Gwrachod Heddiw Mari Elen
-
- Society & Culture
-
Trafod hefo rhai o genod mwyaf di-flewyn-ar-dafod Cymru.Podlediad yn dathlu merched Cymru, trwy geisio canfod pa nodweddion mae nhw’n ei rannu hefo gwrachod confensiynol.
-
Trafod gyda Lauren Albertina-Morais - Cathod Sassy, Beyonce a bod yn ffrind gorau i chdi dy hun
CALAN GAEAF HAPUS WITCHEZ! Dyma bennod newydd o Gwrachod Heddiw i ddathlu. Yn y bennod yma, dwi'n siarad hefo'r actor / perfformiwr / bardd / cyfarfwyddwr o fri Lauren Albertina-Morais am yr holl bethau sydd yn ei gwneud hi'n wrachaidd.
Mwynhewch Hags,
A Plis @iwch fi hefo'ch gwisgoedd gwrachaidd!
Byddwch wych, Byddwch Wrachaidd -
Trafod gyda Mhara Starling : Swyngyfaredd, Doethgrefft, Trawsffobia a bwlio.
Sgwrs gyda'r swynwraig Mhara Starling am wir ystyr y term "Gwrach". Yn y bennod hir hon o Gwrachod Heddiw, mae Mhara yn sôn am hanes swyngyfaredd a doethgrefft yng Nghymru, ei hanes personol hi a'r rhwystrau mae hi wedi wynebu yn ei bywyd i gyrraedd lle mae hi rŵan. Sgwrs ddwys, ddigri ac ysbrydol!
Byddwch Wych, Byddwch Wrachaidd xoxo -
Trafod gyda Mahum Umer : Cynrychiolaeth, Iechyd Meddwl a Ffitio Mewn
Sgwrs am Iechyd meddwl, cynrychiolaeth o ferched ifanc Mwslimaidd yn y cyfryngau yng Nghymru a ffitio mewn. Ymunwch hefo Mari Elen mewn sgwrs gwrachaidd hefo'r awdur ifanc Mahum Umer, un o gyd-awduron cyfres y Pump.
-
Trafod Hefo Llinos Anwyl
Trafod hefo'r wrach Llinos Anwyl am ei chelf, pwer geiriau, pwysau teulu ar dy hunaniaeth a sut oedd merched yn cosbi dynion oedd yn gneud petha rybish yn yr hen ddyddiau.
-
Trafod Hefo Emmy Stonelake
Yr actor a’r model Emmy Stonelake ydy’r wrach dwi’n sgwrsio hefo heddiw, am nabod dy hun, cathod, drag race a bod yn ferched blewog ✨
-
Trafod Hefo Mirain Fflur
Nabod dy werth, nabod dy gorff a Jini Me Jos. Sgwrs hefo'r perfformiwr / gwneuthiwr theatr a'r artist, Mirain Fflur am yr holl bethau sydd yn ei gwenud hi'r gwrach ydy hi.
Mwynhau y podlediad? Hoffwch, tanysgrifiwch a rhowch adolygiad bach. Mae o'n gwneud BYD o wahaniaeth, coeliwch chi fi! Trydarwch gan ddefnyddio #GwrachodHeddiw i adael i mi wybod pa bethau Gwrachaidd 'dachi 'di bod yn gwneud, rhannwch hefo ffrind a sleidiwch mewn i'n DMs i.
Bydwch wych, byddwch wrachaidd XOXO