Podlediad Barddas Y Pod Cyf.
-
- Arts
Croeso i bodlediad Barddas, y lle i glywed sgyrsiau rhwng beirdd gorau Cymru. Dilynwch Barddas ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y ddiweddaraf am ein cyhoeddiadau, cylchgrawn a digwyddiadau byw. Os hoffech chi danysgrifio i’n cylchgrawn ewch draw i barddas.cymru
-
Cariad, tai bach, a Barddas
Sgwrs ddiddorol rhwng Mari Lovgreen, Twm Morys, Bethan Gwanas ac Alaw Griffiths am Barddas a llyfrau newydd. Mwynhewch.
-
Cerddi T. Gwynn Jones
Yn y bennod hon mae Cydlynydd Barddas, Alaw Griffiths, yn holi Prifardd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 Llŷr Gwyn Lewis a Dr Elen Ifan am eu perthynas â T. Gwynn Jones i ddathlu cyhoeddi llyfr newydd sbon gan Gyhoeddiadau Barddas, sef ‘Cerddi T. Gwynn Jones’ a olygwyd gan Llŷr.
Hefyd mae’r Prifardd Twm Morys yma i drafod rhifyn diweddaraf cylchgrawn ‘Barddas’ (Hydref 2022) gan gynnwys datgelu enwau pedwar bardd arall oedd yn deilwng yng nghystadleuaeth y gadair eleni. -
Rhwng Teifi, Dyfi a’r Don
Recordiad byw o bodlediad Barddas gyda Eurig Salisbury, Idris Reynolds ac Elinor Gwynn yn trafod beirdd a barddoniaeth leol.
-
Beth yw Barddas?
Beth yw Barddas?! Gwrandewch ar bennod diweddaraf Podlediad Barddas i ddarganfod yr ateb! Gyda Twm Morys, Tudur Dylan Jones, Alaw Griffiths ac Alaw Mai Edwards.
-
Barddoniaeth, natur, a’r iaith Gymraeg
Y Prifardd Aneirin Karadog sy'n sgwrsio am berthynas barddoniaeth a’r iaith Gymraeg â natur, gyda’r Prifardd Twm Morys, Bethan Wyn Jones, Rhys Dafis (golygydd cyfrol o gerddi am natur, Inc yr Awen a’r Cread) a Sara Louise Wheeler.
-
Pennod Y Merched
Casi Wyn, Menna Elfyn, Sian Northey ac Elinor Wyn Reynolds yn trafod barddoniaeth, llenyddiaeth, 'sgwennu, bod yn greadigol, a chanu mewn band.
Cyhoeddwyd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched 2022.
Rhybudd: Mae 'na thema anaddas i blant ar ddiwedd y bennod wrth i’r gerdd olaf trafod trais.