Digon BBC Radio Cymru
-
- Hälsa och motion
Digon yw digon, wrth i Non Parry ddweud ei bod hi’n amser am sgwrs onest am iechyd meddwl. / Enough is enough, as Non Parry says it’s time to be upfront about mental health.
-
Eden
Yn ogystal a bod yn aelodau o'r grŵp eiconig Eden, mae Non, Emma a Rachael hefyd yn ffrindiau gorau.
Ym mhennod olaf y gyfres yma o Digon, mae'r dair yn trafod sut mae eu cyfeillgarwch wedi esblygu dros y blynyddoedd a'u gobeithion ac ofnau ar gyfer y dyfodol. -
Trystan Ellis-Morris
Mewn sgwrs gynnes ac agored, mae'r cyflwynydd poblogaidd yn datgelu sut y mae wedi ymdopi gyda phwysau gwaith ar wahanol gyfnodau o'i fywyd.
Mae Trystan hefyd yn trafod ei gyfnod o salwch difrifol rai blynyddoedd yn ôl, a'r effaith mae hynny'n dal i'w gael arno. -
Lisa Jên
Yn y bennod yma mae Non yn cael cwmni'r actor a cherddor Lisa Jên. Mewn sgwrs agored a chynnes, mae Lisa yn rhannu ei phrofiad o ddsygu a deall mwy y pethau sy'n effeithio ar ei iechyd meddwl.
Mae'r bennod yma'n cynnwys trafodaeth am themâu sy'n ymwneud a hunan-niweidio, allai beri gofid i rai gwrandawyr. -
-
Mari Gwenllian
Yr arlunydd ac aelod o grŵp Sorela sy'n trafod effaith hunanddelwedd ar iechyd meddwl.
Mae'r podlediad yma yn trafod themâu yn ymwneud â iechyd meddwl allai beri gofid i rai gwrandawyr. -
Rhydian Bowen Phillips
Y cyflwynydd Rhydian Bowen Phillips sy'n ymuno â Non i drafod effaith cariad, galar a'r cyfryngau cymdeithasol ar iechyd meddwl.
Mae'r podlediad yma yn trafod themâu yn ymwneud â iechyd meddwl allai beri gofid i rai gwrandawyr.