Helo a chroeso i drydedd bennod ‘Meic agored’ (Open Mic), podlediad dwyieithog sy’n croesawu gwesteion o bob rhan o’r byd creadigol. Ar gyfer y bennod hon, ymwelais â’r artist Emma-Jayne Holmes (née Jones) yn ei stiwdio-gartref brydferth yng Nghefn Mawr, i gael gwybod mwy am y sêl ar ei gwaith celf y mae hi wrthi’n ei hysbysebu ar hyn o bryd trwy fideos Facebook! Mae Emma yn gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys paent olew, gwnïo, braslunio, a rhai cyfryngau hynod ddiddorol a chymhleth a oedd yn hollol newydd i mi – ond gefais esboniad wrth i ni grwydro o amgylch ei stiwdio wrthrecordio’r podlediad. Fel mae’n digwydd, mae sêl Emma yn rhan o gyfres o weithgareddau sydd ganddi ar y gweill, gyda’r nod o hyrwyddo a gwerthu rhyw 35 mlynedd o waith celf y mae wedi’i gasglu…cyn symud i’w chartref newydd yn Sir y Fflint! Mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair ac yn gyffrous i’r westai dalentog hon, wrth iddi hi a’i gŵr gynllunio i deithio a fwynhau’r bennod nesaf hon o’u bywydau. Dyma amserlen gaeaf Emma: Tachwedd 2026: Dydd Sadwrn 21: Wrexham Makers, Tŷ Pawb, Wrecsam 10yb-4yh Dydd Sul 22: Ffair Gelf Dros Dro (Pop-up), BLAS (Ysgol Gogyddio a Gwin), Llangollen 12yp - 4yh Dydd Sadwrn 28: Ffair Nadolig, Canolfan Ceiriog, 12yp - 4yh Rhagfyr 2026: Dydd Sadwrn 5: Ffair Nadolig, Oriel Dory (Dory Gallery), Llangollen. Yn y llun sy’n cyd-fynd â’r podlediad, gallwch weld Emma yn dal ei gwaith celf, tra bod ei gwaith hyfryd hefyd yn gefndir i’r llun. Roedd hwn yn gyfweliad rhyfeddol ac yn brynhawn dymunol; gadewais wedi fy ysbrydoli ac yn barod i fynd yn ôl at fy ngwaith celf fy hun! Sara Erðig Hydref 2026 ********************* Hello and welcome to the third episode of ‘Meic agored’ (Open Mic), a bilingual podcast which welcomes guestsfrom across the creative sphere. For this episode, I visited artist Emma-Jayne Holmes (née Jones) in her beautiful home-studio in Cefn Mawr, tofind out more about the sale on her artwork that she is currently advertising via Facebook videos! Emma works in a variety of mediums, including oil paint, stitching, sketching, and some fascinating and complex mediums which were entirely new to me and which she explained as we wandered around her studio whilst making the podcast. As it turns out, Emma’s sale is part of a series of activities she is currently engaged in, with a view to promoting and selling 35 years’ worth of artwork she has accrued…before moving to her new home in Flintshire! The future looks bright and exciting for this talented guest, as she and her husband plan to travel and enjoy this next chapter of their lives. Emma’s winter timetable is as follows: November 2026: Saturday 21: Wrexham Makers, Ty Pawb, Wrexham 10-4pm Sunday 22: Pop up Art Fair, BLAS (Cookery & Wine school), Llangollen 12-4pm Saturday 28: Christmas Fair, Canolfan Ceiriog, 12-4pm December 2026: Saturday 5: Christmas Fair, Dory Gallery, Llangollen. In the photo accompanying the podcast, you can see Emma holding some of her artwork, whilst her lovely work also forms the backdrop for the photo. This was such a wonderful interview and pleasant afternoon; I left feeling inspired and ready to get back to my own artwork! Sara Erðig October 2026