9 episodes

Croeso i Trafod Gwelliant. Dyma bodlediad gan Gwelliant Cymru lle rydym yn creu gofod diogel i'r bobl hynny sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal yng Nghymru sydd eisiau gwneud i'r system weithio ychydig yn well i bawb. Ym mhob pennod, byddwn yn siarad â rhai o'r arweinwyr ym maes gwella i gael eu mewnwelediadau a'u profiadau personol.

Trafod Gwelliant Improvement Cymru

    • Health & Fitness

Croeso i Trafod Gwelliant. Dyma bodlediad gan Gwelliant Cymru lle rydym yn creu gofod diogel i'r bobl hynny sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal yng Nghymru sydd eisiau gwneud i'r system weithio ychydig yn well i bawb. Ym mhob pennod, byddwn yn siarad â rhai o'r arweinwyr ym maes gwella i gael eu mewnwelediadau a'u profiadau personol.

    Creu amodau i gynnal gwelliant

    Creu amodau i gynnal gwelliant

    Pa mor bwysig yw diogelwch seicolegol yn y gweithle? Beth yw'r effaith ar les a chynhyrchiant? Yn ein trafodaeth gyda'r gwestai, Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, mae’n son am ei phrofiadau ac arbenigedd ar faterion diogelwch seicolegol yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Prifysgol Felindre.

    Mae Nicola Williams wedi bod yn arweinydd blaenllaw ar gyfer mentrau diogelwch seicolegol. Mae hi wedi arwain ymdrechion o fewn yr Ymddiriedolaeth, gan gynnwys arwain y Grŵp Cydweithredol Gofal Diogel. Bydd Nicola yn trafod llwyddiannau, heriau, a phwysigrwydd meithrin amgylchedd seicolegol diogel i staff a chleifion.Mae’n bwysig meithrin amgylchedd, meddai, “ lle mae timau'n teimlo eu bod yn gallu cymryd risgiau, yn gallu mynegi syniadau a phryderon, eu bod yn gallu codi llais pan fydd rhywbeth wedi mynd o'i le a chyfaddef mewn gwirionedd i gamgymeriadau sy'n anodd iawn i rai heb ofni y bydd canlyniadau neu ganlyniadau negyddol i hynny.” 

    Cawn ddeall hanfod diogelwch seicolegol, ei goblygiadau ar gyfer unigolion a diwylliant sefydliadol, a strategaethau ymarferol ar gyfer ei weithredu a'i wella. Mae Nicola yn tynnu sylw at bwysigrwydd blaenoriaethu diogelwch seicolegol mewn lleoliadau gofal iechyd er mwyn gwella llesiant a pherfformiad.

    Yn y bennod Gymraeg hon, actor sy’n lleisio geiriau Nicola Williams. I glywed y fersiwn Saesneg gwreiddiol ewch i: https://www.spreaker.com/episode/creating-the-conditions-for-sustainable-improvement--59283958

    • 16 min
    Prosiect cymunedol i leihau nifer galwadau 999

    Prosiect cymunedol i leihau nifer galwadau 999

    Pan fydd person oedranus yn cwympo yn y cartref, yn aml yr ymateb cynta i’r gofalwyr yw i ffonio am ambiwlans. Gyda bron i hanner miliwn o bobl dros 65 oed yn cwympo pob blwyddyn, mae’r straen ar y gwasanaeth ambiwlans yn aruthrol.

    Mae’r podlediad yma yn trafod prosiect cydweithredol sy'n anelu at leihau galwadau ambiwlans pan fo rhywun yn cael codwm yn y cartref yng Nghymru. Esbonia Eleri D’Arcy o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe nodweddion a nodau y prosiect, gan bwysleisio effaith economaidd-gymdeithasol cwympo ar bobl hŷn. “Yn y bwrdd iechyd, rydym yn cydnabod bod codwm wedi bod yn broblem enfawr ers nifer o flynyddoedd,” meddai. “Bellach mae gennym dechnoleg newydd a all ein cefnogi i wneud penderfyniadau gwell a chefnogi pobl gartref am gyfnod hirach.” 

    Mae Demi Catterill o Grŵp Gofal ‘Simply Safe’ yn ymhelaethu ar eu gwaith a'r hyfforddiant a gynhaliwyd, gan nodi swyddogaeth yr ap iStumble yn y broses benderfynu.
     
    Amy Jenkins o Gyngor Abertawe sy’n son am rôl y cyngor yn cefnogi'r prosiect a meithrin dulliau gofal amgen. Nodir cymorth y Grŵp cydweithredol Gofal Diogel am ddarparu strwythur a sicrhau cynnydd systematig, gyda chyfraniad gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i leihau galwadau amhriodol.

    Yn y bennod Gymraeg hon, actorion sy’n lleisio geiriau’r cyfrannwyr. I glywed y fersiwn Saesneg gwreiddiol ewch i: https://www.spreaker.com/episode/a-local-collaboration-community-project-to-help-reduce-999-calls--59283960

    • 32 min
    Hwb Llywio Clinigol - lleihau’r pwysau ar adrannau brys ysbytai a’r gwasanaeth ambiwlans

    Hwb Llywio Clinigol - lleihau’r pwysau ar adrannau brys ysbytai a’r gwasanaeth ambiwlans

    Sut mae lleddfu’r pwysau cynyddol sydd ar adrannau brys ysbytai a gwasanaethau ambiwlans? 

    Yn y bennod hon mae Dr Dewi Rogers meddyg teulu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn son am ddull o gydweithio arloesol o enw’ r Hyb Llywio Clinigol. Fel rhan o’r Grŵp Cydweithredol Gofal Diogel, mae’r hwb hwn yn cynnig adnodd canolog i sefydliadau fel cartrefi gofal, gan ddarparu cyngor a chymorth amserol, gan leddfu’r straen ar wasanaethau gofal iechyd critigol. 

    Mae Dr Rogers yn son am sut mae’r Hwb yn galluogi cartrefi gofal i wneud penderfyniadau gwybodus a darparu gofal wedi’i deilwra, gan leihau ymweliadau diangen i’r ysbyty. Os yw'r claf yn sefydlog ac nad yw mewn perygl ar unwaith, yn lle galw ambiwlans yn syth ,mae Dr Rogers yn eu darbwyllo i alw’r Hwb “Rydym yn gweld llwyddiannau aruthrol gyda'r hyn ry ni’n gwneud. O’r 80% i 90% o'r galwadau a gawn o gartrefi nyrsio, rydym yn llwyddo i osgoi cludo’r cleifion hyn  i’r ysbyty ac ry ni’n eu cadw gartref lle maen nhw’n dymuno bod ac yn eu rheoli'n ddiogel,” meddai.

    Yn y bennod Gymraeg hon, actor sy’n lleisio geiriau Dr Rogers. I glywed y fersiwn Saesneg gwreiddiol ewch i: https://www.spreaker.com/episode/the-clinical-navigation-hub-reducing-pressure-on-wast-emergency-departments-and-capacity-in-acute-hospitals--59283959

    • 27 min
    Call 4 Concern

    Call 4 Concern

    Pan fydd cyflwr claf yn gwaethygu at bwy ddylai’r claf neu’r teulu droi ato os , yn eu tyb nhw, bod yr achos yn cael ei anwybyddi gan y tîm meddygol? Yr ateb yw’r gwasanaeth Call 4 Concern. 

    Yn y bennod hon mae Eirian Edwards uwch ymarferydd nyrsio yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn trafod y gwasanaeth arloesol cafodd ei gyflwyno gan y Bwrdd fis Ebrill 2023.  Yn ôl Eirian, roedd 'na gydnabyddiaeth ymhlith y staff er bod ganddyn nhw lawer o brofiad ac arbenigedd, pan fydd rhywun yn mynd yn wael, mae’r tîm meddygol weithiau yn colli rhywbeth y mae’r teulu yn sylwi arno. Gallan nhw ffonio Call 4 Concern unrhywbryd. 

    “Rydyn ni'n cynnig y cyfle hwn i gleifion a pherthnasau gael rhywun wrth ochr eu gwely sydd â sgiliau ychwanegol ac sydd fel arfer yn dod â chefndir gofal critigol," meddai. 

    Fe fydd y bennod yn trafod yr heriau o gyflwyno’r gwasanaeth gan gynnwys perswadio’r staff meddygol na fyddai’r galwadau i Call 4 Concern yn rhai dibwys. Mae Eirian yn sôn am y cynlluniau i ymestyn y gwasanaeth i ysbytai eraill yng Ngogledd Cymru, a chydweithio gydag Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

    improvementcymru.net/podlediad
    X: @GwelliantCymru

    • 12 min
    'Ffordd Toyota' gyda Nick Pearn

    'Ffordd Toyota' gyda Nick Pearn

    Yn y bennod hon, eisteddodd Sarah Patmore, a Nick Pearn, Arbenigwr Egwyddorau yng Nghanolfan Rheoli Darbodus Toyota i drafod cydweithio ar wahanol brosiectau gwella, gan ganolbwyntio'n benodol ar wella effeithlonrwydd prosesau profion labordy yn ystod anterth Covid-19. Siaradodd Nick â ni am y gwaith y mae Canolfan Rheoli Darbodus Toyota yn ei wneud a sut y gall egwyddorion darbodus sydd wrth wraidd Ffordd Toyota helpu i fynd i'r afael â'r heriau sy'n cael eu hwynebu gan GIG Cymru.

    Meddai Nick, 'Fe ddysgon ni'n eithaf cynnar mai un o'r egwyddorion y mae Toyota yn credu’n gryf ynddi yw’r awydd i gyfrannu at gymdeithas. A phan ofynnom sut allwn wneud hynny, ni wnaethom gynnig opsiwn gwell na gweithio gyda'r gwasanaethau iechyd.'

    • 40 min
    Meddylfyrd Dylunio gyda Dr Philip Webb

    Meddylfyrd Dylunio gyda Dr Philip Webb

    Ar gyfer y bennod hon o 'Trafod Gwelliant', rydym yn trafod gwelliant ac arloesedd gyda Dr Philip Webb, Prif Weithredwr Arloesedd Anadlol Cymru (RIW). Pan ofynnwyd iddo am egwyddorion meddwl dylunio, dywedodd Philip, 'Dwi'n meddwl bod meddwl dylunio yn fath o gyfuniad rhwng emosiwn ac athroniaeth i mi. Os ydyn ni wir yn rhoi pobl yng nghanol popeth rydyn ni'n ei wneud, mae'n rhaid i ni gynnwys pobl yn y broses o feddwl am syniadau newydd a ffyrdd newydd o wneud pethau.'

    • 37 min

Top Podcasts In Health & Fitness

Huberman Lab
Scicomm Media
Maintenance Phase
Aubrey Gordon & Michael Hobbes
The School of Greatness
Lewis Howes
Nothing much happens: bedtime stories to help you sleep
iHeartPodcasts
The Dr. John Delony Show
Ramsey Network
Passion Struck with John R. Miles
John R. Miles