Trysorfa Trelech - Ysgol Hafodwenog Stiwdiobox
-
- Fiction
Drama Radio Ysgol Gynradd Hafodwenog
Trelech a’r Beili gan Un o’r lle
Mae’r gwaith wedi ei sbarduno gan ddigwyddiad hanesyddol yn ymwneud â Rhyfel y Degwm, a ddigwyddodd ym mhlwyf Trelech a’r Betws, Sir Gaerfyrddin ac â gofnodwyd ym mhapur newyddion Y Celt ar Fai 17eg, 1889.
Ffrwyth dychymyg yw’r holl sgyrsiau.
-
Trelech a'r Beili - Golygfa 11 Penygroes
Ar dir comin ger Penygroes, ymhell o helynt y pentref, mae un teulu bach wedi cael diwrnod prysur iawn yn hela a’n creu pob math o grefftau i’w gwerthu. Maen nhw’n eistedd o gylch y tân yn gwylio’r watsh arian (y lleuad i chi a fi) yn dringo fry i’r awyr uwchben.
-
Trelech a'r Beili - Golygfa 10 Ysgol Trelech
Ar iard Ysgol Trelech, roedd y plant yn mwynhau chwarae. Cymraeg oedd iaith y chwarae, er mai Saesneg oedd iaith y dosbarth.
-
Trelech a'r Beili - Golygfa 9 Fferm Hafodwenog
Ar Fferm Hafodwenog, mae David Evans wedi bod yn brysur iawn yn aredig y tir a’i ferch, Elisabeth, wedi godro, golchi’r dillad ac wedi pobi bara ffres i de. Mae Sophia, ei wraig, newydd ddod nôl o’r siop ac ar fin dechrau gwneud te i’w gŵr blinedig.
-
Trelech a'r Beili - Golygfa 8 Ffynnondafolog
Mae’n 1 o’r gloch y prynhawn ac mae Mr Stevens a’i griw newydd adael fferm Ffynnondafolog. Mae ei wyneb fel taran am bod ffarmwr arall wedi gwrthod talu ei ddyled. Mae Mr Stevens yn dechrau difaru iddo ddod i blwyf Trelech a’r Betws y diwrnod hwnnw.
-
Trelech a'r Beili - Golygfa 7 Y Sgwâr
Mae’n 10 o’r gloch ac ar sgwâr y pentref, y tu allan i Gapel-y-Graig a siop Rock Hall, mae criw o gymdogion yn trafod rhywbeth pwysig. Mae aderyn bach newydd ddweud wrthyn nhw bod Mr Stevens, y beili sy’n gyfrifol am gasglu dyledion y Degwm, ar ei ffordd o Gaerfyrddin i Drelech gyda’i weision – a 70 o blismyn!!
-
Trelech a'r Beili - Golygfa 6 Green Hall
Yn nhŷ Green Hall, cartref y clocsiwr lleol, mae Anna Morgan a’r plant ar fin gadael y tŷ i gerdded y 2 filltir i Ysgol Trelech. Mae Thomas, ei gŵr, wrthi’n brysur yn creu clocsiau newydd yn y gweithdy.