Yr Hen Iaith

Mimosa Cymru

Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.

  1. Pennod 84 - Yr Hen Bersoniaid Llengar, Ieuan Glan Geirionydd ac Alun

    5 HR AGO

    Pennod 84 - Yr Hen Bersoniaid Llengar, Ieuan Glan Geirionydd ac Alun

    Wrth i ni barhau i ystyried barddoniaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, nodwn yn gyntaf fod barn ysgolheigion diweddarach yn negyddol iawn amdani ar y cyfan. Cawn gyfle felly i ofyn cwestiwn cyffredinol: ai sothach sentimental a gwaith gorgrefyddol sych yw swmp barddoniaeth y cyfnod? Awn ymlaen i drafod ‘yr hen bersoniaid llengar’, Anglicaniaid a oedd yn hyrwyddo diwylliant Cymraeg yn egnïol (ac yn ceisio gwrthbwyso grym diwylliannol ymneilltuaeth). Canolbwyntiwn ar un ohonynt, John Jenkins (1770-1829) neu ‘Ifor Ceri’, a dau o’r beirdd a gâi nawdd yn ‘llys’ yr ‘Ifor Hael’ hwn. Darllenwn ychydig o waith yr amryddawn Evan Evans (1795-1855) neu ‘Ieuan Glan Geirionydd’, gan ddechrau â’r faled alarus ddramatig, ‘Cyflafan Morfa Rhuddlan’. A ninnau’n diffinio’r ‘delyneg’ wrth fynd heibio, edrychwn ar un o gerddi mwyaf poblogaidd Ieuan Glan Geirnioydd, ‘Ysgoldy Rhad Llanrwst’. Pan awn ati i drafod y bardd John Blackwell (1797-1840) neu ‘Alun’, caiff Jerry Hunter foddhad neilltuol pan sylweddola Richard Wyn Jones ei fod yn gyfarwydd â’r gerdd dan sylw wedi’r cwbl! ** The Literature-loving Old Vicars, Ieuan Glan Geirionydd and Alun As we continue to consider Welsh-language poetry from the nineteenth century, we note first that the opinion of later scholars is generally very negative about it. We thus ask: is most of the period’s poetry sentimental rubbish and dry, overly religious work? We go on to discuss ‘the literature-loving old vicars’, Anglicans who promoted Welsh culture energetically. We focus on one of them, John Jenkins (1770-1829) or ‘Ifor Ceri’, and two poets who received patronage in the ‘court’ of this ‘Ifor Hael’ (Generous Ifor). We read a little of the work of the multi-talented Evan Evans (1795-1855) or ‘Ieuan Glan Geirionydd’, beginning with the dramatic mournful baled, ‘The Massacre of Morfa Rhuddlan’. Defining the ‘lyric’ in passing, we look at one of Ieuan’s most popular poems, ‘The Llanrwst Free School’. When we discuss John Blackwell (1797-1840) or ‘Alun’, Jerry Hunter is especially pleased when Richard Wyn Jones realises that he is familiar with the poem in question after all! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Bedwyr Lewis Jones, Yr Hen Bersoniaid Llengar (Yr Eglwys yng Nghymru, 1963). - John Blackwell (Alun), Cathl i’r Eos a Cherddi Eraill (Melin Bapur, 2025). Dyma’r canueon y cyfeiriwn atynt: Alaw, ‘Baled Morfa Rhuddlan’: https://www.youtube.com/watch?v=L1QmzkJmTJg

    30 min
  2. Pennod 83 - Awdl Eisteddfodol a Phroto-Nofel: Cawrdaf

    19 MAR

    Pennod 83 - Awdl Eisteddfodol a Phroto-Nofel: Cawrdaf

    Trafodwn William Ellis Jones (1795-1848) yn y bennod hon. Ac yntau’n frodor o Abererch, Eifionydd, cymerodd enw’r sant y mae’r eglwys leol wedi’i chysegru iddo – Cawrdaf – yn enw barddol. Gweithiai fel argraffydd ac arlunydd, ond canolbwyntiwn wrth reswm ar ei weithgareddau llenyddol. Cyfansoddai nifer o awdlau ar gyfer cystadlaethau eisteddfodol, gan gynnwys ‘Hiraeth Cymro am ei Wlad’. Er na lwyddodd i ennill gyda hi yn Eisteddfod Wrecsam yn 1820, aeth hi’n awdl boblogaidd iawn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Craffwn ychydig ar yr enghraifft wych hon o awdl eisteddfodol. Rhaid crybwyll Cawrdaf yng nghyd-destun hanes rhyddiaith greadigol Gymraeg hefyd; trafodwn y gyfrol a gyhoeddodd yn 1830, Y Bardd neu’r Meudwy Cymreig, a gofyn a yw’n bosibl mai hi yw’r nofel Gymraeg gyntaf?! ** An Eisteddfodic Awdl and a Proto-Nofel: Cawrdaf In this episode we discuss William Ellis Jones (1795-1848). A native of Abererch in Eifionydd, he took the name of the saint to whom the local church is dedicated – Cawrdaf – as his bardic name. He worked as a printer and an illustrator, but we of course concentrate on his literary activities. He composed a number of awdlau for eisteddfodic competitions, including ‘Hiraeth Cymro am ei Wlad’ (‘A Welshman’s Longing for his Country’). Although he didn’t win with it in the 1820 Wrexham Eisteddfod, it became an extremely popular awdl in the nineteenth century. We take a look at this excellent example of an eisteddfodic awdl. Cawrdaf deserves a place in the history of Welsh creative prose as well; we talk about the book he published in 1830 Y Bardd neu’r Meudwy Cymreig (‘The Poet or ‘the Welsh Hermit’), and ask if it’s possibe that this is the first Welsh novel?! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: Cewch ddarllen Y Bardd neu’r Meudwy Cymreig ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: https://www.llyfrgell.cymru/darganfod-dysgu/arddangosfeydd-arlein/europeana-rise-of-literacy/llyfrau-teithio/y-bardd-neu-y-meudwy-cymreig-yn-cynwys-teithiau-difyr-ac-addysgiadol-y-bardd-gyda-rhagluniaeth

    32 min
  3. Pennod 82 - Eben Fardd

    5 MAR

    Pennod 82 - Eben Fardd

    Canolbwyntiwn ar Ebenezer Thomas (1802-1863) yn y bennod hon. Mae trafod dechrau’i yrfa lenyddol gynnar yn gyfle i ni ystyried diwylliant barddol Cymraeg hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyffredinol. Bu rhwydwaith o gymdeithasau Cymraeg yn ei fro enedigol, Eifionydd, yn fodd i’r Ebenezer ifanc hogi’i grefft, dod i adnabod beirdd adnabyddus yr ardal megis Robert ap Gwilym Ddu a Dewi Wyn, ac ennill yr enw ‘Eben Fardd’. Wedyn, mae disgrifio’r modd y daeth yn fardd cenedlaethol o bwys yn dadlennu tipyn ar ddiwylliant eisteddfodol Cymru yn ystod y degawdau cyn i’r Eisteddfod Genedlaethol gael ei sefydlu. Cewch flas ar fwrlwm Eisteddfod Powys yn Y Trallwng, 1824, gan gynnwys agweddau sy’n tystio i afael Prydeindod ac imperilaeth ar ddiwylliant Cymraeg y cyfnod. Craffwn wedyn ar gampwaith Eben Fardd, sef yr awdl a ddaeth yn fuddugol yn yr eisteddfod honno, ‘Dinistr Jerusalem’, un o awdlau eisteddfodol mwyaf poblogaidd a mwyaf dylanwadol y ganrif. * Eben Fardd: We concentrate on Ebenezer Thomas (1802-1863) in this episode. Discussing his early literary career provides an opportunity for us to consider the Welsh bardic culture of the first half of the nineteenth century in general. A network of Welsh societies in his native region, Eifionydd, provided a way for the young Ebenezer to sharpen his craft, get to known famous poets in the region including Robert ap Gwilym Ddu and Dewi Wyn, and earn the name ‘Eben Fardd’. Then, describing the manner in which he became a national poet of significance reveals much about the eisteddfodic culture of Wales during the decades before the National Eisteddfod was founded. You’ll get a taste of the excitement of the Powys Eisteddfod yn Welshpool in 1824, including aspects which show the hold of Britishness and imperialism on Welsh culture of the period. Then we examine Eben Fardd’s masterpiece, ‘The Destruction of Jerusalem’, the victorious awdl in that eisteddfod, one of the most popular and most influential eisteddfodic awdlau of the century. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - E. G. Millward, Eben Fardd (Gwasg Pantycelyn, 1988). - Ebenezer Thomas, Eben Fardd (Dalen Newydd, 2014). - Eben Fardd, Dinistr Jerusalem a Cherddi Eraill (Melin Bapur, 2024).

    34 min
  4. Pennod 81 - ‘Gwybodaeth yn amlhau’:  Y Wasg Gyfnodol Gymraeg ar ddechrau’r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg’

    19 FEB

    Pennod 81 - ‘Gwybodaeth yn amlhau’: Y Wasg Gyfnodol Gymraeg ar ddechrau’r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg’

    A ninnau wedi cyrraedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dechreuwn drafod rhai o’r trawsffurfiadau a effeithiai ar ddiwylliant Cymraeg y cyfnod. Diwydiannu, tŵf y boblogaeth, datblygiadau technolegol, balchder yn yr ymerodraeth Brydeinig – byddai’r holl ffactorau hyn yn cyflyru llenyddiaeth Gymraeg wrth i’r ganrif fynd rhagddi. Ond canolbwyntiwn yn y bennod hon ar un peth sydd o’r pwys mwyaf i’r rhai sydd am ddeall hanes llenyddiaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef tŵf y wasg gyfnodol Gymraeg. (Ie, diffiniwn y gair ‘cyfnodolyn’ wrth fynd heibio hefyd.) Piciwn yn ôl i’r ddeunawfed ganrif er mwyn nodi rhai o’r arbrofion cynnar, ond manylwn wedyn ar y cyfnodolion a ymddangosodd yn ystod degawdau cyntaf y ganrif newydd. Craffwn ar y modd yr oedd golygyddion rhai o’r cylchgronau enwadol cyntaf yn cyflwyno’u cyhoeddiadau i’w darllenwyr a nodwn wrth fynd heibio fod gafael Prydeindod ac imperialaeth yn dyn arnynt er gwaethaf eu daliadau crefyddol honedig radicalaidd. * ‘Knowledge Increasing’: The Welsh-language Periodical Press at the Start of the Nineteenth Century As we’ve reached the nineteenth century, we begin discussing some of the transformations which effected Welsh-language culture in the period. Industrialization, growth of the population, technological developments, pride in the British empire – all of these factors would condition Welsh-language literature as the century progressed. But we focus on one thing which is of extremely great interest to those seeking to understand the history of Welsh literature in the nineteenth century, namely the growth of the Welsh-language periodical press. (Yes, we define the word ‘periodical’ in passing as well.) We pop back to the eighteenth century in order to note some of the early experiments, but we go into some detail regarding the periodicals which appeared during the first decades of the new century. We examine the way in which the editors of some of the first denominational journals presented their publications to their readers and we note in passing that Britishness and imperialism had a tight hold on them despite their supposedly radical religious stances. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Huw Walters, Y Wasg Gyfnodol Gymreig, 1735-1900/The Welsh Periodical Press, 1735-1900 (1987). Cewch ddarllen llawer iawn o’r cyfnodolion hyn ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru/You can read many of these periodicals on the National Library of Wales’s website: https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/ https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/

    30 min
  5. Pennod 80 - Ann Griffiths (1776-1805)

    6 FEB

    Pennod 80 - Ann Griffiths (1776-1805)

    Tan yn ddiweddar, Ann Griffiths oedd yr unig fardd benywaidd a welid mewn canonau llenyddol Cymraeg. Nid yw’n syndod felly i Richard Wyn Jones ddweud ei fod yn lled gyfarwydd â hi wrth i ni ddechrau trafod yr emynyddes enwog yn y bennod hon. Ond mae Richard yn dysgu’n fuan fod agweddau syfrdanol ar hanes y brydyddes ryfeddol hon nad oedd yn gwybod amdanynt – gan gynnwys hanes ei henw! Trafodwn gyd-destun cyfansoddi barddoniaeth ysbrydol Ann a holi a yw’n bosibl awgymru’i bod yn ‘gyfrinydd’? Rydym ni’n ystyried y wedd ‘nwydus’ ar ei gwaith y mae rhai darllenwyr wedi’i synhwyro hefyd. Ac wrth olrhain hanes cyfansoddi, trosglwyddo a chyhoeddi’i gwaith hi, mae Jerry yn gofyn cwestiwn pryfoclyd: a yw’n iawn i bobl ganu, darllen ac astudio emynau Ann Griffiths heddiw gan ei bod hi wedi dweud nad oedd am i neb ‘eu cael nhw’ ar ôl iddi farw? * Until recently, Ann Griffiths was the only female poet seen in Welsh literary canons. It is therefore no surprise that he’s fairly familiar with her as we begin to discuss the famous hymnist in this episode. But Richard soon learns that there are surprising things about the history of this amazing poet which he didn’t know previously – including the history of her name! We discuss the context in which Ann’s spiritual poetry was composed and ask if it’s possible to suggest that she was a ‘mystic’? We also consider the ‘passionate’ aspect which some readers have senses in her work. And while tracing the history of the composition, transmission and publishing of Ann’s work, Jerry asks a provocative question: is it right for people to sing, read and study the hymns of Ann Griffiths today seeing as she herself said that she didn’t want anybody ‘to have them’ after her death? Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - E. Wyn James, Gwefan Ann Griffiths (Prifysgol Caerdydd): https://www.anngriffiths.cardiff.ac.uk/cynnwys.html

    28 min
  6. Pennod 79 - Bardd Rhyddid ac Arch-ffugiwr: Iolo Morganwg

    22 JAN

    Pennod 79 - Bardd Rhyddid ac Arch-ffugiwr: Iolo Morganwg

    Edrychwn yn y bennod hon ar un o gymeriadau mwyaf enigmatig y traddodiad llenyddol Cymraeg (ac efallai un o gymeriadau mwyaf enigmatig hanes Cymru yn gyffredinol), sef Edward Williams neu Iolo Morganwg (1747-1826). Ystyriwn ei radicaliaeth wleidyddol gan ei chysylltu â rhai o’i gerddi gwreiddiol. Talwn deyrnged i’w gyfraniadau diwylliannol a’i allu ysgolheigiaidd. Ond, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni oedi a thrafod ei ffugiadau hefyd. Mae llu o gwestiynau gwefreiddiol yn codi. Ai siop Iolo oedd siop fasnach deg gyntaf Cymru? Pam aeth ati i ffugio cymaint o bethau? I ba raddau yr oedd yn ffigiwr cwbl unigryw ac i ba raddau y gellir ei gysylltu â mudiad Rhamantaidd ehangach? Trafodwn ei ymwneud â Chymdeithas y Gwyneddigion hefyd a chawn gyfle i sôn ychydig am un o’i gydnabod, Morgan John Rhys. ** Bard of Liberty and Arch-Forger: Iolo Morganwg In this episode we look at one of the most enigmatic characters of the Welsh literary tradtion (and perhaps one of the most enigmatic characters of all of Welsh history), Edward Williams or Iolo Morganwg (1747-1826). We consider his political radicalism and connect it to some of his original poems. We pay tribute to his cultural contributions and his scholarly ability. But, of course, we have to linger over his forgeries as well. A host of tantalizing questions emerges. Was Iolo’s shop the first fair trade shop in Wales? Why did he devote himself to forging so many things? To what extent was he a completely unigue figure and to what extent can we connect him to a broader Romantic movement? We also discuss his connection with the Gwyneddigion Society and we take an opportunity to mention one of his associates, Morgan John Rhys. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - G. J. Williams, Iolo Morganwg (1956). - Ceri Lewis, Iolo Morganwg (1995). - Geraint Jenkins, A rattleskull genius: the many faces of Iolo Morganwg (2005). - Mary-Ann Constantine, The truth against the world: Iolo Morganwg and Romantic forgery (2007). - Marin Löffler, The literary and historical legacy of Iolo Morganwg, 1826-1926 (2007). - Geraint Jenkins, Bard of Liberty: the political radicalism of Iolo Morganwg (2012). - Prys Morgan, ‘From a Death to a View: The Hunt for the Welsh Past in the Romantic Period’, yn Eric Hobsbawn a Terence Ranger (goln.), The Invention of Tradition (1983).

    32 min
  7. Pennod 78 - Jac Glan-y-Gors

    8 JAN

    Pennod 78 - Jac Glan-y-Gors

    Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod John Jones (1766-1821), cymeriad amryddawn a adwaenir yn well heddiw fel Jac Glan-y-Gors. Yn wreiddiol o Gerrigydrudion, sir Ddinbych, treuliodd Jac y rhan fwyaf o’i oes yn Llundain. Aeth yn rheolwr ac efallai’n berchennog ar sawl tafarn yn y ddinas ac roedd yn chwarae rhan amlwg mewn dwy o gymdeithasau Cymreig Llundain – y Gwyneddigion a’r Cymreigyddion. Roedd Jac Glan-y-Gors yn fardd dychanol penigamp a defnyddiodd ei ddawn i ymosod ar ragrith o wahanol fathau. Mae ‘Cerdd Dic Siôn Dafydd’ yn dychanu’r Cymry hynny sy’n cefnu ar yr iaith Gymraeg ac yn cogio’u bod yn Saeson; mae’r ffaith bod yr ymadrodd yn cael ei ddefnyddio hyd heddiw yn tystio i lwyddiant dychan Jac. Ac yntau’n coleddu gwerthoedd radicalaidd oes y chwyldro, cyhoeddodd Jac bamffledi Cymraeg sy’n cynnwys syniadau Tom Paine, Seren Tan Gwmwl a Toriad y Dydd ac mae’n debyg iddo gael ei erlid gan yr awdurdodau o’r herwydd. *** In this episode we have fun discussing John Jones (1766-1821), a multi-faceted character who is better known today as Jac Glan-y-Gors. Originally from Cerrigydrudion, Denbighshire, Jac spent most of his life in London. He became the manager and perhaps the owner of several pubs in the city and he played a big part in two of London’s Welsh societies – the Gwyneddigion and the Cymreigyddion. Jac Glan-y-Gors was a masterful satirical poet and he used his talent to attack various kinds of hypocrisy. His poem on ‘Dic Siôn Dafydd’ satirizes those Welsh people who turn their backs on the Welsh language and pretend that they’re English; the fact that the phrase Dic Siôn Dafydd is still used in Welsh today to describe such a Welshman testifies as to the success of Jac’s satire. Embracing the radical values of the age of revolution, Jac published Welsh-language pamphlets which contain the ideas of Tom Paine, Seren Tan Gwmwl and Toriad y Dydd, and it’s likely that he was persecuted by the authorities because of it. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - E. G. Millward, Cerddi Jac Glan-y-Gors (2003). - Gellir darllen Seren Tan Gwmwl a Toriad y Dydd ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: https://viewer.library.wales/4789818#?xywh=-3760%2C-966%2C9796%2C5459 https://viewer.library.wales/4789875#?xywh=-3895%2C-985%2C10285%2C5732

    27 min
  8. Pennod 77 - Marged Dafydd (c.1700-c.1785)

    18/12/2025

    Pennod 77 - Marged Dafydd (c.1700-c.1785)

    Cawn gyfle yn y bennod hon i ystyried dwy wedd ar yrfa lenyddol Marged Dafydd. Yn enedigol o’r Coetgae-du ym mhlwyf Trawsfynydd, cafodd fywyd hir a chysegrodd lawer iawn o’i hamser i ddiogelu ac astudio barddoniaeth Gymraeg. Creodd nifer o lawysgrifau swmpus sy’n dangos ôl meddwl ysgolheigiaidd, a diolch iddi hi mae rhai cerddi Cymraeg gan ferched eraill wedi goroesi. Roedd hefyd yn fardd yn ei hawl ei hun. Gan fod tystiolaeth bod ei mam a’i modryb yn barddoni hefyd, gellid dweud ei bod yn perthyn i linach o feirdd benywaidd. Roedd hefyd yn perthyn i rwydweithiau ehangach o feirdd, ac roedd yn cael ei chydnabod fel cryn awdurdod ac fel athrawes farddol. Trafodwn rychwant o’i cherddi, gan gynnwys englyn hwyliog sy’n talu teyrnged i grythor a cherdd grefyddol ddwys sy’n dangos ei bod yn Gristion o argyhoeddiad ac yn realydd a allai grisialu hanfod y natur ddynol. *** Marged Dafydd (c.1700-c.1785) In this episode we consider two aspects of Marged Dafydd’s literary career. From Y Coetgae-du, Trawsfynydd, she lived a long life and devoted a great amount of her time to preserving and studying Welsh poetry. She created a number of substantial manuscripts which display the workings of a scholarly mind, and it is thanks to her that some Welsh poems by women have survived. She was also a poet in her in own right. As there is evidence that her mother and her aunt composed verse as well, one could say that she belonged to a lineage of female poets. Marged Dafydd also took part in wider networks of poets, and she was recognized as somewhat of an authority and as a bardic teacher. We discuss a range of her poems, included a lively englyn to a crowther and a serious religious poem which shows that she was a Christian of conviction and a realist when it came to crystalizing the essence of human nature. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin i Cwmni Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Cathryn Charnell-White (gol), Beirdd Ceridwen: Blodeugerdd Barddas o Ganu Menywod hyd tua 1800 (2005). - Katie Gramich a Catherine Brennan (goln.), Welsh Women’s Poetry 1460-2001 (2003).

    35 min

About

Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.

You Might Also Like