Syniadau Iach

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Syniadau Iach

Gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae Syniadau Iach yn bodlediad a fydd yn adlewyrchu syniadau newydd arweinwyr ym maes arloesol iechyd a gofal. Byddwn yn clywed gan arloeswyr , arweinwyr a dylanwadwyr sy’ wedi dangos eu hymrwymiad i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy ddyfeisio atebion arloesol.

  1. 06/07/2020

    Ymateb arloeswyr Cymru i’r Coronafeirws

    Mae’r pandemig Coronafeirws wedi taflu sialensau di-ri i gyfeiriad y gwasanaeth iechyd a gofal ond mae nifer o arloeswyr Cymru wedi ymateb i’r galw hwnnw gan ddod ag offer, theclynau a dyfeisiadau yn saff ag effeithiol i’r GIG, mewn amser byr iawn. Yn y podlediad yma fe fydd Rhodri Griffiths yn sgwrsio a Pryderi ap Rhisiart, rheolwr- gyfarwyddwr M-Sparc, parc gwyddoniaeth yng Ngaerwen, Ynys Mon i drafod y gwaith arloesol sydd wedi bod yn digwydd yno i fynd i’r afael a’r pandemig. Mae’n son am amryw o brosiectau gafodd eu cyflawni’n gyflym iawn, gan gynnwys cynhyrchu cyfarpar PPE, dyfeisio teclyn i agor drysau gyda braich yn lle dwylo i atal lledaenu’r feirws a drons i’r heddlu. Dywed Pryderi: “ Dwi mor lwcus i gael eistedd ynghanol hyn i gyd, gweld y bwrlwm a phobl yn cyd-weithio i gwffio’r pandemig.” Ychwanegodd bod labordi yn yr Eidal wedi profi bod mwgwd gafodd ei ddatblygu gyda chefnogaeth M-Sparc wedi profi’n effeithiol iawn yn erbyn y straen yma o Covid 19. Mae Pryderi’n credu bod y pandemig, wedi arwain at ffordd newydd o gydweithio a chyflymu arloesedd. “Mae’n dangos pwer yr ecosystem pan fo’r bobl yma i gyd yn tynnu efo’i gilydd, i’r un cyfeiriad. Gallwn ni ddysgu lot oddi wrth hynny wrth symud ymlaen,” meddai. Gallwch ddarllen mwy am waith Pryderi ag M-Sparc yn ystod yr argyfwng Covid 19 yn ei flog yma (gellid lincio i blog Pryderi ) Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.

    26min
  2. 03/06/2020

    Lledaenu a Graddfa

    Mae gweithlu’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn datblygu mwy o brosiectau arloesi a gwella nag erioed o’r blaen. Ond unwaith y byddan nhw wedi profi bod eu prosiect yn llwyddiannus yn eu hardal leol, beth yw’r cam nesaf? Yn y podlediad hwn bydd Siôn Charles, dirprwy gyfarwyddwr y Comisiwn Bevan yn trafod sut mae goroesi’r rhwystrau y mae arloeswyr yn eu gwynebu wrth geisio ledaenu’u syniadau ar raddfa fawr. “Y rhwystrau i’r arloeswyr yw amser, neu creu amser, arian a sgiliau,” meddai. Fe fydd yn sôn am raglen ddwys newydd- yr Academi Lledaeniad a Graddfa- lansiwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar y cyd gyda’r Comisiwn Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, lle daeth tua hanner cant o arloeswyr Cymru a thu hwnt ynghyd yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Yn ôl Joe McCannon, un o sefydlwyr y Billions Institute, cwmni o’r Unol Daleithiau America oedd yn arwain y sesiynau, dim gweithio 10 gwaith yn fwy caled i gyrraedd 10 gwaith fwy o bobl sydd angen. Mae‘r cwmni wedi helpu sefydliadau mawr i feddwl yn wahanol wrth gyflwyno newidiadau ar raddfa eang. “You have to really think very deliberately about how you tap into others and their creativity and their ideas and effectively deputize others to carry the work forward,” medd Joe McCannon. Clywn ni hefyd gan rai oedd wedi mynychu’r Academi fel Dr Arfon Williams sydd wedi dechrau gweithio mewn ffordd gwahanol yn ei feddygfa yn Nefyn ac sydd am gyflwyno’r model hwn ar draws Cymru. “Be mae nhw’n gwneud yw mynd a chi allan o’ch comfort zone a gwneud ichi feddwl yn wahanol,” meddai. Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.

    25min

Sobre

Gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae Syniadau Iach yn bodlediad a fydd yn adlewyrchu syniadau newydd arweinwyr ym maes arloesol iechyd a gofal. Byddwn yn clywed gan arloeswyr , arweinwyr a dylanwadwyr sy’ wedi dangos eu hymrwymiad i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy ddyfeisio atebion arloesol.

Para ouvir episódios explícitos, inicie sessão.

Fique por dentro deste podcast

Inicie sessão ou crie uma conta para seguir podcasts, salvar episódios e receber as atualizações mais recentes.

Selecionar um país ou região

África, Oriente Médio e Índia

Ásia‑Pacífico

Europa

América Latina e Caribe

Estados Unidos e Canadá