Mwydro ym Mangor Jonathan Ervine
-
- Sport
Podlediad am Ddinas Bangor a phêl-droed yn y byd Cymraeg.
-
Mwydro ym Mangor - Pennod 18
Tro yma, mae yna ddau gyfweliad: yr un cyntaf efo hyfforddwr newydd y tim cenedlaethol Chris Coleman (yn y Saesneg) ac yr ail un efo cefnogwr Dinas Bangor Ian Gill. Am fwy o wybodaeth, ewch i'r tudalen Facebook Mwydro ym Mangor ac i mwydroymmangor.wordpress.com. Cofiwch danysgrifio i'r podlediad trwy iTunes.
-
Mwydro ym Mangor - Pennod 17
Nid jyst Neville Powell sydd yn rheoli tîm ym Mangor. Tro yma, mae Jonathan Ervine yn siarad efo rheolwr ail dim Dinas Bangor, Haydn Jones. Am fwy o wybodaeth am y podlediad, edrychwch ar mwydroymmangor.wordpress.com. Cofiwch eich bod chi’n medru tanysgrifio i’r podlediad drwy iTunes.
-
Mwydro ym Mangor - Pennod 16
Tro yma, mae Jonathan Ervine yn trafod stadium newydd Dinas Bangor yn Nantporth efo Richard Williams a Pete Jones. Hefyd, mae'r bennod hon yn cynnwys adroddiad am Dorothy a Florence, yr ieir sydd yn rhagweld canlyniadau'r gemau mawr. Cofiwch tanysgrifio i'r podlediad trwy iTunes.
-
Mwydro ym Mangor - Pennod 15
Mae pennod yma ydy'r un olaf i gael ei recordio yn Ffordd Farrar. Mae Jonathan Ervine yn siarad efo caplan Dinas Bangor Geraint Roberts ac yn clywed barn Marc Lloyd Williams am y symudiad i Nantporth. Cofiwch tanysgrifio i'r podlediad tryw iTunes ac i sbio ar dudalen Facebook Mwydro ym Mangor.
-
Mwydro ym Mangor - Pennod 14
Mae Jonathan Ervine yn siarad am y gêm olaf yn Ffordd Farrar efo ysgrifenydd Dinas Bangor Gwynfor Jones, y darlledwr a chefnogwr Bangor Ian Gill, y rheolwr Neville Powell ac y llywydd y clwb Gwyn Pierce Owen. Cofiwch tanysgrifio i'r podlediad tryw iTunes ac edrychwch ar y blog sydd ar mwydroymmangor.wordpress.com.
-
Mwydro ym Mangor - Pennod 13
Mae yna lawer o bobl sydd wedi sgorio goliau yn Ffordd Farrar dros y flyneddoed. Rhywun sydd wedi sgorio llawer o weithiau efo Bangor, ac yn erbyn Bangor hefyd, yw Marc Lloyd Williams. Ym mhennod yma, mae Jonathan Ervine yn cyfweld 'Jiws' am Ddinas Bangor, sgorio goliau a safon yr Uwch Gynghrair Cymru. Am fwy o wybodaeth, ewch i mwydroymmangor.wordpress.com neu y dudalen Facebook Mwydro ym Mangor.