Sut i Ddarllen

Cyngor Llyfrau Cymru

Sut i Ddarllen, sgyrsiau gonest am ddarllen gyda Francesca Sciarrillo. Fe fyddwn ni'n trafod pob math o agweddau ar ddarllen - o’i ddylanwad i’w effaith ar ein bywydau bob dydd. Yn rhannu atgofion ac argymhellion, rhinweddau a rhwystredigaethau a hynny efo gwesteion difyr.

  1. Buddug Watcyn Roberts

    3 DAYS AGO

    Buddug Watcyn Roberts

    Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae Buddug Watcyn Roberts. Er yn ifanc mae Buddug iawn wedi bod ar ysgrifennu’n greadigol ac yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau creadigol: llwyfannwyd drama ganddi gan Gwmni Ifanc Frân Wen ac mae wedi cyhoeddi ei gwaith yn Codi Pais a rhifynnau Ffosfforws gan gyhoeddiadau’r Stamp. Yn y bennod mae Buddug yn trafod darllen gwaith Llwyd Owen am y tro cyntaf, grym cyfrolau barddoniaeth, a'r mwynhad o ddarllen yr un llyfr sawl tro. Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Recordio sain: Aled Wyn Hughes Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog. Rhestr Ddarllen Morgan a Magi Ann - Mary Vaughan JonesHuw Bob Lliw - Marian JonesNeli’r Pysgodyn Jeli - Marian JonesMarc y Siarc - Marian JonesFfawd, Cywilydd a Celwyddau - Llwyd Owenmor hapus - Gwenllian EllisLladd Arth - Kayley RobertsCwlwm - Ffion EnlliHoll Lawenydd Gwyllt - Llyr Gwyn LewisGwlad Bardd - Rhys IorwerthIaith y Nefoedd - Llwyd OwenOedolyn-ish - Mel OwenGirl Crush - Florence GivenWomen Don’t Owe You Pretty - Florence GivenWomen Living Deliciously - Florence GivenTrochi - Carwyn EckleyAbermandraw – Rhys IorwerthMymryn Rhyddid – Gruffudd OwenHel Llus yn y Glaw – Gruffudd OwenWhy Has Nobody Told Me This Before? – Dr Julie SmithV+Fo – Gwenno GwilymBechygyn Drwg am Byth – Llwyd OwenMwy am prosiect Pencerdd Llenyddiaeth Cymru yma.Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol.

    31 min
  2. Geraint Iwan

    25 FEB

    Geraint Iwan

    Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r awdur a’r cyflwynydd Geraint Iwan. Dros y blynyddoedd mae wedi dilyn nifer o yrfaoedd a gweithio i lu o gwmnïau gwahanol, gan gynnwys y BBC, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac amryw o gwmnïau teledu. Cyhoeddir ei gyfrol gyntaf, Storis Geraint Iwan, storis am yr hyn sy’n llechu dan yr wyneb, gan Wasg Carreg Gwalch, fis Mawrth. Yn y bennod mae Ger yn trafod ei obsesiwn efo straeon, darganfod darllen drwy ffilmiau a pheryglon gwrando ar lyfrau llafar yn Morrisons Caernarfon. Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Recordio sain: Aled Wyn Hughes Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog Rhestr Ddarllen Congrinero - David MeredithRownd y Byd yn y Ras Falwnau Orau Erioed - Sue ScullardBeibl y Plant Mewn Lliw I Ble Aeth Haul y Bore? - Eurig WynDan Gadarn Goncrit - Mihangel MorganCysgod y Cryman - Islwyn Ffowc ElisYn y Gwaed - Geraint V. JonesTân ar y Comin - T. Llew JonesJaws - Peter BenchleyJurassic Park - Michael CrichtonDo Androids Dream of Electric Sheep? - Philip K. DickThe Gone-Away World - Nick HarkawayReady Player One - Ernest ClineI am Legend - Richard MathesonTrioleg Extracted – RR HaywoodI, Partridge: We Need To Talk About Alan - Alan PartidgeThe Rivers of London - Ben AaronovitchCyfres The Bourne Identity – Roberts LudlumStraeon byrion Ruth Rendell And Then There Were None - Agatha ChristieCyfres A Game of Thrones - George R. R. MartinThe Martian – Andy WeirY llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol.

    34 min
  3. Sioned Erin Hughes

    11 FEB

    Sioned Erin Hughes

    Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r bardd a'r awdur Sioned Erin Hughes. Daw Erin o Ben Llŷn. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Tregaron yn 2022 gyda'i chyfrol gyntaf i oedolion, Rhyngom. Hi oedd golygydd y gyfrol Byw yn fy Nghroen a enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2020, ac mae hefyd wedi golygu Iaith Heb Ffiniau a chyd-olygu Beyond/Tu Hwnt. Roedd ei chyfrol O'r Rhuddin ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025, ac fe gyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o gerddi Fel y Moroedd y llynedd. Yn y bennod mae Erin yn trafod ei diffyg diddordeb mewn llyfrau yn blentyn, effaith a dylanwad sgwennu personol a hunangofiannau ar ei bywyd a'r angen i ddarllen gyda phensil yn ei llaw. Ffilmio a golygu: Dafydd HughesRecordio sain: Aled Wyn HughesRecordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog. Dyma’r llyfrau sy’n cael eu trafod yn y bennod hon James a'r Eirinen Wlanog Enfawr - Roald Dahl, addasiad Elin MeekNab Wrc - Roald Dahl, addsiad Elin MeekModdion Rhyfeddol George - Roald Dahl, addasiad Elin MeekMatilda - Roald Dahl, addasiad Elin MeekThe Book Thief - Markus ZusakI Am, I Am, I Am: Seventeen Brushes With Death – Maggie O’FarrellThe Choice - Edith EgerCasglu Llwch – Georgia RuthTell Me Who I Am - Georgia RuthCamu – Iola YnyrNelan a Bo – Angharad PriceThe Bell Jar – Sylvia PathReason To Stay Alive – Matt HaigA Thousand Splendid Suns - Khaled HosseiniThe Kite Runner - Khaled HosseiniLan Stâr – Anthony Shapland, addasiad Esyllt LewisDevotions – Mary Oliver Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol.

    30 min
  4. Huw Stephens

    28 JAN

    Huw Stephens

    Yr awdur a’r darlledwr Huw Stephens sy’n cadw cwmni i Francesca Sciarrillo. Mae Huw Stephens yn darlledu’n ddyddiol ar BBC Radio 6 Music, ac yn cynnal sioeau wythnosol yn y Gymraeg a Saesneg ar BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru. Fe sefydlodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig a Gŵyl Sŵn Caerdydd. Ef hefyd yw awdur y gyfrol, Wales - 100 Records. Yn y bennod mae Huw yn sgwrsio am gyfieithu The Twits yn blentyn, ei hoff nofel Gymraeg yn y byd i gyd a’i gyfraniad i’r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru. Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Recordio sain: Aled Wyn Hughes Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Teddy’s Place, Caerdydd. Dyma’r llyfrau sy’n cael eu trafod yn y bennod hon Y Dyn'i hun – Hywel GwynfrynThe Twits – Roald DahlBoy – Roald DahlPaid a Bod Ofn – Non ParryAll the Best for the Future: Growing Up Without Growing Old – Greg JamesIs-Deitla'n Unig - Emyr Glyn WilliamsDiolch Dewi! Ffrindiau'n Cofio – Gol. Myrddin ap DafyddCydymaith i Lenyddiaeth Cymru – Gol. Meic StephensA Room Above a Shop - Anthony ShaplandBechgyn Drwg am Byth – Llwyd Owen Cam o’r Tywyllwch – Rhys MwynAtgofion drwy Ganeuon: Dyddie Da - Delwyn SiônAtgofion drwy Ganeuon: Rhwng Bethlehem a'r Groes - Barry (Archie) JonesAtgofion drwy Ganeuon: Llechan yn y Gwaed – Gai TomsCerddi’r Ystrad – Lyn EbenezerLladd Arth – Kayley RobertsOf Mice and Men – John SteinbeckY Tŵr – Gwenlyn ParryZonia Bowen - Dy Bobl Di Fydd fy Mhobl I - Zonia BowenOedolyn (ish) – Melanie OwenCylchgrawn Folding RockO Ffrwyth y Gangen Hon – Gol. Nia MoraisGwlad Bardd – Rhys IorwerthO! Tyn y Gorchudd – Angharad PriceThe Life of Rebecca Jones – Angharad Price, cyfieithiad Lloyd JonesNelan a Bo – Angharad PriceYr Odliadur – Roy StephensSalem a Fi – Endaf EmlynFfansins: Caws Heb Dost, Siarc Marw, Brechdan Tywod, Tacsi, Viva Sparky, KlustY llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol.

    32 min

About

Sut i Ddarllen, sgyrsiau gonest am ddarllen gyda Francesca Sciarrillo. Fe fyddwn ni'n trafod pob math o agweddau ar ddarllen - o’i ddylanwad i’w effaith ar ein bywydau bob dydd. Yn rhannu atgofion ac argymhellion, rhinweddau a rhwystredigaethau a hynny efo gwesteion difyr.

You Might Also Like