Clera Clera
-
- Arts
Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury)
-
Clera Ebrill 2024
Croeso i bennod mis Ebrill o bodlediad barddol Clera. Y mis hwn cawn y pleser o holi Sioned Dafydd, Cyflwynydd Sgorio a Golygydd y flodeugerdd newydd o gerddi am y campau, 'Mae Gêm yn Fwy na Gêm' (Cyhoeddiadau Barddas).
Clywn hefyd am arddangosfa o gelf a barddoniaeth sy'n ymateb i waith y bardd mawr o Gwrdistan, Abdulla Goran, yng nhgwmni Alan Deelan, Heledd Fychan AS ac Ifor ap Glyn.
Hyn oll a chwmni ffraetha difyr ein Posfeistr, Gruffudd Antur. -
Clera Mawrth 2024
Croeso i bennod mis Mawrth o bodlediad Clera. Y tro hwn rydyn ni'n Pwnco am Pencerdd - cynllun cyffrous Pencerdd lle mae 5 bardd yn cael blwyddyn gyda 5 athro barddol i gamu ymlaen yn eu cynganeddu. Cawn felly gwmni Non Lewis ac Ana Chiabrando Rees, ill dwy yn rhan o'r 5 disgybl ar gynllun Pencerdd, yn ogystal â Mared Roberts a Leusa Llywelyn o Lenyddiaeth Cymru. Hyn a llawer mwy, mwynhewch.
-
Clera Chwefror 2024
Croeso i bennod y Mis Bach o bodlediad barddol Cymraeg hyna'r byd! Yn y bennod hon cawn bwnco yng nghwmni mari George a Jo Heyde wrth i ni drafod cyfrol newydd sbon 'Cerddi'r Arfordir' (Cyhoeddiadau Barddas). Hyn a hefyd barn dreiddgar Gruffudd Antur ar Linell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis, ac mae gyda ni rai da y mis hwn!! Hyn a llawer mwy! Mwynhewch.
-
Clera Ionawr 2024
Blwyddyn newydd dda i chi gyd! Ym mhennod gynta'r flwyddyn cawn ddwy gerdd arbennig gan y Prif Lenor Sioned Erin Hughes. Byddwn hefyd yn Pwnco am Bwnco! Gwrandewch i wybod mwy a mwynhau pennod arall lawn dop o drin a thrafod barddol.
-
Clera Rhagfyr 2023
Croeso i bennod mis Rhagfyr o Clera. Mae 'na gymysgedd o eitemau Nadolig ac eitemau oesol yn y bennod hon. Cawn y fraint o rannu darlith Gurffudd Antur a Peredur Lynch o Blas Mostyn, fel rhan o ŵyl Gerallt yng Nghaerwys. Delicasi Dolig gan Tudur Dylan Jones, Gorffwysgerdd nadoligaidd o gyfrol newydd Rhys Dafis ac englynion newydd sbon gan y Prifardd-Archdderwydd, Mererid Hopwood. Mwynhewch a Nadolig Llawen i chi gyd.
-
Clera Tachwedd 2023
Croeso i bennod y Mis Du o bodlediad Clera. Yn gydymaith i chi wrth i'r nosweithi dywyllu'n gynt bydd arlwy difyr o'r byd barddol Cymraeg. Cawn sgwrs ddifyr a Gorffwysgerdd gan Clare E. Potter a fu'n fardd y mis ar Radio Cymru. Sgwrs ddifyr hefyd gyda'r Prifardd-Feuryn Twm Morys am ei gyfrol newydd a ddaeth allan dros yr haf, 'Y Clerwr Olaf' yn ogystal â sgwrs gyda Twm,y Meuryn, a'r Islwyn newydd yn Ymryson Barddas, Gruffudd Antur. Hyn...a mwy!!