Yr Hen Iaith

Yr Hen Iaith
Yr Hen Iaith

Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.

  1. Pennod 60 - ‘Ar ryw brynhawngwaith teg o haf hirfelyn tesog’: Gweledigaethau’r Bardd Cwsg (rhan 1)

    6 DAYS AGO

    Pennod 60 - ‘Ar ryw brynhawngwaith teg o haf hirfelyn tesog’: Gweledigaethau’r Bardd Cwsg (rhan 1)

    Dyma ni’n dathlu recordio trigeinfed bennod y podlediad trwy drafod un o glasuron Cymraeg y cyfnod modern cynnar, Gweledigaethau’r Bardd Cwsg, llyfr a gyhoeddwyd gan Ellis Wynne yn 1703. Er bod y gwaith rhyfeddol hwn ar un wedd yn drosiad o lyfrau Saesneg a oedd yn eu tro yn gyfieithiadau o destun Sbaeneg, mae’n gyfansoddiad gwreiddiol iawn gan i’r awdur fynd ati i Gymreigio’i ddeunydd yn drylwyr o ran cynnwys a chyd-destun yn ogystal â’r iaith. Eglwyswr a brenhinwr rhonc oedd Ellis Wynne, ond esgorodd ei geidwadaeth wleidyddiaeth a chrefyddol ar greadigaeth artistig a ymestynnodd ffiniau rhyddiaith Gymraeg gyda’i arddull fyrlymus a’i ddelweddau cofiadwy. Ac er bod y llyfr yn y pendraw yn waith moesol sy’n trafod pechod, mae’n gwneud hynny mewn modd sy’n rhyfeddol o ffraeth a doniol. * * * ‘On one fair afternoon during a warm long golden summer’: The Visions of the Sleeping Bard (1) Here we celebrate the podcast’s sixtieth episode by discussing one of the Welsh classics of the early modern period, Gweledigaethau’r Bardd Cwsg (‘The Visions of the Sleeping Bard’), a book published by Ellis Wynne in 1703. Although this amazing work is in a kind of adaptation of English books which were in turn translations of a Spanish text, it’s a very original creation, seeing as the author made his material Welsh in content and context as well as language. Ellis Wynne was an ardent Anglican and a royalist, but his religious and political conservatism generated an artistic creation which extended the boundaries of Welsh prose with its vivacious style and memorable imagery. And although this book is in the end a moral work discussing sin, it does that in a way which is incredibly witty and funny. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Patrick J. Donovan a Gwyn Thomas (goln.) Gweledigaethau y Bardd Cwsg: y rhan Gyntaf (1998). - Gwyn Thomas, Y Bardd Cwsg a’i gefndir (1971). - Gwyn Thomas, Ellis Wynne (1984).

    35 min
  2. Pennod 59 - Mae’r Ysgrifbin yn Rymusach na’r Cleddyf: Ysgrifennu ac Ideoleg ar ôl y Rhyfeloedd

    12 FEB

    Pennod 59 - Mae’r Ysgrifbin yn Rymusach na’r Cleddyf: Ysgrifennu ac Ideoleg ar ôl y Rhyfeloedd

    Edrychwn yn y bennod hon ar lendyddiaeth Gymraeg ar ddwy ochr y rhwyg ideolegol ar ôl i’r rhyfeloedd rhwng y Senedd a’r Brenin ddod i ben. Cewch glywed Rolant Fychan yn cyfaddef na lwyddodd gyda’i ‘gleddyf coch’ i ladd bygythiadau radicalaidd i’r drefn yn ystod y rhyfeloedd, ac yntau’n ceisio gwneud fel awdur yr hyn y methodd ei wneud fel milwr. Ceir cipolwg hefyd ar ddrama Gymraeg sy’n dathlu adferiad yr hen drefn a ddaeth gydag adferiad y frenhiniaeth yn 1660, a’r bobl bellach yn rhydd o’r cyfreithiau Piwritanaidd a oedd wedi gwahardd y fath berfformiadau ac yn cael mwynhau canu a dawnsio eto. Ystyriwn hefyd waith llenyddol y genhedlaeth nesaf o Biwritaniaid, gan gynnwys cyfieithiad Cymraeg o lyfr Saesneg hynod ddylanwadol. * * * The Pen is Mightier than the Sword: Writing and Ideology after the Wars In this episode we look at Welsh literature on both sides of the ideological divide after the wars between Parliament and King came to an end. You’ll hear Rowland Vaughan admitting that he didn’t succeed in killing radical threats to order with his ‘red sword’ during the wars, as he attempted to do as an author that which he failed to do as a soldier. There’s also a look at a Welsh play which celebrates the return of the old order which came with the Restoration of the monarchy in 1660, people now free of the puritanical laws which had banned such performances and able to enjoy singing and dancing again. We also consider literary work by the next generation of Puritans, including a Welsh translations of an extremely influential English book. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Jerry Hunter, ‘The Red Sword, the Sickle and the Author’s Revenge: Welsh Literature and Conflict in the Seventeenth Century, Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium 36 (2018)

    31 min
  3. Pennodau 58 - ‘Rhyfedd, Rhyfedd, Rhyfedd’: Morgan Llwyd rhan 3

    29 JAN

    Pennodau 58 - ‘Rhyfedd, Rhyfedd, Rhyfedd’: Morgan Llwyd rhan 3

    Yn y bennod hon ystyriwn dau lyfr a gyhoeddwyd gan Morgan Llwyd yn ystod ei flynyddoedd olaf, gan ddechrau â Gwyddor Uchod, cerdd hir sy’n trafod y sêr a’r planedau, gan gyfuno gwyddoniaeth a chyfriniaeth Gristnogol. Rydym ni’n diffinio ‘cyfriniaeth’ hefyd wrth fynd heibio a nodi’i bod yn ffenomen a geir mewn gwahanol grefyddau ar draws y byd. Edrychwn hefyd ar Gair o’r Gair neu Sôn am Sŵn, llyfr sy’n fyfyrdod ynghylch y gwahaniaeth rhwng ieithoedd bydol a gair Duw, er ei fod hefyd yn dyrchafu gwerth ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg ac yn addasu dyfyniad allweddol hen broffwydoliaeth Gymraeg boblogaidd wrth wneud hynny. Nodwn hefyd gysylltiad annisgwyl rhwng Morgan Llwyd a Bob Marley a darganfod o bosibl fod gwedd ysbrydol ar Richard Wyn Jones na wyddai’i gyfaill Jerry Hunter amdani! * ‘Wonder, Wonder, Wonder’: Morgan Llwyd (3) In this episode we consider two books which were published by Morgan Llwyd during his last years, beginning with Gwyddor Uchod (‘The Science Above’), a long poem which discusses the stars and the planets, combining science and Christian mysticism. We define ‘mysticism’ as well along the way and note that it is a phenomenon found in various religions all over the world. We also look at Gair o’r Gair neu Sôn am Sŵn (‘A Word from the Word or Talk about Sound’), a book containing a meditation on the difference between wordly languages and the word of God, although it also elevates the value of writing in the Welsh language and adapts a quote from a popular old Welsh prophecy in doing so. We also note that there’s an unexpected connection between Morgan Llwyd and Bob Marley and possibly discover a spiritual side of Richard Wyn Jones which his friend Jerry Hunter never knew about! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - M. Wynn Thomas, Morgan Llwyd (1984). - Jerry Hunter, ‘Perygl Geiriau, Oferedd Print: Cyd-destunoli Pryderon Llenyddol Morgan Llwyd’ yn Ysgrifau Beirniadol XXXV [:] Gweddnewidiadau (a gyhoeddir yn Chwefror 2025).

    31 min
  4. Pennod 57 - Tri Aderyn a Dau Fyd: Morgan Llwyd rhan 2

    16 JAN

    Pennod 57 - Tri Aderyn a Dau Fyd: Morgan Llwyd rhan 2

    A Richard Wyn Jones bellach ymysg ffans Morgan Llwyd ers y bennod ddiwethaf, dyma gyfle i drafod campwaith y cyfrinydd o awdur, ‘Llyfr y Tri Aderyn.’ Eglurwn yn gyntaf nad dyna yw teitl go iawn y llyfr hwn, a bod Morgan Llwyd ei hun wedi’i ddisgrifio fel ‘dirgelwch i rai i’w ddeall ac i eraill i’w watwar’; ac yntau’n Biwritan a oedd yn wahanol iawn i’r rhan fwyaf o’i gyd-Gymry, gwyddai’n iawn y byddai llawer yn ‘gwatwar’ y syniadau crefyddol newydd yr oedd yn eu cyflwyno iddynt. Eglurwn hefyd mai ‘dirgelwch’ yw ffordd yr awdur o ddweud mai alegori yw’r gwaith, gyda phob un o’r tri aderyn yn cynrychioli tri safbwynt; cawn yma fersiynau alegorïaidd o’r Eglwyswr ceidwadol, y Piwritan a grym bydol y Wladwriaeth. A dyma stori sy’n digwydd mewn dau fyd sy’n gorgyffwrdd, gydag adar Arch Noa yn symud o’r cyd-destun Beiblaidd hynafol hwnnw i’r byd cyfoes a gwlad a oedd wedi’i hysgwyd gan ryfeloedd cartref gwaedlyd yn ddiweddar. Dyma gyfle hefyd i glywed am ddarn o ryddiaith a disgrifiwyd gan Saunders Lewis fel un ‘o’r darnau dwysaf o hunangofiant yn ein llenyddiaeth Gymraeg’. A pham bod Jerry Hunter mor hoff o’r Gigfan, cymeriad drwg y stori?! * Three Birds and Two Worlds: Morgan Llwyd rhan 2 Seeing as Richard Wyn Jones joined the Morgan Llwyd fan club in the last episode, here’s an opportunity to discuss the masterpiece of that mystic of an author, ‘The Book of the Three Birds’. We explain first of all that that is not the book’s real title, and that Morgan Llwyd himself described it as ‘a mystery for some to understand and for others to scorn’; himself a Puritan who was very different from his fellow Welsh people, he knew well that many people would ‘scorn’ the religious ideas he was presenting to them. We also explain that ‘mystery’ is the author’s way of saying that this work is an allegory, with each one of the three birds representing three points of view; here we have allegorical versions of the conservative Anglican, the Puritan and the secular power of the Commonwealth. And this story takes place in two overlapping worlds, as the birds of Noah’s Arch move from that ancient biblical setting to the contemporary world and a country recently shaken by bloody civil wars. You’ll also be able to hear about a piece of prose described by Saunders Lewis as one ‘of the most profound pieces of autobiography in our Welsh-language literature’. And why is Jerry Hunter so fond of the Raven, the story’s baddy?! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Further Reading: - Thomas Richard, A History of the Puritan Movement in Wales from the Institution of the Church at Llanfaches in 1639 to the Expiry of the Propogation Act in 1653 (1920). - Saunders Lewis, Meistri’r Canrifoedd (1982). - M. Wynn Thomas, Morgan Llwyd (1984). - M. Wynn Thomas (gol.), Llyfr y Tri Aderyn [:] Morgan Llwyd (1988). - M. Wynn Thomas, Morgan Llwyd [:] Ei Gyfeillion, Ei Gyfoeswyr A’i Gyfnod (1991). - Jerry Hunter, ‘Perygl Geiriau, Oferedd Print: Cyd-destunoli Pryderon Llenyddol Morgan Llwyd’ yn Ysgrifau Beirniadol XXXV [:] Gweddnewidiadau (a gyhoeddir yn Chwefror 2025).

    28 min
  5. Pennod 56 - ‘O Bobl Cymru! Atoch chi y mae fy llais!’: Morgan Llwyd rhan 1

    8 JAN

    Pennod 56 - ‘O Bobl Cymru! Atoch chi y mae fy llais!’: Morgan Llwyd rhan 1

    ‘Dwi rŵan yn dallt y ffys’ yw geiriau Richard Wyn Jones ar ôl cael cyflwyniad i ryddiaith Morgan Llwyd yn y bennod hon. Ac yntau’n Biwritan a geisiai gyflwyno math o Brotestaniaeth a oedd yn fygythiol o estron i’r rhan fwyaf o’i gyd-Gymry, manteisiai Morgan Llwyd ar ei brofiad fel pregethwr a’i ddoniau llenyddol syfrdanol i gyrraedd calonnau a meddyliau darllenwyr Cymraeg. Trafodwn y cymysgedd o syniadau crefyddol a ddylanwadodd ar ei waith. Ond yn bennaf, rhyfeddwn at rym rhyddiaith Morgan Llwyd ac angerdd y llais awdurol sy’n ein cyfarch mewn dau o’i destunau cyhoeddedig cynharach, Llythyr i’r Cymry Cariadus a Gwaedd yng Nghymru yn Wyneb Pob Cydwybod. Ceir yma hefyd deyrnged i olygydd modern cyntaf Morgan Llwyd, yr A. S. Rhyddfrydol, Tom Ellis. * ‘Oh People of Wales! It is to you that me voice calls!’: Morgan Llwyd (1) ‘Now I understand the fuss’ are Richard Wyn Jones’ words after getting an introduction to the prose of Morgan Llwyd in this episode. A Puritan attempting to introduce a kind of Protestantism which was threateningly foreign to most of his fellow Welsh people, Morgan Llwyd utilized his experience as a preacher and his stunning literary skills to reach the hearts and minds of Welsh readers. We discuss the mixture of religious ideas influencing his work. But for the most part, we marvel at the power of Morgan Llwyd’s prose and the passion of the authorial voice which addresses us in two of his earliest published texts, A Letter to the Loving Welsh and A Shout in Wales in the Face of Every Conscience. Here also is a tribute to Morgan Llwyd’s first modern editor, the Liberal M.P., Tom Ellis. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Thomas E. Ellis (gol.), Gweithiau Morgan Llwyd o Wynedd: dwy gyfrol (1899 a 1908). - Thomas Richard, A History of the Puritan Movement in Wales from the Institution of the Church at Llanfaches in 1639 to the Expiry of the Propogation Act in 1653 (1920). - M. Wynn Thomas, Morgan Llwyd (1984). - M. Wynn Thomas, Morgan Llwyd [:] Ei Gyfeillion, Ei Gyfoeswyr A’i Gyfnod (1991). - R. M. Jones, Cyfriniaeth Gymraeg (1994). - Goronwy Wyn Owen, Rhwng Calfin a Böhme [:] Golwg ar Syniadaeth Morgan Llwyd (2001). - Jerry Hunter, ‘Perygl Geiriau, Oferedd Print: Cyd-destunoli Pryderon Llenyddol Morgan Llwyd’ yn Ysgrifau Beirniadol XXXV [:] Gweddnewidiadau (a gyhoeddir yn 2025).

    40 min
  6. Pennod 55 - Barddoniaeth y Brenhinwyr

    20/12/2024

    Pennod 55 - Barddoniaeth y Brenhinwyr

    Edrychwn yn y bennod hon ar ddetholiad o gerddi a gyfansoddwyd gan frenhinwyr yn ystod ‘rhyfeloedd cartref’ yr ail ganrif ar bymtheg. Gwelwn fod beirdd wedi addasu hen ddulliau a themâu er mwyn trafod datblygiadau cyfoes a oedd yn ysgwyd eu byd nhw. Yn ddiddorol ddigon, mae’n bosibl awgrymu bod ceidwadaeth wleidyddol a chrefyddol wedi esgor ar arloesi celfyddydol hynod egnïol. Nodwn fod ffrydiau traddodiadol o ganu serch wedi’u haddasu hyd yn oed, wrth i ferch ganu am filwr seneddol a geisiodd ei denu pan oedd ei chariad i ffwrdd yn ymladd ym myddin y brenin. Ac mae’r uchafbwyntiau yn cynnwys cerdd sy’n dychmygu anfon cath ar daith ar draws sir Feirionnydd gyda neges i filwyr dan warchae yng nghastell Harlech. * In this episode we look at a selection of poems composed by royalists during the ‘civil wars’ of the seventeenth century. We see that poets adapted old methods and themes in order to treat current developments which were shaking their world. Interestingly enough, It’s possible to suggest that political and religious conservatism generated incredibly energetic artistic innovation. We note that even traditional modes of love poetry were adapted, as a woman sings about a parliamentarian soldier who tried to seduce her while her lover was away fighting in the king’s army. And the highpoints include a poem which imagines sending a cat on a journey across Merionethshire with a message for besieged soldiers in Harlech castle. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Hen Gerddi Gwleidyddol 1558-1660 (1901). [Golygydd di-enw ar ran Cymdeithas Llên Cymru]. - Nesta Lloyd (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu’r Ail Ganrif ar Bymtheg (1993). - Jerry Hunter, ‘The Red Sword, the Sickle, and the Author’s Revenge: Welsh Literature and Conflict in the Seventeenth Century’, Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium 36 (2018).

    31 min
  7. Pennod 54 - ‘Y ddaear a grynodd’: cyflwyniad i lenyddiaeth Gymraeg y ‘Rhyfeloedd Cartref’

    06/12/2024

    Pennod 54 - ‘Y ddaear a grynodd’: cyflwyniad i lenyddiaeth Gymraeg y ‘Rhyfeloedd Cartref’

    Mae llawer o lenyddiaeth Gymraeg wedi goroesi sy’n gysylltiedig â’r ‘Rhyfeloedd Cartref’ rhwng y Senedd a’r Brenin Charles I. Nodwn yn y bennod hon fod awdur Cymraeg enwocaf y cyfnod, Morgan Llwyd, yn Biwritan a gefnogai’r Senedd, gan ddyfynnu cerdd ganddo sy’n disgrifio’r rhyfela fel daeargryn yn ysgwyd ei fyd. Eto, roedd y rhan fwyaf o Gymry’r ail ganrif ar bymtheg ar ochr y brenin, a thrafodwn y modd y dioddefodd un bardd Cymraeg oherwydd ei ymlyniad gwleidyddol a chrefyddol. Ond er bod llawer o destunau Cymraeg sy’n tystio i ymwneud y Cymry â’r gwrthdaro a’r trais, edrychwn hefyd ar enghraifft sy’n ein hatgoffa nad ar chwarae bach y mae cymryd llenyddiaeth fel ffynhonnell hanesyddol ddibynadwy. * Episode 54 - ‘The earth shook: an introduction to the Welsh literature of the ‘Civil Wars’ There is a great amount of Welsh-language literature surviving which is related to the ‘Civil Wars’ between Parliament and King Charles I. We note in this episode that the most famous Welsh author of the period, Morgan Llwyd, was a Puritan who supported the Senate, and we quote from a poem by him which describes the warfare as an earthquake shaking his world. However, most seventeenth-century Welsh people supported the king, and we discuss how one Welsh poet suffered because of his political and religious loyalties. And although there are many texts which testify to the connections between Welsh people and the conflict and violence, we also look at one example which reminds us that it is not lightly that one takes literature as a reliable historical source. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Hen Gerddi Gwleidyddol 1558-1660 (1901). [Golygydd di-enw ar ran Cymdeithas Llên Cymru] - Jerry Hunter, ‘The Red Sword, the Sickle and the Author’s Revenge: Welsh Literature and Conflict in the Seventeenth Century, Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium 36 (2018).

    31 min
  8. Pennod 53 - Pechod yn Llanymddyfri: Y Ficer Prichard

    21/11/2024

    Pennod 53 - Pechod yn Llanymddyfri: Y Ficer Prichard

    Trafodwn yn y bennod hon y modd yr aeth Rhys Prichard (c.1579-1644), ficer Llanymddyfri, ati i ddefnyddio barddoniaeth rydd seml i ledaenu gwersi crefyddol. Yn ogystal ag ystyried ei agenda gyffredinol, craffwn ar un gerdd sy’n dangos ei fod yn poeni’n fawr am y bywyd pechadurus a welai yn ei blwyf ei hun ac sy’n darlunio Llanymddyfri fel rhyw Sodom a Gamora. Dim ond ar ôl iddo farw y cyhoeddwyd ei waith, a hynny yng nghasgliad Cannwyll y Cymry. Byddai’r gwaith yn cael ei adargraffu’n gyson, gan sicrhau bod ‘y Ficer Prichard’ ymysg beirdd Cymraeg mwyaf adnabyddus y cyfnod cyn 1800. Ond i’n tyb ni, y peth mwyaf diddorol am y bardd hwn yw’r modd y cafodd Rhys Prichard ei wneud yn rhan o olyniaeth lenyddol y Piwritaniaid Cymraeg; o edrych o’r newydd am y dystiolaeth am fywyd a’i ddaliadau’i hun, casglwn ei fod ar y pegwn arall i’r Piwritaniaid a ymladdai yn erbyn y brenin mewn gwirionedd. Dyma felly enghraifft drawiadol o lenyddiaeth wedi’i chymryd allan o’i chyd-destun gwreiddiol a’i defnyddio at ddibenion hollol wahanol. ** Sin in Llandovery: The Vicar Prichard In this episode we discuss the way Rhys Prichard (c.1579-1644), vicar of Llandovery, used simple free-metre poetry to spread religious lessons. In addition to considering his general agenda, we look in detail at one poem which shows that he was very worried by the sinful life he saw in his own parish, and which depicts Llandovery as a kind of Sodom a Gomorrah. It was only after his death that his work was published as a collection under the title Cannwyll y Cymry [‘the Candle of the Welsh’]. The work would be reprinted repeatedly, ensuring that ‘the Vicar Prichard’ was among the most popular Welsh poets of the period before 1800. However, in our opinion the most interesting thing about this poet is way in which Rhys Prichard was made part of the Welsh Puritan lineage; looking anew at evidence about his life and his own beliefs, we conclude that he was actually diametrically opposed to the Puritans who fought against the king. We thus have here a striking example of literature taken out of its original political and religious context and used for completely different ends. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Siwan Non Richard, Y Ficer Prichard (1994). - Nesta Lloyd, ‘Late Free-Meter Poetry’ yn R. Geraint Gruffydd (gol.), A guide to Welsh Literature c.1530-1700 (1997 ).

    33 min
4.9
out of 5
28 Ratings

About

Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.

You Might Also Like

To listen to explicit episodes, sign in.

Stay up to date with this show

Sign in or sign up to follow shows, save episodes and get the latest updates.

Select a country or region

Africa, Middle East, and India

Asia Pacific

Europe

Latin America and the Caribbean

The United States and Canada