350 episodios

Casgliad o bodlediadau ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd. Sgyrsiau diddorol o bob math fydd yn gymorth ac yn gwmni i chi ar eich taith fel siaradwr Cymraeg newydd. A collection of podcasts for Welsh learners.

Y Podlediad Dysgu Cymraeg BBC Radio Cymru

    • Educación

Casgliad o bodlediadau ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd. Sgyrsiau diddorol o bob math fydd yn gymorth ac yn gwmni i chi ar eich taith fel siaradwr Cymraeg newydd. A collection of podcasts for Welsh learners.

    Sgwrsio: Luciana Skidmore

    Sgwrsio: Luciana Skidmore

    ‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.
    Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Luciana Skidmore.Cafodd Luciana ei geni ym Mrasil, ond erbyn hyn mae hi yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.

    • 37 min
    Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill y 30ain 2024.

    Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill y 30ain 2024.

    Ar Blât – Elinor Snowsill
    Y cyn-chwaraewr rygbi Elinor Snowsill oedd gwestai Beca Lyne-Pirkis ar y rhaglen Ar Blât yn ddiweddar, gyda’r ddwy yn trafod ryseitiau, atgofion a sut mae bwyd yn effeithio ar ein bywydau ni bob dydd. Mae coginio yn rhan fawr o fywyd teulu Elinor felly siawns ei bod hi wedi bwyta’n dda ac yn iach pan oedd hi’n ifanc…?
    Cyn-chwaraewr Former player
    Rysetiau Recipes
    Atgofion Memories
    Gwrthod To refuse
    Cytbwys Balanced
    Adnabyddus Famous
    Wastad Always
    Dros Frecwast – Toiledau Cyhoeddus
    Wel dw i’n siŵr bod Elinor yn bwyta’n iachach nawr nag oedd hi pan oedd hi’n ifanc!
    Ar fore Llun yr 22ain o Ebrill, diffyg toiledau cyhoeddus oedd yn cael sylw ar raglen Dros Frecwast. Buodd Gethin Morris Williams yn sgwrsio gyda Lois Mererid Edwards, o Langefni ar Ynys Môn. Fel cawn ni glywed, mae Lois yn diodde o gyflwr meddygol sy’n golygu bod toiledau cyhoeddus yn bwysig iawn iddi hi …
    Diffyg Lack of
    Cyflwr Condition
    Coluddyn Bowel
    Rheolaeth Control
    Straen Stress
    Croen Skin
    Ar hap Randomly
    Ailadroddus Repetitious
    Cyfleusterau cyhoeddus Public conveniences
    Cymryd yn ganiataol Taking for granted
    Bore Cothi – Menna Williams
    Lois Mererid Edwards oedd honna’n sôn am pa mor bwysig yw bod digon o doiledau cyhoeddus ar gael, yn enwedig i’r rhai sy’n diodde o gyflwr meddygol.
    Menna Williams o Langernyw yn Sir Conwy ydy enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes eleni. Gwobr yw hon sy’n cael ei rhoi bob blwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd, am gyfraniad sylweddol i fywyd pobl ifanc Cymru. Wythnos diwetha, Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes, a chafodd hi sgwrs fach gyda Menna ar y rhaglen:
    Tlws Trophy
    Cyfraniad sylweddol A substantial contribution
    Braint A privilege
    Dirprwy Deputy
    Cyfeilio To accompany (on piano)
    Amyneddgar iawn Very patient
    Llenni Curtains
    Deuawd Duet
    Pan ddaru o Pan wnaeth e
    Ienga Ifanca
    Anrhydedd An honour
    Beti a’i Phobol – Shelley Rees
    A llongyfarchiadau mawr i Menna Williams ar ennill y Tlws arbennig yna, dw i’n siŵr bydd hi’n mwynhau’r seremoni yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
    Shelley Rees yr actores, a chyflwynydd Radio Cymru oedd gwestai Beti George ar ei rhaglen nos Sul. Yma mae Shelley yn sôn am actio. Mae hi wedi perfformio ers pan oedd hi’n blentyn bach, ond nawr bod hi’n bum deg oed tybed ydy hi’n anoddach iddi hi gael gwaith actio?
    Cyflwynydd Presenter
    Sefyll yn llonydd Standing still
    Menywod Merched
    Arallgyfeirio Diversify
    Ymgyrchu To campaign
    Egni Energy
    Drygionus Naughty
    Yn go glou Yn eitha cyflym
    Mam-gu Nain
    Taw Mai
    Aled Hughes – Singapore
    Ychydig o hanes gyrfa actio Shelley Rees yn fanna ar Beti a’i Phobol.
    Basen ni’n disgwyl clywed sgwrs Gymraeg mewn ystafell athrawon, neu gweld eisteddfod mewn ysgol yng Nghymru …ond yn Singapore? Wel dyna sy’n digwydd mewn un ysgol draw ar yr ynys bell honno, diolch i bennaeth o Gymru, sydd wedi recriwtio nifer o athrawon Cymreig i weithio yn yr ysgol. Rhys Myfyr, un o athrawon yr ysgol fuodd yn sgwrsio gydag Aled Hughes:
    Pennaeth Head
    Rhyfedd Strange
    Rhyngwladol International
    Wedi ei leoli Located
    Diwylliannol Cultural
    Hap a damwain Luck
    Denu To attract
    Ymddiried To trust
    Cystadleuol Competitive
    Dros Ginio – Llyfrau
    Eisteddfod ysgol yn Singapore, gwych on’d ife?
    Tybed faint o lyfrau dych chi'n llwyddo i'w darllen o glawr i glawr? Yn ddiweddar, mae sawl ap yn crynhoi cynnwys llyfrau, ond ydy hyn yn mynd i gael effaith ar werthiant llyfrau? Ar Dros Ginio ddydd Mawrth diwetha, buodd Jennifer Jones yn holi'r awdur a'r golygydd, Elinor Wyn Reynolds am ei barn:
    Clawr Cover
    Crynhoi cynnwys To summarise the content
    Cyfrolau Books
    Adolygiadau Review
    Yn ei chrynswth In its entirety
    Drwgdybus Suspicious
    Yn hytrach na Rather than
    Bod dynol Human being
    Bygythiad Threat
    Annog To encour

    • 18 min
    Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill y 23ain 2024.

    Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill y 23ain 2024.

    1 Trystan ac Emma – Hyd 1.49.
    Ar eu rhaglen wythnosol mae Trystan ac Emma yn cynnal cwis gyda Ieuan Jones neu Iodl Ieu fel mae’n cael ei alw. Ac yn ddiweddar roedd rhaid i Ieuan ofyn cwestiwn tie break i Trystan, Emma, a’u gwestai Megan...a dyma’r cwestiwn:
    Yn ddiweddar Recently
    Llongyfarchiadau Congratulations
    2 Rhaglen Ffion Dafis – Hyd 2.28.
    Wel, dan ni’n gwybod rŵan pa mor gyflym mae cangarŵ yn medru rhedeg yn tydan?
    Ar hyn o bryd mae‘r actor Dafydd Emyr yn perfformio mewn drama lwyfan yn Saesneg yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug. Enw’r ddrama ydy ‘Kill Thy Neighbour‘ a chafodd ei sgwennu gan y dramodydd Lucie Lovatt. Mi gafodd Ffion Dafis, yn ei rhaglen bnawn Sul, sgwrs efo Dafydd Emyr er mwyn cael gwybod dipyn mwy am y ddrama.
    Trawiadol Striking
    Difrifol Serious
    Cyfoes Modern
    Cyfredol Contemporary
    Y felltith The curse
    Dychmygol Imaginary
    Trigolion cynhenid Indigenous residents
    Estroniaid cefnog Rich outsiders
    Rhwystro To prevent
    (G)oblygiadau Consequences
    Gostwng yn ddifrifo Fallen sharply
    3 Beti a’i Phobol – Hyd 2.51.
    Dafydd Emyr yn fanna’n sôn am y ddrama ‘Kill Thy Neighbour‘ sydd i’w gweld yn Theatr Clwyd yr Wyddgrug.
    Y nofelydd, cogydd ac actores Rhian Cadwaladr oedd gwestai Beti George ddydd Sul ac yn y clip hwn mae hi’n sôn am ei henw ‘Cadwaladr’. Mae hi hefyd yn sôn ei bod yn hoff o hel achau, ac wedi canfod ei bod yn perthyn i Cadwaladr, Brenin y Brythoniaid. Mae hi hefyd yn sôn am ei chefndir yn Llanberis a hanes ei rhieni.
    Hel achau To genealogize
    Y Brythoniaid The Britons
    Canfod To find
    Plwyf Parish
    Ymwybodol Aware
    Rhyfedd Strange
    Dirprwy swyddog Deputy officer
    Awyrlu Airforce
    Be dach chi’n dda? What are you doing?
    Alla i ddychmygu can imagine
    4 Aled Hughes – Hyd 2.00
    Wel, wel, mae Rhian Cadwaladr yn perthyn i un o frenhinoedd y Brythoniaid – pwy fasai’n meddwl!
    Mae Antur Waunfawr yn dathlu pen-blwydd yn bedwar deg oed eleni. Mae’r Antur yn rhoi gwaith a chyfleoedd i bobol sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn y gogledd orllewin. Ddydd Gwener y deuddegfed o Ebrill, ‘roedd na daith feics pedwar deg milltir o hyd fel rhan o’r dathliad. Mi fuodd Aled Hughes draw i Gaernarfon i sgwrsio efo Jack Williams, sy’n trefnu’r daith feics ar ran Antur Waunfawr.
    Dathliad Celebration
    Unigolion Individuals
    Trwsio To repair
    5 Bore Cothi – Hyd 2.26.
    A phen-blwydd hapus i Antur Waunfawr sy’n gwneud gwaith gwerth chweil yn ardal Arfon yng Ngwynedd.
    Antur arall sy’n gwneud gwaith campus yng Ngwynedd ydy Antur Aelhearn ym Mhen Llŷn, ac yn ddiweddar ar Bore Cothi, cafodd Shan sgwrs efo John Pritchard, Dirprwy Gadeirydd yr Antur. Mae’r Antur am brynu Becws Glanrhyd, Llanaelhaearn, sydd wedi bod yn yr ardal am bron i gan mlynedd.
    Gwerth chweil Worthwhile
    Dychmygu To imagine
    Galwad A call
    Arwr Hero
    Mor ddiolchgar So thankful
    Llewyrchus Prosperous
    Yn hanfodol Essential
    Craidd Core
    Ehangu To expand
    Cynhyrchu To produce
    Go sylweddol Quite substantial
    Os na watsia i If I don’t look out
    6 Dros Ginio – Hyd 2.30.
    Pob lwc i’r Antur efo’r fenter newydd, dw i’n siŵr bydd hi’n llwyddiant mawr.
    Ddydd Mawrth diwetha ar raglen Dros Ginio, mi gafodd Catrin Heledd gwmni’r meddyg teulu Dr Llinos Roberts, a dyma i chi flas ar sgwrs gaethon nhw am gyflwr ein gwallt ac am effaith hynny ar ein hiechyd:
    Cyflwr Condition
    Dw i yn cyfadde I admit
    Blewyn A hair
    Straen Stress
    Yn raddol Gradually
    Yn ei gylch e About it
    Ymddangos To appear
    Ansawdd Texture
    Menywod Merched
    Brau Brittle

    • 17 min
    Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill yr 16eg 2024

    Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill yr 16eg 2024

    Pigion y Dysgwyr – Francesca
    Dych chi’n un o’r rhai sy’n symud eich dwylo wrth siarad?
    Mae ymchwil yn dangos mai Eidalwyr sy’n defnyddio y mwya o’r ‘stumiau hyn wrth siarad a rhannu straeon!
    Mae teulu Francesca Sciarrillo yn dod o’r Eidal a gofynnodd Alun Thomas iddi oedd hi’n cytuno gyda’r ymchwil...
    (Y)stumiau Gestures
    Ymchwil Research
    Ystrydebol Cliched
    Ymwybodol Aware
    Sylwi To notice
    Hunaniaeth Identity
    Am wn i I suppose
    Mynegi To express
    Lleisiau Voices
    Barn An opinion
    Pigion y Dysgwyr – Llyfrau Hanes
    Bron y gallen ni glywed dwylo Francesca’n symud yn ystod y sgwrs yna on’d ife? Ond dwi’n siŵr mai llonydd iawn basai ei dwylo hi wrth drafod pethau diflas, a llyfrau hanes diflas oedd testun sgwrs Aled Hughes gyda’r hanesydd Dr Mari William fore Iau, ond beth sy’n ddiflas i’r hanesydd tybed?
    Llonydd Still
    Diflas Boring
    Milwrol Military
    Agweddau Aspects
    Yn ddiweddar Recently
    Pori To browse
    Taro To strike
    Cymhleth Complicated
    Rhaid i mi gyfadde(f) I must admit
    Ysgolheictod Scholarship
    Astrus Obscure
    Pigion y Dysgwyr – Beti a Huw
    Dr Mari William oedd honna’n sôn wrth Aled Hughes am ba lyfrau hanes sy’n ddiflas iddi hi.
    Nos Lun ar S4C, roedd cyfres newydd i’w weld sef Cysgu o Gwmpas. Beti George a Huw Stephens sydd yn cysgu o gwmpas Cymru mewn gwestai moethus. Yn y rhaglen gynta, roedd y ddau’n ymweld â Pale Hall yn Llandderfel ger y Bala, ac roedd Beti yn cael aros yn yr un ystafell ac y buodd y Frenhines Victoria yn aros ynddi flynyddoedd maith yn ôl! Shan Cothi fuodd yn holi’r ddau.

    Moethus Luxurious
    Cyflwynydd Presenter
    Darganfod To discover
    Anhygoel Incredible
    Pigion y Dysgwyr – Gwyl Ban Geltaidd
    Wel dyna fywyd braf gan Beti a Huw, on’d ife, yn cael aros mewn gwestai moethus ac yn cael bwyta bwyd anhygoel!
    Sara Davies enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru eleni ac mae enillydd y gystadleuaeth honno wastad yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd, sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn yn Iwerddon. Yn nhref Carlow, yn ne-ddwyrain Iwerddon oedd yr Ŵyl eleni ac enillodd Sara gystadleuaeth y Gân Ryngwladol Orau yn yr Ŵyl gyda'r gân ‘Ti’. Gofynnodd Aled Hughes iddi hi fore Llun sut oedd hi’n teimlo ar ôl iddi hi ennill y gystadleuaeth...

    Rhyngwladol International
    Suddo To sink
    Alla i ddychmygu I can imagine
    Profiadau Experiences
    Canlyniad Result
    Pigion y Dysgwyr – Jonathan Rio
    A llongyfarchiadau mawr i Sara am y fuddugoliaeth on’d ife!
    Gwestai Beti George oedd Jonathan Roberts sy’n dod o’r Bala yn wreiddiol ac sydd erbyn hyn yn gweithio fel cyfieithydd yn Rio de Janeiro ers bron i 30 mlynedd. Buodd yn byw yn Lerpwl a Llundain cyn teithio i Brasil a syrthio mewn cariad gyda’r ddinas. Dyma fe’n sôn wrth Beti am yr adeg daeth ei dad i aros ato fe yn Rio...
    Buddugoliaeth Win
    Cyfieithydd Translator
    Peryglus Dangerous
    Ffon Stick

    Pigion y Dysgwyr – RNLI
    Mae’n swnio fel bod tad Jonathan yn ddyn lwcus iawn ond yw e?
    Mae’r RNLI yn dathlu dau ganmlwyddiant eleni ac Emma Dungey (ynganu fel Bungee jump) o orsaf Bad Achub Y Bari, fuodd yn sôn wrth Shan Cothi fore Gwener am sut daeth hi ymuno â’r RNLI..
    Dau ganmlwyddiant Bicentenary
    Bad achub Lifeboat
    Ymuno â To join
    Rhiant Parent
    Mewn cysylltiad â In contract with
    Hyfforddiant Training

    • 16 min
    Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill yr 9fed 2024

    Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill yr 9fed 2024

    Pigion y Dysgwyr - Rosalie
    Caryl 020224
    Rosalie Lamburn o Moggerhanger ger Bedford oedd gwestai Caryl nos Fawrth ac roedd Caryl eisiau gwybod mwy am gefndir Rosalie. Cafodd hi ei geni yn Hong Kong ar ddechrau’r rhyfel, cyn symud i fyw i Awstralia a symud wedyn o fanno i Ddeiniolen ger Llanberis. Dyma Rosalie yn dechrau drwy sôn am ei hatgofion o Awstralia.

    Rhyfel War
    Atgofion Memories
    Mynyddog Mountainous
    Anferth Huge
    Bobol annwyl Goodness me
    Llong Ship
    Grawnwin Grapes

    Pigion y Dysgwyr – Magnets Oergell
    Aled Hughes 030424
    Rosalie Lamburn oedd honna’n sôn am ei phrofiad yn symud i Gymru o Awstralia pan oedd hi’n chwech oed.
    Dych chi’n un o ‘r rhai sy’n hoff o brynu magnet i roi ar y ffrij, neu’r oergell, pan dych chi ar wyliau? Wel mae’n ffordd dda o gofio am y gwyliau ymhen blynyddoedd wedyn on’d yw e? Mae Lowri Mair Williams newydd fod yn teithio am 5 mis yn Asia ac fel cawn ni glywed, mae casglu magnetau yn rhan bwysig o’i gwyliau iddi hi...
    Traddodiad Tradition
    Celf Art
    Llawn bwrlwm Buzzing
    Cynnyrch lleol Local produce
    Pwytho â llaw Handstitched
    Pren Wood
    Cysylltiad Connection
    Atyniad Attraction
    Pigion y Dysgwyr – Clare Mackintosh
    Dros Ginio 02.04.24
    Faint o le sydd ar ffrij Lowri erbyn hyn tybed i gadw’r holl fagnetau na?
    Mae’r awdures Clare Mackintosh, sy’n byw yn y Bala, wedi cyhoeddi ei llyfr diweddara. Fel arfer basen ni’n cysylltu ei llyfrau hi â ffuglen a throsedd, ac mae ei llyfrau wedi gwerthu dros 2 filiwn ar draws y byd. Mae ei llyfr diweddara yn wahanol iawn i’r lleill ac yn sôn am ei phrofiad personol hi o alar…
    Ffuglen a throsedd Fiction and crime
    Diweddara Most recent
    Galar Grief
    Dynes Menyw
    Cennin Pedr Daffodils
    Amser maith yn ôl A long time ago
    Yn union Exactly
    Pigion y Dysgwyr – Cerys Hafana
    Beti a’i Phobol 070404
    A dw i’n siŵr bydd llyfr diweddara Claire yn gysur ac yn gymorth i rai eraill sy’n galaru ar ôl colli rhywun agos.
    Tair perfformwraig sydd i’w clywed yn y tri chlip nesa ‘ma gan ddechrau gyda’r delynores ifanc, Cerys Hafana, oedd yn westai ar Beti a’i Phobol ddydd Sul,
    Dim ond 22 oed ydy hi ac mae hi’n berfformwraig boblogaidd iawn oherwydd ei harddull arbennig yn canu’r delyn. Cafodd hi ei geni yn Chorlton, Manceinion ac yma mae hi’n sôn am hanes ei theulu….
    Cysur Comfort
    Telynores Harpist
    Arddull Style
    Chwarelwyr Quarrymen
    Dychwelyd To return
    Cwympo To fall

    Pigion y Dysgwyr – Golden Oldies
    Bore Cothi 020404
    Ac mae Cerys yn perfformio mewn sawl lleoliad yng Nghymru rhwng nawr a’r haf – cerwch i’w gweld os cewch chi gyfle, mae’n delynores arbennig iawn.
    Buodd Shelley Morris o Faenclochog yn Sir Benfro yn sôn am brosiect arbennig sef y Golden Oldies ar Bore Cothi. Cynllun ydy hwn drwy Gymru sy’n cynnig siawns i rai ddod at ei gilydd i fwynhau a chael cyfle i ganu pob math o ganeuon, nid fel côr, ond yn fwy hamddenol. Ond mae Shelley yn berfformwaig ei hunan hefyd, a dyma hi’n sôn wrth Shan Cothi am ei phrofiad hi o berfformio ar lwyfannau enwog iawn...
    Hamddenol Leisurely
    Profiad Experience
    Llwyfannau Stages
    Nefoedd annwyl Good Heavens
    Pigion y Dysgwyr – Connie Orff
    Caryl 030204
    Wel pob lwc i’r Golden Oldies on’d ife? Mae’n swnio’n brosiect diddorol a hwyliog iawn.
    Ac yn ola, y frenhines drag, Connie Orff, gafodd sgwrs gyda Caryl i sôn am beth sy’n gwneud perfformiad drag llwyddiannus …

    Dylanwadau Influences
    Uniaethu fel To identify as
    Ffraeth Witty
    Israddol Inferior
    Caniatáu To permit

    • 15 min
    Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill yr 2il 2024

    Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill yr 2il 2024

    Pigion y Dysgwyr – Tomos Owen

    Mae dyn o Gaernarfon wedi dechrau menter newydd yn gwneud "smoothies". Beth sy’n arbennig ydy bod beic yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu’r "smoothies". Cafodd Aled Hughes air gyda Tomos Owen ddydd Mawrth diwetha am ei fenter.

    Cynhyrchu To produce
    Ar y cyd Together
    Hybu To promote
    Maeth Nutrition
    Troellwr Spinner
    Atgofion Memories
    Agwedd Aspect
    Lles Welfare
    Manteisio ar To take advantage of
    Addas Suitable
    Pigion y Dysgwyr – Andy John

    Wel dyna ffordd ddiddorol o gael plant i yfed "smoothies" on’d ife?
    Sawl Archesgob sydd gyda tatŵ tybed? Wel, mae gan Archesgob Cymru, Y Parchedicaf Andy John, datŵ mawr iawn a fe oedd gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol yr wythnos hon…

    Archesgob Archbishop
    Y Parchedicaf The Most Reverand
    Atgof memory
    Pam lai? Why not?
    Olrhain To trace
    Pigion y Dysgwyr – Pasg

    Hanes tatŵ’r Archesgob yn fanna ar Beti a’i Phobol.
    Ond sôn am ddathliadau’r Pasg oedd y Parchedig Beti Wyn James pan fuodd hi’n sôn am draddodiadau’r Pasg ar draws y byd wrth Shan Cothi. Dyma’r gweinidog o Gaerfyrddin yn sôn am sut mae Cristnogion Ethiopia’n dathlu…

    Traddodiadau Traditions
    Gweinidog Minister
    Amrywio To vary
    Y Grawys Lent
    Ymprydio To fast
    Dipyn o her Quite a challenge
    Gwylnos A vigil
    Y wawr Dawn
    Mae’n ymddangos i mi It appears to me
    Pigion y Dysgwyr – Twin Town

    Y Parchedig Beti Wyn James oedd honna’n sôn am ddathliadau Pasg Ethiopia.
    Nos Lun wythnos diwetha ar ei raglen cafodd Rhys Mwyn gwmni yr actor Llŷr Ifans. Fe, a’i frawd Rhys, oedd prif gymeriadau’r ffilm gomedi enwog Twin Town recordiwyd yn Abertawe a’r cyffiniau. Dyma Rhys yn holi Llŷr am ei atgofion o cael ei gastio i actio yn y ffilm……


    Prif gymeriadau Main characters
    Cyffiniau Vicinity
    Ymchwil manwl iawn Very detailed research
    Ymwybodol Aware
    Awyddus iawn Very keen
    Cyfweliad Interview
    Fatha Fel
    Plentyndod Childhood
    Profiad Experience
    Pigion y Dysgwyr – Piano
    Ac os dych chi wedi gweld y ffilm, dw i’n siŵr basech chi’n cytuno bod perthynas y ddau frawd wedi dod drosodd yn wych ynddi hi.
    Mae sawl diwrnod arbennig yn ystod y flwyddyn i ddathlu’r hyn neu’r llall on’d oes yna? Ond oeddech chi’n gwybod bod Diwrnod Rhyngwladol y Piano i’w gael? Catrin Haf Jones fuodd yn holi’r pianydd Gwenno Morgan ar Dros Ginio a gofyn iddi hi beth mae’r diwrnod arbennig hwn yn ei olygu iddi hi…
    Offeryn Instrument
    Cyflawni To achieve
    Anwybyddu To ignore
    Cymryd yn ganiataol Taking for granted
    Cerddorfa Orchestra
    Cyfeilyddion Accompanists
    Hyblyg Flexible
    Y deunawfed ganrif 18th century
    Esblygu To evolve
    Pigion y Dysgwyr – Isabella

    Ac mae perfformio yn ganolog i’r sgwrs nesa ‘ma wrth i ni wrando ar Aled Hughes yn sgwrsio gyda Isabella Colby Browne, actores sydd wedi dysgu Cymraeg, ac sydd erbyn hyn yn actio yn Gymraeg ar lwyfan gyda chwmni Arad Goch.…

    Mae Isabella yn dal i gael gwersi Cymraeg ar-lein ac mae hi am fynd ar gwrs i Nant Gwrtheyrn cyn bo hir.

    Yr Wyddgrug Mold
    Llwyfan Stage
    O ddifri(f) Seriously
    Tanio dy frwdfrydedd Sparked your enthusiam
    Argraff enfawr A huge impression
    Diwylliant Culture
    Ailgysylltu To reconnect
    Parch Respect

    • 13 min

Top podcasts en Educación

Listening Time: English Practice
Sonoro | Conner Pe
Relatos en inglés con Duolingo
Duolingo
Martha Debayle
Martha Debayle
LA MAGIA DEL CAOS con Aislinn Derbez
Aislinn Derbez
El Camino es Hacia Adentro ®
Universo Shakti ®
All Ears English Podcast
Lindsay McMahon and Michelle Kaplan

También te podría interesar

Sgwrsio
Nick Yeo
The Infinite Monkey Cage
BBC Radio 4
More or Less: Behind the Stats
BBC Radio 4
Newscast
BBC News
Friday Night Comedy from BBC Radio 4
BBC Radio 4
Doctoriaid Cymraeg
Doctoriaid Cymraeg

Más de BBC

6 Minute English
BBC Radio
Global News Podcast
BBC World Service
Learning English Vocabulary
BBC Radio
Learning English Conversations
BBC Radio
Learning English Grammar
BBC Radio
Learning English Stories
BBC Radio