Hefyd Richard Nosworthy
-
- Society & Culture
Podlediad am fywydau'r bobl anhygoel sy'n dysgu, neu wedi dysgu, yr iaith Gymraeg.
A podcast about the amazing people who are learning, or have learnt, the Welsh language.
Cyflwynydd: Richard Nosworthy
-
Diana Luft: Canada, Cymru, a Chymraeg Canol | Pennod 21
Yn y pennod olaf o'r gyfres yma, ein gwestai ydy Diana Luft, sy’n dod o Ganada yn wreiddiol. Mae Diana wedi astudio llawer o hen ddogfennau megis testunau meddygol (Plîs peidiwch â dilyn yr hen gyngor meddygol mae hi’n rhannu o’r oesoedd canol!)
Heddiw, mae hi’n gweithio fel cyfieithydd, ac yn y sgwrs yma mae hi’n siarad am ei bywyd yn Nghanada a'r Unol Daleithiau, symud i Gymru, a’i phrofiadau o ddysgu Cymraeg.
Mae mwy o wybodaeth am Diana ar fy ngwefan i.
Cyflwynydd: Richard Nosworthy
***
Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts
Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter
Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.
-
Barbara a Bernard Gillespie: ymddeol, grwpiau cymunedol a byw ar y ffin | Pennod 20
Ein gwesteion ni y tro yma ydy Barbara a Bernard Gillespie. Symudodd y cwpl o Wolverhampton yn Lloegr i ganolbarth Cymru ar ôl iddyn nhw ymddeol. Yn y blynyddoedd ers hynny maen nhw wedi dysgu Cymraeg ac maen nhw’n defnyddio’r iaith yn aml iawn. Yn y sgwrs yma rydyn ni’n trafod eu profiadau o symud i Gymru a dysgu’r iaith, y gweithgareddau a chlybiau cymdeithasol Cymraeg yn eu hardal nhw, a thraddodiad y Plygain yn ystod cyfnod y Nadolig.
Mae mwy o wybodaeth am Barbara a Bernard ar fy ngwefan i.
Cyflwynydd: Richard Nosworthy
***
Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts
Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter
Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan. -
Steve Dimmick, Dyn Busnes o’r Cymoedd | Pennod 19
Ein gwestai ni y tro yma ydy Steve Dimmick, cyd-sylfaenydd (co-founder) y cwmni Doopoll, sy’n gwneud arolygon ar lein (online surveys).
Cafodd e ei fagu yng nghymoedd de-ddwyrain Cymru, ac ar ôl cyfnod yn Abertawe a Llundain mae e'n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn.
Yn y pennod yma, rydyn ni’n trafod y Gymraeg yn y byd busnes a thechnoleg, yn ogystal â phrofiadau Steve o dysgu’r iaith a’i defnyddio hi gyda theulu, ffrindiau ac yn y gymuned.
Hefyd yn y pennod yma rwy’n rhannau rhai o’ch atebion i’r #CwestiwnYMis ar Twitter: ‘Dysgwyr: ble rwyt ti'n defnyddio dy Gymraeg?’.
Mae mwy o wybodaeth am Steve, gyda geirfa o'r pennod yma a linciau perthnasol, ar fy ngwefan i.
Cyflwynydd: Richard Nosworthy
***
Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts
Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter
Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.
-
Jo Heyde, Bardd o Lundain | Pennod 18
Yn y pennod yma rwy'n siarad gyda Jo Heyde. Dechreuodd Jo ddysgu ar ôl treulio gwyliau yng Nghymru a chlywed sgwrs Cymraeg yn y gwasanaethau traffordd!
Erbyn hyn mae hi’n rhan o’r gymuned Gymraeg yn Llundain, ac mae hi wedi darganfod barddoniaeth ac ennill gwobrau am ei cherddi!
Hefyd yn y pennod yma rwy’n rhannau rhai o’ch atebion i’r ‘Cwestiwn Y Mis’ postiais i ar Twitter ‘Pam wnest ti ddechrau dysgu Cymraeg?’.
Mae gwybodaeth am Jo, gyda geirfa a linciau perthnasol, ar fy ngwefan i.
Cyflwynydd: Richard Nosworthy
***
Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts
Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter
Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan. -
Joe Healy, Dysgwr y Flwyddyn 2022 | Pennod 17
Yn y pennod yma rwy'n sgwrsio gyda Joe Healy, ennillydd Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol 2022.
Symudodd e i Gaerdydd o Lundain, er mwyn astudio yn y Prifysgol.
Yn fuan iawn, roedd e wedi gwneud ffrindiau gyda Chymry Cymraeg a dechreuodd e ddysgu'r iaith.
Trafodon ni sut mae siaradwyr Cymraeg yn gallu helpu dysgwyr, ei fand roc sy'n chwilio am enw (rhannwch eich syniadau!), a'r argraff positif mae pêl droed wedi gwneud o ran yr iaith.
Gallwch chi weld lluniau o Joe ar fy ngwefan i.
Cyflwynydd: Richard Nosworthy
***
Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts
Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter
Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan. -
Josh Osborne, Enillydd Medal y Dysgwyr | Pennod 16
Yn y pennod yma, dwi'n siarad gyda Josh Osborne, enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd 2022.
Mae Josh yn 24 oed ac yn dod o Poole yn Ne Lloegr yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae e'n byw yn Abertawe. Mae ei bartner e yn siarad Cymraeg, felly yn ystod y cyfnod clo (lockdown) penderfynodd e ddysgu'r iaith ar lein.
Gallwch chi weld lluniau o Josh yn yr Eisteddfod, ac ymarfer ei hobi (ffitrwydd polyn) ar fy ngwefan i.