3 episodes

Sgyrsiau rhwng cylchgrawn Y Selar a cherddorion amrywiol.

Sgwrs Selar Y Selar

    • Music

Sgyrsiau rhwng cylchgrawn Y Selar a cherddorion amrywiol.

    Sgwrs Selar: Partneriaethau - Elin Fouladi a Dafydd Dabson (Derw)

    Sgwrs Selar: Partneriaethau - Elin Fouladi a Dafydd Dabson (Derw)

    Yn y drydedd bennod  o gyfres fer Sgyrsiau Selar, rydyn ni'n sgwrsio gyda dau artist arall sydd wedi bod yn cyd-weithio'n ddiweddar. Y gwesteion diweddaraf ydy Elin Fouladi a Dafydd Dabson sydd wedi cyd-weithio tipyn dros y blynyddoedd, ond dros y flwyddyn ddiwethaf wedi sefydlu'r grŵp Derw ar y cyd.

    Mae EP newydd Derw, Yr Unig Rai Sy'n Cofio, allan ar label CEG Records nawr.

    Cerddoriaeth intro: 'Mikhail' - Derw

    • 31 min
    Sgwrs Selar: Partneriaethau - Cwtsh

    Sgwrs Selar: Partneriaethau - Cwtsh

    Ail bennod cyfres fer o sgyrsiau Selar lle byddwn ni'n sgwrsio gydag artistiaid sydd wedi bod yn cyd-weithio'n ddiweddar. Mae'r gwesteion ar gyfer y bennod yma wedi ffurfio band go iawn dros y flwyddyn ddiwethaf, yn hytrach na jyst cyd-weithio. Er hynny, mae'r tri yn gerddorion profiadol sydd wedi gweithio ar nifer o brosiectau eraill, felly roedd yn ddifyr clywed sut mae pethau wedi bod yn wahanol iawn i Cwtsh...er, efallai nid mor wahanol a hynny i'r hyn roedden nhw'n cynllunio yn y lle cyntaf. 

    Mae'r albwm, Gyda'n Gilydd, allan ar Bandcamp Cwtsh yn swyddogol ar 26 Chwefror 2021. 

    Cerddoriaeth intro: 'Tymhorau' - Cwtsh

    • 28 min
    Sgwrs Selar: Partneriaethau - Mr Phormula a Gwion Roughion

    Sgwrs Selar: Partneriaethau - Mr Phormula a Gwion Roughion

    Pennod gyntaf cyfres fer o sgyrsiau Selar lle byddwn ni'n sgwrsio gydag artistiaid sydd wedi bod yn cyd-weithio'n ddiweddar. Y gwestai cyntaf ydy Ed Holden (aka Mr Phormula) a Gwion James (un hanner y grŵp electronig, Roughion a label Afanc) sydd wedi bod yn cyd-weithio ar gasgliad o ail-gymysgiadau o ganeuon albwm diweddar Mr Phormula, Tiwns wedi'i guradu gan Afanc. 

    Cerddoriaeth intro: 'More To This' - Mr Phormula (Sachasom remix)

    • 29 min

Top Podcasts In Music

Soul Soother Feet Mover
DJ Naad
Dj Joe Mfalme
Dj Joe Mfalme
Switched on Pop
Vulture
Rocket Hour
Elton John
Dj Shinski New Mixes
Dj Shinski
Capital FM
Capital FM