliaeth Cymru yn erbyn y Gwyddelod ac edrych ymlaen at gêm fawr y penwythnos yng Nghaeredin. Hefyd ar y pod, mae Rhodri yn sgwrsio â Scott Williams am ei yrfa, gwellhad y Gweilch ac atgyfodiad George North.

    • 43 min
    Pennod 9: Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2021

    Pennod 9: Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2021

    Ry' ni yn ôl yn y Sgarmes!!


    Ymunwch â Rhodri, Elinor a Nigel am bodlediad wythnosol wrth i Gymru geisio adennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad! Robin McBryde sy'n ymuno â'r Sgarmes Ddigidol wrth i ni edrych ymlaen at Cymru v Iwerddon.

    • 38 min

Customer Reviews

4.9 out of 5
8 Ratings

8 Ratings

Bzowz ,

Gwych

Wrth fy modd hefo'r podcast yma, mwy plis!

Top Podcasts In Sports