Sôn am Sîn Sôn am Sîn
-
- Music
Chris, Geth a'u ffrindiau sydd, yn llythrennol, yn Sôn am Sîn! Mae'r sianel yn gartref i gyfresi a rhaglenni amrywiol sydd yn trafod pob elfen o'r Sîn Roc Gymraeg a'i chyrion.
Mae'r podcast yn cyd-fynd â'r blog: www.sonamsin.cymru
-
Sôn Am... Izak Zjalic
Y cerddor arbrofol Izak Zjalic sy'n ymuno hefo Chris a Geth i drafod trac newydd Tai Haf Heb Drigolyn, 'Heneb Ddiog', yn ogystal â'i brosiectau cyffrous eraill.
-
Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2020
Tegwen Bruce-Deans sy'n ymuno hefo Chris a Geth i drafod rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni.
-
Y Sôn #22: Yr Eira, Cofi 19 a Stiwdio v Llofft
Mae hi'n dipyn ers i'r Sôn ymddangos y tro diwethaf!
Ond - mae Chris a Geth yn eu holau i drafod albym Yr Eira, albym amlgyfrannog Cofi 19, beth yw manteision recordio adref dros recordio mewn stiwdio, a llu o gynnyrch cerddorol eraill i'w trafod hefyd. -
Sôn am... Papur Wal!
Beth mae hogia' Papur Wal yn ei wrando arno fo?
Beth yw'r dylanwadau sydd yn cuddio y tu ôl i'w cerddoriaeth nhw?
Allwn ni ddisgwyl rhywbeth hollol wahanol yn eu caneuon newydd?
Be' di hanes Dennis Bergkamp?
Hyn i gyd a mwy wrth i'r tri gael cyfle am sgwrs hefo Chris a Geth mewn podlediad arbennig! -
Y Sôn #21: Alun Gaffey, Omaloma, Adolygiadau Negyddol a Crysau T bandiau...
Dal yn eu tai eu hunain, wrth gwrs, mae Chris a Geth yn ymuno hefo'i gilydd yn rhithiol i drafod albyms Alun Gaffey ac Omaloma, cael trafodaeth am werth adolygiadau negyddol, a siarad am ddiwrnod crysau T bandiau fydd yn digwydd ddydd Gwener (12/6).
Ma' hon yn hir!!
0:00 - Adolygu albyms
33:40 - Adolygiadau Negyddol
59:21 - Crysau T bandiau
1:05:30 - Hoff gerddoriaeth diweddar Chris a Geth. -
Y Sôn #20: Lewys, Georgia Ruth, Partis Gwrando a Focus Wales 2020
Albyms Lewys a Georgia Ruth yw'r cynnyrch diweddaraf i gael sylw Chris a Geth, ond maen nhw hefyd yn trafod Partis Gwrando ar Twitter, a'r ffaith y bydd yn rhaid iddyn nhw aros tan yr Hydref i gael mynd i ŵyl Focus Wales eleni.