Podpeth Iwan Pitts, Hywel Pitts
-
- Comedy
Mae Hywel Pitts, Iwan Pitts ac Elin Gruffydd yn cyflwyno Podpeth: Y Podlediad Cymraeg - cyfres gyfredol, goeglyd a ddadleuol.
-
Podpêl-droed 2022 (v Lloegr)
Mae'r criw yn trafod gêm olaf Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 ar ôl iddynt golli 3-0 i Loegr, wrth i arbrawf Iwan i wneud podlediad yn defnyddio 'mond negeseuon llais fethu'n llwyr.
Sgarff Dafydd Iwan, Geraint Løvgreen, ac annwyd Elin.
Mae Hywel yn plygio ei daith Cabarela (sydd wedi gwerthu allan), ac mae Iwan yn plygio ei rhaglen radio ar Spotify - The Internet Radio Tapes.
Bydd Podpeth yn nôl yn fuan... -
Podpêl-droed 2022 (v Iran)
Mae Iwan a Spurs Mel yn trafod ail gêm Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 wrth iddynt golli 2-0 i Iran. Mae Mel yn darllen barddoniaeth Ryan Giggs, ac yn gofyn y cwestiwn - Pwy oedd Hitler?
Hefyd, cawn hanes sioe Spotify newydd Iwan (The Internet Radio Tapes).
Mae Hywel ar ei ffordd i gig ym Mryngwran - Bragdy’r Beirdd, ac yn sôn am ei gigs ar y gweill. -
Podpêl-droed 2022 (v Yr UDA)
Mae Iwan a Spurs Mel yn trafod gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd ers 1958, ac yn trafod Qatar, caneuon Cwpan y Byd, Covid, Tudur Owen ar Gogglebocs, a Matt Hancock.
Mae Hywel wedi cael lot gormod i yfed ac yn gohebu o Neuadd y Farchnad. -
Syniadad #10 - Telibocs
"'Dyn nhw'n gneud microwave a ffrij? Mewn un?"
Mae syniad diweddara' @SpursMel yn swnio'n eithaf tebyg i syniad sy'n bodoli'n barod. Mae Hywel, Iwan ac Elin yn ymateb. -
Syniadad #9 - LGBTQIA+ (15)
"Ydi o dal yn syniad fi 'lly?""... Di o'm yn syniad"
Mae calon @SpursMel yn y lle iawn gyda'i syniad diweddara' - ond mae o'n codi lot o gwestiynau. Mae Iwan, Elin a Hywel yn trio'u gorau i'w hateb. -
Syniadad #8 - Chwadan Allan o Ddŵr
"Be 'di duck yn criced?""Dim""Ia, dyna allan o ddeg ma hwn yn mynd i gael..."
Mae profiad diweddar mewn bar ym Maenceinion wedi rhoi syniad newydd i @SpursMel. Elin, Iwan a Hywel sy'n ymateb.