
51 episodes

Clera Clera
-
- Arts
-
-
5.0 • 8 Ratings
-
Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury)
-
Clera Rhagfyr 2020
Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i chi! Ar ddiweddblwyddyn rhyfeddol a rhyfedd, dyma bennod lawn o bethau difyr i gnoi cul arnyn nhw. O Olygyddion y Stamp, Esyllt Lewis a Grug Muse i Orffwysgerdd yn gan Aron Pritchard. Nad anghofier am bo Gruffudd Antur sy'n wych fel arfer ac fe gawn ddiweddglo teilwng i'r tymor gan blant ysgol sul Caersalem, Pontyberem.
-
Clera Tachwedd 2020
Croeso i benniod y Mis Du. Yn ogystal a'r gorchwyl anodd o goffau Jan Morris a Mari Lisa, gyda theyrnged arbennig i Mari gan y Prifardd Tudur Dylan, mae'r bennod hon yn cynnwys cerdd yn yr Orffwysfa gan Marged Tudur o'i chyfrol newydd, 'Mynd', pwnco, pos a llawer o ddifyrrwch.
-
Clera Hydref 2020
Croeso i bennod mis Hydref 2020 o bodlediad Clera. Cawn orffwysgerdd arbennig sy'n cynnwys holl feirdd plant Cymru wrth ddathlu 20 mlwyddiant y cynllun. Mari George yw'r Bardd yn y Bath, gruffudd a'i ymennydd Amheus sy'n cynnig y pos yn ol ei arfer ac mae'r pwnco yn mynd a ni i Lydaw. Mwynhewch
-
Clera Medi 2020
Croeso i bennod mis Medi o bodlediad Clera. Yn y bennod hon cawn gerdd o gyfrol newydd sbon Casia Wiliam, 'Eiliad ac Einioes' (Cyhoeddiadau Barddas), fe glywn gan Alaw Griffiths sy'n dechrau swydd newydd fel Cydlynydd Barddas ac fe gawn hefyd y pos gan yr hollwybodus Bosfeistr, Gruffudd Antur a Phwnco am Huw Morys a beirdd 'y dirywiad', gan holi ydy'r cyfnod modern cynnar o ran y traddodiad barddol wir yn gyfnod o ddirywio?
-
Clera Awst - Gemau a Giamocs
Pennod arbennig o'r Babell Lên AmGen. Recordiwyd hon ar Zoom gyda'n gwesteion arbennig Llio Maddocks, Elinor Wyn Reynolds, Ani Llŷn a Gruffudd Antur. Cawn drafodaeth bwnco ar gyhoeddi answyddogol, gorffwysgerdd arbennig gan Llio Maddocks, pos difyr gan Gruff a gemau a giamocs i gloi.
(Maddeuwch y brychau bychain o ran sain) -
Clera Gorffennaf 2020 - 'Y Gynghanedd Heddiw'
Pennod arbennig sy'n canolbwyntio bron yn llwyr ar gyfrol y mae Aneurig ar fin ei chyhoeddi, sef Y Gynghanedd Heddiw. Mwynhewch drafodaeth am y gyfrol a cherdd dafod yng nghwmni gwesteion arbennig, Mererid Hopwood, Myrddin ap Dafydd, Caryl Bryn a Rhys Iorwerth.
Diolch i'r Eisteddfod AmGen am gael defnyddio'r sain o'n trafodaeth fel rhan o ddarpariaeth amgen yr Eisteddfod.
Hefyd cawn gerdd yn yr Orffwysfa gan Aled Lewis Evans, sydd newydd gyhoeddi cyfrol am Wrecsam, sef Tre Terfyn (Gwasg Carreg Gwalch).
Customer Reviews
Hylif hafaidd, neithdar ar fel wedi heintio ag awel y grug.
Hylif hafaidd, neithdar ar fel wedi heintio ag awel y grug.
Podlediad newydd deallus a diddorol!
Wir wedi mwynhau'r bennod gyntaf - mor mor dda cael sioe ddeallus a ddiddorol am farddoniaeth i ni leygwyr sy efo diddordeb ond dim llwyth o ddealltwriaeth am y gynghanedd ac ati. Edrych mlaen am ehangu'r cynnwys i ganu rhydd a cherddi gan ferched hefyd - brilliant bois, diolch mawr!