15. Teimlo - Ystwyth, Yr Anturiaethwr (Tair Chwaer Pumlumon)

Tair Chwaer Pumlumon Podcast

Cydymaith wedi’i greu ar gyfer eich amser y tu allan. Wedi’i gynhyrchu gan yello brick www.yellobrick.co.uk “Dilynwch fi, Ystwyth, fe’ch tywysaf chi ar antur o ddarganfyddiad a rhyfeddod. Fe ddangosaf i chi’r hud sy’n celu yn y pethau beunyddiol o’ch cwmpas.” Gan ennyn ysbrydoliaeth o’r chwedl Gymreig ‘Tair Chwaer Pumlumon’ mae’r profiad clywedol hwn yn eich galluogi chi i glywed meddyliau a chyfrinachau tair afon fawr Cymru: Hafren, Gwy & Ystwyth. Yn ystod eich amser y tu allan, fe fydd y chwiorydd yn gymdeithion i chi ond chi sy’n rheoli eich profiad. Mae pum rhan i bob profiad ystyrlon ac rydyn ni’n eich annog chi i gymryd eich amser rhyngddynt, i ymgolli yn eich amgylchfyd a darganfod yr hud sydd o’ch cwmpas. Defnyddiwch glustffonau ar gyfer y profiad gorau. TRAWSGRIFIAD AR GAEL YMA: https://bit.ly/2S0HREd www.midwalesmyway.com/threesisters COVID-19: Oherwydd yr amgylchiadau a’r cyfyngiadau presennol gallech wrando ar sain Y Dair Chwaer yn ystod eich amser y tu allan pan yn ymgymryd â’ch un ffurf o ymarfer corff dyddiol, gan sicrhau eich bod yn glynu at Ganllawiau’r Llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol. Neu fe allwch benderfynnu gwrando ar y sain tra’n eich gardd neu gartref yn eistedd wrth y ffenestr. ……………………….. Credydau: Cynhyrchwyd gan yello brick Ystwyth - Mared Jarman Awdur - Sara Lewis Cynllun Sain - Dan Lawrence Darlunio - Brickwall Prosiect Cyngor Sir Powys mewn partneriaeth â Phartneriaethau Cyrchfan Biosffer Ceredigion, Canolbarth a Gogledd Powys a Dyfi. Wedi’i ariannu trwy’r Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol a’i gefnogi trwy Gymunedau Gwledig y Llywodraeth Gymreig - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

To listen to explicit episodes, sign in.

Stay up to date with this show

Sign in or sign up to follow shows, save episodes and get the latest updates.

Select a country or region

Africa, Middle East, and India

Asia Pacific

Europe

Latin America and the Caribbean

The United States and Canada