
30 episodes

Yr Hen Iaith Yr Hen Iaith
-
- Education
-
-
4.8 • 19 Ratings
-
Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.
-
Pennod 29 - Gwin, Arch a Diwedd Oes: Guto’r Glyn
Trafodwn un o feirdd Cymraeg pwsicaf y 15fed ganrif yn y bennod hon. Cafodd Guto’r Glyn oes hir, ac yntau wed’i eni ychydig o flynddoedd ar ôl diwedd gwrthryfel Glyndŵr ac wedi marw rai blynyddoedd ar ôl i Harri Tudur gipio coron Lloegr yn 1485. Roedd yn filwr proffesiynol ar adegau hefyd, ac agweddau ar ei waith yn dangos mor gyfarwydd ydoedd â rhyfela’r oes.
Yn arbenigo ar y cywydd mawl, mae dros gant o’i gerddi wedi goroesi, ac mae’r corff mawr hwn o farddoniaeth yn ffynhonnell bwysig iawn er mwyn deall y traddodiad barddol ar ddiwedd y cyfnod canoloesol. Er na chanodd am serch a natur fel llawer o’r cywyddwyr eraill, roedd ei ganu mawl yn amrywio’n fawr ac yn gallu bod yn ddyfeisgar iawn. Disgrifia un o’i gerddi frwydr rhwng y beirdd a gwin yn llys eu noddwr, wrth iddyn nhw fynd ati am y gorau i wagio seleri’r uchelwr. Trafodwn ei farwnad ddwy i fardd arall, Llywelyn ab y Moel, a chywydd a ganodd Guto ddiwedd ei oes, cerdd ryfeddol sy’n dangos y bardd fel hen ŵr yn aflonyddu ar y mynaich a oedd yn gofalu amdano.
*
Wine, a Coffin and the End of Life
In this episode we discuss one of the most important Welsh poets of the 15th century. Guto’r Glyn had a long life, being born a few years after the end of Owain Glyndŵr’s rebellion and dying some years after Henry Tudor won the crown of England. Guto was a professional soldier at times as well, and aspects of his work show how familiar he was with warfare of the age.
Specializing in praise poetry cast in the cywydd metre, more than one hundred of his poems have survived, and this large body of work is an important source for understanding the bardic tradition in the later Middle Ages. Although he didn’t compose about love and nature as did many of the other cywydd poets, his praise poetry varies greatly and can be extremely inventive. One of his poems describes a battle between the bards and the wine of their patron, as they attempt to empty his cellars. We also discuss his powerful elegy to another poet, Llywelyn ab y Moel, and a cywydd which Guto sung towards the end of his life, a remarkable poem which portrays the bard as an old man troubling the monks caring for him.
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin
Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes
Dilynwch ni ar Trydar: www.twitter.com/YrHenIaith
neu YouTube: www.youtube.com/@yrheniaith
Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad.
Darllen pellach / further reading:
- Guto’r Glyn.net: http://www.gutorglyn.net/gutorglyn/index/
- Saunders Lewis, ‘Gyrfa Filwrol Guto’r Glyn’, yn Ysgrifau Beirniadol IX (1976) -
Pennod 28 - ‘Bawddyn!’: Ymrysonau’r Cywyddwyr
Er mwyn dyfnhau’n dealltwriaeth o waith ‘Beirdd yr Uchelwyr’ neu’r Cywyddwyr, edrychwn yn y bennod hon ar rai o’u hymrysonau.
Wrth ystyried cywyddau yr oedd beirdd yn eu cyfnewid, rydym ni’n archwilio cysylltiadau posib rhwng y farddoniaeth hon a chyd-destunau cymdeithasol coll. Mae’n debyg bod beirdd yn ymrysona am wahanol resymau yn y cyfnod – er mwyn cystadlu am nawdd, er mwyn sefydlu neu gadarnhau enw da, er mwyn trafod agweddau ar eu crefft (a dadlau yn eu cylch!), ac er mwyn hwyl neu adloniant – ond mae’n rhaid i ni ddefnyddio’n dychymyg (ac ychydig o theory anthropolegol!) er mwyn deall y berthynas rhwng y cerddi rhyfeddol hyn a’r cyd-destun(au) a roes fod iddynt. Trafodwn gwestiwn hynod ddiddorol arall hefyd: pam bod bardd yn galw enwau mor hyll ar ei wrthwynebydd, a hynny mewn trafodaeth am bynciau dyrchafedig fel ffynhonnell yr awen a phriod waith y bardd?
/
‘Shit-man!’: Bardic Debates of the Cywyddwyr
In order to deepen our understanding of the work of ‘The Poets of the Uchelwyr’ or the Cywyddwyr, we look at their ymrysonau or bardic debates in this episode.
While considering poems exchanged by bards, we examine possible connections between this poetry and lost social contexts. It’s likely that bards engaged in an ymryson for various reasons during the period in question – in order to compete for patronage, in order to establish or confirm one’s reputation, in order to discuss aspects of their art (and argue about them!), and for the sake of fun or entertainment – but we must use our imagination (and some anthropological theory!) in order to understand the relationship between this amazing poems and the context(s) which gave birth to them. We also discuss another very interesting question: why does a poet call his opponent such nasty names, and do so in a discussion about refined topics such as the source of poetic inspiration and the proper function of a poet?
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin
Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes
Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith
neu YouTube: https://www.youtube.com/@yrheniaith
Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad.
Darllen pellach / further reading:
- https://dafyddapgwilym.net/cym/3win.php
- Dylan Foster Evans (ed.), Gwaith Rhys Goch Eryri (2007)
- Ann Matonis, ‘Barddoneg a Rhai Ymrysonau Barddol Cymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar’, Ysgrifau Beirniadol 12 (1982).
- Morgan Davies, “ ‘Aed i’r coed i dorri cof’: Dafydd ap Gwilym and the Metapoetics of Carpentry”, Cambridge Medieval Celtic Studies 30 (Gaeaf, 1995).
- Jerry Hunter, “Cyd-destunoli Ymrysonau’r Cywyddwyr: Cipolwg ar yr ‘Ysbarddiad Barddol’)”, Dwned 3 (1997) a Bleddyn Huws ac A. Cynfael Lake (goln.), Genres y Cywydd (2016). -
Pennod 27 - Llais Cymraes: Gwerful Mechain
Mae’n hen bryd i ni ganolbwyntio ar lenyddiaeth gan Gymraes. Gan ein bod wedi dechrau trafod cyfnod y cywydd, rydym ni’n neidio ymlaen ryw ganrif ac ychydig o oes Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon er mwyn ystyried gwaith Gwerful Mechain, bardd benywaidd a oedd yn byw ac yn cyfansoddi yn ystod ail hanner y 15fed ganrif.
Mae hefyd yn fodd i ni ystyried y modd y mae ‘canonau’ llenyddol Cymraeg – megis y gyfrol ddylanwadol honno, Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg – wedi anwybyddu gwaith gan feirdd benywaidd fel Gwerful Mechain. Nodwn hefyd fod Gwerful wedi’i chofio gan rai fel ‘bardd masweddus’ yn bennaf – ysbrydebu anffodus - gan fod ei barddoniaeth yn mynd i’r afael â rhychwant o themâu, gan gynnwys crefydd. Edrychwn yn weddol fanwl ar ei chywydd gorchestol i’r Iesu yn ei ddioddefaint. Cawn gyfle i ystyried barddoniaeth o fath gwahanol iawn ganddi, gwaith sy’n trafod rhyw o safbwynt y fenyw ac yn dychanu canu serch y beirdd gwrywaidd.
* * *
It’s about time that we concentrate on literature by a Welsh woman. Since we have started discussing the period of the cywydd, we leap forward from the time of Dafydd ap Gwilym a century and more in order to consider the work of Gwerful Mechain, a female poet who lived and composed during the second half of the 15th century.
It is also a means of considering how Welsh literary ‘canon’s – like that influential volume, The Oxford Book of Welsh Verse – have ignored the work of female poets like Gwerful Mechain. We also note that Gwerful is remembered chiefly by some as an ‘indecent poet’ – an unfortunate stereotyping - because her work treats a range of themes, including religion. We look in some detail at her masterful cywydd describing the passion of Jesus. We have an opportunity to consider some very different poetry as well, work which discusses sex from a woman’s point of view and satirizes the love poetry of the male bards.
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin
Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes
Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith
Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad.
Darllen pellach / further reading:
- Gwaith Gwerful Mechain ac eraill, gol. N. A. Howells (2001)
- Welsh Womens’ Poetry 1450-2001, goln. Katie Gramich a Catherine Brennan (2003). -
Pennod 26 - Dychan, Hiwmor a Grym Celf: Dafydd ap Gwilym (rhan 3)
Dywed Richard Wyn Jones rywbeth yn y bennod hon sydd, er ei fod yn sylw ffwrdd-a-hi, efallai’n dweud mwy am afiaith y farddoniaeth hon na holl draethu’i gyd-gyflwynydd. Dywed y byddai wedi astudio’r Gymraeg yn y brifysgol yn hytrach na Gwleidyddiaeth Ryngwladol, o bosib, pe bai wedi cael darllen y cerddi hyn yr ysgol! Dyna ddigon i awgrymu bod y cerddi dychanol doniol hyn gan Ddafydd ap Gwilym yn eang iawn eu hapêl.
Edrychwn ar hunan-ddychan Dafydd yn y cywyddau ‘Trafferth mewn Tafarn’ a ‘Merched Llanbadarn’. Trafodwn hefyd y gerdd a gafodd ei sensro am flynyddoedd lawer, sef ‘Cywydd y Gal’. Ac ystyriwn ei ymddiddan â’r ‘Brawd Llwyd’, cerdd ryfeddol sy’n cyflwyno fersiwn syfrdanol o fodern o Gristnogaeth ac sy’n amddiffyn yr union fath o ganu serch a gysylltir â Dafydd ap Gwilym. Mae hefyd yn gerdd sy’n tystio i’r ffaith bod celf o safon uchel yn gallu dylanwadu ar ymddygiad pobl.
* * *
Satire, Humor and the Power of Art (Dafydd ap Gwilym part 3)
Richard Wyn Jones says something in this episode which, although it’s an off-the-cuff remark, perhaps says more about this poetry’s zest than all of his co-presenter’s discussion. He says that, if he had read these poems in school, he might’ve studied Welsh at university instead of International Politics! That’s enough to suggest that these humorous satirical poems by Dafydd ap Gwilym have a very wide appeal.
We look at Dafydd’s self-satire in the cywyddau ‘Trouble in a Tavern’ and ‘Women of Llanbadarn’. We also discuss the poem which was censored for many years, ‘The Cywydd of the Penis’. And we consider his dialogue with the ‘Grey Friar’, an amazing poem which presents a surprisingly modern version of Christianity and which defends the exact type of love poetry connected with Dafydd ap Gwilym. It is also a poem which testifies as to the power of high-quality art to influence people’s behaviour.
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin
Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes
Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith
Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad.
Darllen pellach / further reading:
- Dafydd ap Gwilym.net: https://dafyddapgwilym.net/index_cym.php
- Morgan Davies, ‘Dafydd ap Gwilym and the friars: the poetics of antimendicancy’, Studia Celtica xxix (1995).
- Huw M. Edwards, Dafydd ap Gwilym: Influences and Analogues (1996). -
Pennod 25 - Caru yn y Coed: Dafydd ap Gwilym (rhan 2)
Rydym ni’n parhau i drafod ffresni rhyfeddol barddoniaeth Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon, gan bwysleisio bod newydd-deb ei gyfansoddiadau wedi’i greu gyda deunydd crai traddodiadol i ryw raddau. Ystyriwn ychydig o ganu serch Dafydd, gan ddechrau â’r cywydd ‘Morfudd fel yr Haul’, cyn craffu ar y modd y mae dwy thema fawr, serch a natur, wedi’u plethu ynghyd yn ei waith. Trafodwn yr ‘oed yn y coed’, a’r bardd yn cyfarfod â’i gariad ym myd natur yn bell o hualau cymdeithas (ac yn bell o ‘eiddig’ ar adegau, pan fydd ei gariad yn wraig briod!). Er nad ydym yn ateb y cwestiwn astrus hwn, rydym yn ei godi o leiaf: a oedd y cariadon sy’n ganolbwynt i gynifer o gywyddau Dafydd yn ferched go iawn? Cewch glywed am y llatai hefyd, y negesydd serch y mae’r bardd yn ei gomisynu.
Love in the Woods: Dafydd ap Gwilym (2)
We continue to discuss the amazing freshness of Dafydd ap Gwilym’s poetry in this episode, emphasizing that the newness of his compositions is created out of traditional material to a certain extent. We consider some of Dafydd’s love poetry, beginning with ‘Morfudd like the sun’, before examining the way in which two themes, love and nature, are woved together in his work. We talk about the ‘tryst in the woods’ (oed yn y coed), with the poet meeting his lover in the world of nature far from the confines of society (and far from eiddig, ‘the jealous one’, when his lover happens to be a married woman!). Although we don’t answer this difficult question, we at least ask it: were the lovers so central to so many of Dafydd’s poems real women? You’ll also here about the llatai, the love messenger the poet commissions.
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin
Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes
Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith
Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad.
Darllen pellach / further reading:
- Thomas Parry, Gwaith Dafydd ap Gwilym
- Dafydd ap Gwilym.net: https://dafyddapgwilym.net/index_cym.php
- Huw Meirion Edwards, Dafydd ap Gwilym: Influences and Analogues -
Pennod 24 - Meddwi’n Niwbwrch: Dafydd ap Gwilym (rhan 1)
Dechreuwn drafod bardd Cymraeg enwocaf yr Oesau Canol y bennod hon – Dafydd ap Gwilym.
Nid yw hanes ei fywyd yn gwbl sicr, ond tybir iddo gael ei eni tua 1315 a marw o gwmpas y flwyddyn 1350 – o bosibl oherwydd y Pla Du. Ond mae’n sicr bod oes a gwaith Dafydd yn cydfynd â dechrau oes y cywydddwyr – a chewch beth o hanes y cywydd yn y bennod hon hefyd felly. Mae gwaith Dafydd ap Gwilym yn arwyddo cyfnod newydd yn hanes llenyddiaeth Gymraeg mewn sawl ffordd, ac mae’n bosib awgrymu mai fo oedd ‘y dyn iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn’, yn fardd talentog a beiddgar ar adeg pan oedd cymdeithas yn newid a phosibliadau barddol yn ymagor o’r herwydd.
Mae’n cael ei gofio’n bennaf heddiw am ei ganu search a natur (pwnc ein pennod nesaf!). Mae canrifoedd o Gymry wedi dotio at ei ffresni, ei newydd-deb, ei hiwmor a’i feiddgarwch ond nodwn ei fod hefyd yn fardd traddodiadol ar un wedd, yn canu mawl ac yn cyfansoddi cerddi crefyddol dwys yn ogystal â’r gwaith hwyliog a ffraeth a gysylltir â’i enw heddiw. Craffwn ar un o’i gywyddau, sef cân o fawl i dref Niwbwrch. Awgryma’r gerdd hon fod Dafydd yn claddu medd yn y dref – yn wir, ‘mynwent medd Môn’ oedd Niwrbwrch yn ei eiriau’i hun! – ac mae’r cywydd hwyliog hwn hefyd yn sôn am yfed gwin, cwrw a methyglyn (medd wedi’i drwytho â pherleisiau).
Drinking in Niwbwrch: Dafydd ap Gwilym (part 1)
We start discussing the most famous Welsh poet of the Middle Ages in this episode – Dafydd ap Gwilym.
The details of his life are not certain, but it is thought that he was born about the year 1315 and died about 1350, perhaps because of the Black Death. But it is certain that Dafydd’s life and work are part and parcel of the beginning of the age of the cywyddwyr – and thus you’ll also get some of the history of the cywydd metre in this episode. Dafydd ap Gwilym’s work signifies a new period in the history of Welsh literature in several ways, and it’s possible to suggest that he was ‘the right man yn the right place at the right time’, a talented and adventurous poet at a time when society was changing and poetic possibilities were opening up as a result.
He is remembered today mostly for his love and nature poetry (the subject of our next episode!). Centuries of Welsh people have taken to his freshness, ingenuity, his humour and his boldness, but we note that he was also a traditional poet in some ways, composing praise poetry and serious religious verse as well as the light and witty work which is connected with his name today. We look in detail at one of his poems, a song of praise to the town of Niwbwrch in Anglesey. This poem suggests that Dafydd ‘buried’ a lot of mead there – indeed, it was ‘Angelsey’s graveyard of mead’ according to his own words! – and this light-hearted cywydd also mentions drinking wine, beer and methgelyn (mead flavoured with herbs).
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin
Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes
Dilynwch ni ar Trydar: http://www.twitter.com/YrHenIaith
Tanysgrifwch yn eich hoff ap podlediadau neu ar YouTube i derbyn y pennod nesaf ar cyhoeddiad.
Darllen pellach / further reading:
- Thomas Parry, Gwaith Dafydd ap Gwilym
- Dafydd ap Gwilym.net: https://dafyddapgwilym.net/index_cym.php
- Huw Meirion Edwards, Dafydd ap Gwilym: Influences and Analogues
Customer Reviews
Dod â mi’n ôl at y chwedlau
Dw i wedi cael blas da iawn ar y gyfres hon. Dw i wrthi’n ail-ddarllen y pedair cainc am y tro cyntaf ers dyddiau coleg. Gwych bois!
Yr Hen Iaith
Yn cael pleser o'r mwya yn gwrando ar RWJ a JH yn trafod y llawysgrifau a nawr y chwedlau, un yn dehongli a'r llall yn holi. Hwyliog, doniol ac yn addysgol.
Gwych
Mwynhad pur yn cyd-ddysgu am y Mabinogi/ion. Bechod bod mwy o’r hen lenyddiaeth wedi goroesi.