Am Iechyd

Prifysgol Bangor

Gwrandewch ar y gyfres newydd sbon o bodlediadau o'r enw Am Iechyd. Podlediad lle y bydd darlithwyr o Brifysgol Bangor a gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd yn dod at ei gilydd i drafod materion cyfoes o fewn y byd iechyd sy'n effeithio ar bob un ohonon ni. Mwynhewch y gwrando.

Episodes

  1. Byw Efo Dementia

    27/06/2023

    Byw Efo Dementia

    Yn y podlediad hwn yn y gyfres AM IECHYD, mae'r panelwyr yn trafod pwnc sy'n effeithio ar nifer fawr ohonon ni sef 'Byw efo Dementia'. Cadeirydd y sgwrs ydy Dr Catrin Hedd Jones, Darlithydd mewn Astudiaethau Dementia (Cyfrwng Cymraeg) ym Mhrifysgol Bangor ac o gwmpas y bwrdd efo Catrin mae Emma Quaeck (Rheolwr Dementia Actif Gwynedd), Rhian Green (merch i wraig sydd yn byw efo dementia) a Glenda Roberts sydd ei hun yn byw efo dementia. Mwynhewch y gwrando! Dyma wybodaeth bellach am rai o'r pwyntiau a thrafodwyd yn ystod y podlediad. Cwrs Meistr mewn Dementia Bangor https://www.bangor.ac.uk/cy/courses/postgraduate-taught/astudiaethau-dementia-msc Grwp Caban: Croeso cynnes i aelodau newydd ar draws Cymru https://dsdc.bangor.ac.uk/caban-group.php.cy Adnoddau dwyieithog sydd wedi ei casglu ar gyfer rhoi cyngor yn dilyn diagnosis. Cewch fynediad at lawer o'r cyngor roeddwn yn drafod yn y llawlyfrau Grym Mewn Gwybodaeth - Cymru a Pwer mewn Gwybodaeth 2. https://dsdc.bangor.ac.uk/products-created.php.cy Dementia Actif https://www.dementiaactifgwynedd.cymru/index.php Cadw Cysylltiad Mae tîm Dementia Actif Gwynedd yn falch o gyflwyno ffilm o berfformiad dawns arbennig iawn. Enw’r ddawns yw “Cadw Cysylltiad” ac fe’i perfformir i gerddoriaeth hyfryd Swan Lake. Crëwyd Cadw Cysylltiad mewn cydweithrediad â Dawns i Bawb a mae’r ffilm yn serennu pobl sy'n byw gyda dementia, gofalwyr, cyd-aelodau a staff sydd wedi mwynhau dosbarthiadau ar-lein gyda'i gilydd dros y pandemig. https://fb.watch/kT5nK_Y5Rw/

    57 min

Ratings & Reviews

5
out of 5
3 Ratings

About

Gwrandewch ar y gyfres newydd sbon o bodlediadau o'r enw Am Iechyd. Podlediad lle y bydd darlithwyr o Brifysgol Bangor a gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd yn dod at ei gilydd i drafod materion cyfoes o fewn y byd iechyd sy'n effeithio ar bob un ohonon ni. Mwynhewch y gwrando.