Yr Hen Iaith

Mimosa Cymru

Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.

  1. 5d ago

    Pennod 100 - Yr Eisteddfod, y Nofel, a Gwleidyddiaeth ar Ddiwedd Canrif

    Dyma ni’n dathlu diwedd cyfres 3 Yr Hen Iaith a’r ffaith syfrdanol ein bod ni wedi cyrraedd 100 o benodau – yn y brif gyfres, heb gyfrif y gyfres lefel A – gyda phennod arbennig a recordiwyd o flaen cynulleidfa fyw yn y Babell Lên yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Edrychwn yn gyntaf ar ychydig o hanes yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a gweld bod nifer o themâu canolog y gyfres hon hefyd yn ganolog yn yr eisteddfodau hynny. Wrth grybwyll y bobl a oedd yn gweithio y tu ôl i’r llenni ac yn ymdrechu i broffesiynoli gweinyddiaeth y r Eiseddfod Genedlaethol, mae enw Beriah Gwynfe Evans yn codi, sy’n gyfle perffaith i fanteisio ar arbenigedd Richard Wyn Jones a chraffu ar gysylltiad difyr rhwng llenyddiaeth Gymraeg a gwleidyddiaeth Gymreig y cyfnod. Mae Jerry Hunter yn mynd ati wedyn i geisio darbwyllo Richard y dylai ddarllen nofel Beriah Gwynfe Evans, Dafydd Dafis, sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol (1899). Er bod y prif gymeriad yn greadigaeth ffuglennol, mae neb llai na Tom Ellis a Lloyd George yn ymddangos fel cymeriadau yn y nofel ddychanol fywiog hon. Mae’r draofaeth yn arwain at ddiweglo’r gyfres, wrth i ni nodi bod sylfeini solet wedi’u gosod ar gyfer llenyddiaeth Gymraeg erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif. * The Eisteddfod, the Novel and Politics at Century’s End Here we celebrate the end of series 3 of Yr Hen Iaith and the astounding fact that we’ve reached 100 episodes – in the main series, not counting the A-level series – with a special episode recorded in front of a live audience in the Literature Tent in this year’s National Eisteddfod. First we look at some of the history of the National Eisteddfod at the end of the nineteenth century, and see that a number of the themes central in this series are also central in those eisteddfodau. While mentioning the people who worked backstage and strove to professionalize the administration of the Eisteddfod, Beriah Gwynfe Evans’ name crops up, creating a perfect opportunity to take advantage of Richard Wyn Jones’ specialty and examine an interesting connection between Welsh-language literature and Welsh politics in the period. Jerry Hunter then tries to persuade Richard that he should read a novel by Beriah Gwynfe Evans, Dafydd Dafis, sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol [Dafydd Dafis, namely the Autobiography of a Candidate for Parliament] (1899). Although the main character is a fictional creation, famous figures such as Tom Ellis and Lloyd George appear ac characters in this lively satirical novel. The discussion leads us to wrap up the series as we note that solid foundations for Welsh-language literature were in place by the start of the twentieth century. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Richard Wyn Jones, Rhoi Cymru’n Gyntaf [:] Syniadaeth Wleidyddol Plaid Cymru, cyfrol 1 (Gwasg Prifysgol Cymru 2007). - Beriah Gwynfe Evans, Bronwen (adargraffiad Melin Bapur). - Beriah Gwynfe Evans, Llywelyn (adargraffiad Melin Bapur). Rydym yn deall bod Melin Bapur yn bwriadu adargraffu Dafydd Dafis yn fuan hefyd.

    Pennod 100 - Yr Eisteddfod, y Nofel, a Gwleidyddiaeth ar Ddiwedd Canrif
  2. Nov 5

    Pennod 99 - Breuddwyd Cenedlaetholwr wrth ei Ewyllys: Emrys ap Iwan

    Gan barhau â’n pwyslais diweddar ar lenyddiaeth y 1890au a’r cysylltiad rhwng llenorion Cymraeg y cyfnod hwnnw a gwleidyddiaeth genedlaetholgar, edrychwn ar Emrys ap Iwan y tro hwn. Byddai T. Gwynn Jones ysgrifennu cofiant iddo yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, ac byddai’r llyfr hwnnw’n dylanwadu’n drwm ar y genhedlaeth nesaf o genedlaetholwyr Cymreig, ond canolbwyntiwn ar waith llenyddol Emrys ap Iwan. Ar ôl ystyried gyrfa gynnar y Cymro Ewropeaidd hwn a’r modd yr aeth ati i feirniadu’r ‘Dwymyn Seisnig’, craffwn yn fanylach ar ei gampwaith pryfoclyd, Breuddwyd Pabyd wrth ei Ewyllys. Dadleuwn y dylai Emrys ap Iwan gael ei ystyried fel un o arloeswyr ffuglen wyddonias neu ‘ddyfodolaidd’ yn yr iaith Gymraeg. Rhyfeddwn at ddarlun o Iwtopia Ryddfrydol sy’n troi ideoleg y Gymru ymneilltuol ar ei phen. Mae’n gwbl syfrdanol bod awdur a oedd yn weinidog ymneilltuol ddychmygu tranc Protestaniaeth yng Nghymru a goruwchafiaeth Catholigiaeth fel datblygiadau cadarnhaol! * A Nationalist’s Dream According to His Desire: Emrys ap Iwan Continuing our recent emphasis on the literature of the 1890s and the connection between Welsh writers of the period and nationalistic politics, we look at Emrys ap Iwan this time. T. Gwynn Jones would write a biography of him early in the 20th century, and that book would heavily influence the next generation of Welsh nationalists, but we concentrate on Emrys ap Iwan’s literary work. After considering the early career of this European Welshman and the way he went at it to criticism the ‘English Fever’, we look in more detail at his provocative masterpiece, Breuddwyd Pabyd wrth ei Ewyllys (‘A Catholic’s Dream According to His Will’). We argue that Emrys ap Iwan should be considered one of the pioneers of Welsh-language science or ‘futuristic’ fiction in the Welsh language. We are amazed by his portrayal of a Liberal Utopia which turns the ideology of Nonconformist Wales on its head. It is totally astounding that a writer who was a Nonconformist minister imagines the death of Protestantism in Wales and the triumph of Catholicism as positive developments! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Richard Wyn Jones, Rhoi Cymru’n Gyntaf [:] Syniadaeth Wleidyddol Plaid Cymru, cyfrol 1 (Gwasg Prifysgol Cym ru 2007), ac yn enwedig tt. 28-36. - Dafydd Glyn Jones, (gol.), Emrys ap Iwan: Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys (Dalen Newydd, 2011). -T. Gwynn Jones, Emrys ap Iwan: dysgawdr, llenor, cenedlgarwr (Cwmni’r Cyhoeddwyr Cymreig, 1912).

    Pennod 99 - Breuddwyd Cenedlaetholwr wrth ei Ewyllys: Emrys ap Iwan
  3. Oct 22

    Pennod 98 - O. M. Edwards

    Gan barhau â thema sy’n hydreiddio penodau diweddar, sef cydberthynas diwylliant llenyddol Cymraeg a gwleidyddiaeth mudiad Cymru Fydd, mae’r bennod hon yn ystyried rhai o gyfraniadau cynnar Owen Morgan Edwards (1858-1920). Ac yntau’n diwtor hanes yn Rhydychen, disgwylid iddo gyhoeddi ymchwil o bwys yn ei faes arbenigol, sef cyfnod y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd, ond Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o’i ysgrifau a defnyddiodd ei wybodaeth am hanes Ewrop a Chymru er mwyn llunio ysgrifau poblogaidd sy’n hyrwyddo agenda genedlaetholgar. A nodwn wrth fynd heibio fod y modd y mae’n trafod Protestaniaeth gynnar yn arddangos y math o wrth-Gatholigiaeth sy’n hollbresennol ar dudalennau gwasg gyfnodol Gymraeg y cyfnod, er bod gan driniaethau O. M. Edwards veneer boneddigaidd. Sylwn hefyd y modd y mae’n honni bod uchafbwyntiau llenyddol Cymraeg yn ganolog i bob ‘deffroad’ cenedlaethol Cymru. Wrth gofio’i waith diflino fel golygydd sawl cylchgrawn cenedlaethol, rhyfeddwn at hyd a lled ei weithgarwch, gan gyfeirio at gofiant gorchestol Hazel Walford Davies a nodi hefyd fod O. M. Edwards ei hun a rhai o’r bobl o’i gwmpas wedi dioddef oherwydd hyn oll. * Continuing with a theme which is shot through recent episodes, namely the interrelatedness of Welsh-language literary culture and the Cymru Fydd movement, this episode considers some of the early contributions made by Owen Morgan Edwards (1858-1920). A history tutor in Oxford, he was expected to produce substantial research in his special field, the history of the Renaissance and Protestant Reformation, but Welsh was the language of most of his writings and he used his knowledge am the history of Europe and Wales in order to fashion popular pieces which promote a nationalistic agenda. We note in passing that the way in which he discusses early Protestantism displays the kind of anti-Catholicism which is omnipresent on the pages of the Welsh periodical press in the period, although O. M. Edwards’ treatments have a more polite veneer. We also take note of the way he maintained that Welsh literary highpoints were and are central to each of Wales’ national ‘awakenings’. While recalling his tireless work as the editor of several national periodicals, we are amazed by the breadth and depth of his activities, referring to Hazel Walford Davies’s masterful biography and also noting that O. M. Edwards himself and some of the people around him suffered because of all of this. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Hazel Walford Davies, Writers of Wales: O.M. Edwards (1988). - Hazel Walford Davies, O.M.[:] Cofiant Syr Owen Morgan Edwards (2020).

    Pennod 98 - O. M. Edwards
  4. Oct 8

    Pennod 97 - Iwtopia Bardd a Beirniadaeth Ysgolhaig: John Morris-Jones

    Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones (1864-1929), ‘Cymru Fydd’. Ond wrth bwysleisio’r ceinder a’r cynilder sy’n nodweddu cerddi JMJ, rhaid oedi eto a thrafod cydberthynas y mudiad cenedlaetholgar hwnnw a llenyddiaeth Gymraeg y 1890au. Gwelwn dinc iwtopaidd yn yr awdl hon yn ogystal â beirniadaeth lem ar gyfalafiaeth. Nodwn fod JMJ yn ddarlithydd ifanc yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru (Prifysgol Bangor bellach) a bod ei yrfa yn dechrau tuedd sy’n parhau’n rhan o’r Adran Gymraeg honno, gyda’i staff yn pontio rhwng ymchwil academaidd ac ysgrifennu creadigol. Awn ati wedyn i drafod y modd y defnyddiai’r darlithydd ifanc hwnnw ei ddysg i wasanaethu’r genedl mewn modd ymarferol hefyd, ac yntau’n gadeirydd y pwyllgor a geisiai sefydlogi orgraff yr iaith Gymraeg. Gwelwn hefyd fod rhyddiaith academaidd JMJ yn bell o fod yn sych a’i fod yn bell o fod yn burydd iaith ystrydebol! * A Poet’s Utopia and a Scholar’s Criticism: John Morris-Jones Contrasting sharply with the long-winded pryddestau of the ‘New Poets’ whom were discussed in the last episode, we begin this time with ‘Cymru Fydd’, the finely-wrought awdl by John Morris-Jones (1864-1929). But while stressing the elegance and economy of language which characterizes JMJ’s poems, we must pause once again and discuss the interwovenness of that nationalistic movement (Cymru Fydd) and Welsh literature in the 1890s. We find that this awdl strikes a utopian tone as well as presenting pointed criticism of capitalism. We note that JMJ was a young lecturer in the University College of North Wales (now Bangor University) and that his career began a tendancy which continues to be part of that Welsh Department’s culture, with staff bridging between academic research and creative writing. We then turn to discuss the way in which this young lecturer used his learning to serve the nation in a practical way as chair of the committee which sought to standardize Welsh orthography. We also see that JMJ’s academic prose is far from being dry! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Allan James, John Morris-Jones (2011). - Huw Walters, John Morris-Jones, 1864-1929: Llyfryddiaeth Anodiadol (1987). - Richard Wyn Jones, Rhoi Cymru’n Gyntaf: Syniadaeth Wleidyddol Plaid Cymru, cyfrol 2 (yn ymddangos yn 2027). Caiff mudiad Cymru Fydd lawer o sylw yn y gyfrol hon.

    Pennod 97 - Iwtopia Bardd a Beirniadaeth Ysgolhaig: John Morris-Jones
  5. Sep 24

    Pennod 96 - Fflangell Elphin: Barddoniaeth a Beirniadaeth Lenyddol yn y 1890au

    Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895. Ystyriwn feirniadaeth afieithus Elphin wrth iddo fflangellu’r ‘Bardd Newydd’ a nodi bod ganddo bwyntiau difrifol iawn er gwaethaf ei ormodiaeth ddychanol. Cydymdeimlwn â dwy ochr y ddadl lenyddol hon ac awgrymwn ei bod yn fodd i bwyso a mesur cyflwr barddoniaeth Gymraeg ar ddiwedd y ganrif. Ac mae llawer o’r cwestiynau canolog yr un mor berthnasol wrth ystyried barddoniaeth Gymraeg heddiw (e.e., a yw’n bosibl bod ystyriaethau ffurfiol yn gorlywodraethu weithiau? Beth yw rôl dysg mewn cerdd? A.y.y.b.). Rydym ni’n diffinio’r ‘Bardd Newydd’ a ‘Rhamantiaeth’ wrth fynd heibio hefyd. * Elphin’s Whip: Poetry and Literary Criticism in the 1890s We have fun in this episode while looking at a piece by ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) which was published in Y Geninen in 1895. We consider Elphin’s gleeful criticism as he scourges the ‘Bardd Newydd’ (‘New Poet’) and note that he has very serious points despite his satirical excess. We sympathize with both sides of this literary debate and we suggest that it’s a way of assessing the state of Welsh poetry at the end of the century. And many of the central questions are just as relevant to those who consider Welsh poetry today (for example, is it possible that formal considerations sometimes dominate? What is the role of learning in a poem? And etc.). We also define the ‘New Poet’ and ‘Romanticism’ in passing. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Ann Rhian Hughes (gol.), Beirniad Llym Gynddeiriog: Ysgrifau a Cherddi Elphin (Dalen Newydd, 2026). - Cewch ddarllen Y Geninen ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/browse/2354296,

    Pennod 96 - Fflangell Elphin: Barddoniaeth a Beirniadaeth Lenyddol yn y 1890au
  6. Sep 10

    Pennod 95 - ‘A Natur sy’n canu ei hanthem i mi’: Islwyn a’i ‘Storm’

    Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’. Yn ôl Glyn Tegai Hughes, hwn oedd bardd Cymraeg gorau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond er i Islwyn ennill enw fel bardd o bwys yn ystod ei oes trwy gystadlu’n aml mewn eisteddfodau ac ati, nid oes llawer sy’n arbennig am yr holl farddoniaeth eisteddfodol hon. Mae’r bardd hwn yn haeddu lle anrhydeddus yn hanes llenyddiaeth Gymraeg oherwydd un gerdd a gyfansoddodd, ‘Y Storm’. Ond mae’r gerdd honno’n hir iawn – dros 6,000 o linellau! Dim ond ar ôl i Islwyn farw y cyhoeddwyd y bryddest fawr, a chafodd ddylanwad mawr ar genhedlaeth arall o feirdd Cymraeg. Myfyriwn ynghylch rhai dyfyniadau dethol wrth i ni gnoi cil ar natur unigryw y gerdd uchelgeisiol hon. ** ‘And it’s Nature who’s singing its anthem to me’: Islwyn and his ‘Storm’ We discuss William Thomas (1832-1878) in this episode, a poet remembered as ‘Islwyn’. According to Glyn Tegai Hughes, he was the best Welsh-language poet of the nineteenth century. But although Islwyn won a name as a poet of significance during his lifetime by competing often in eisteddfodau and etc., there is not much of worth in all of this eisteddfodic poetry. This poet deserves an honoured place in the history of Welsh literature because of one poem he composed, ‘The Storm. But this poem is very long – over 6,000 lines! It was only after Islwyn died that the great pryddest was published, and it had a big influence on another generation of Welsh poets. We consider a few choice quotes as we mull over the unique nature of this ambitious poem. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - ‘Y Storm’ Gyntaf gan Islwyn, gol. Meurig Walters (1980). - Glyn Tegai Hughes, ‘Islwyn and Y Storm’, in Hywel Teifi Edwards (ed.), A guide to Welsh literature c. 1800-1900 (2000). - Meredydd Evans, ‘Y Storm’ gyntaf (1988). - Alun Llwelyn-Williams, Y Nos, Y Niwl a’r Ynys [:] Agweddau ar y Profiad Rhamantaidd yng Nghymru 1890-1914 (1960).

    Pennod 95 - ‘A Natur sy’n canu ei hanthem i mi’: Islwyn a’i ‘Storm’
  7. Aug 27

    Pennod 94 - Profedigaethau Enoc Huws: Daniel Owen (rhan 2)

    Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws. Dechreuwn gyda brawddeg agoriadol y nofel – o bosibl y frawddeg enwocaf yn holl hanes ffuglen Gymraeg – ac ystyried arwyddocâd y feirniadaeth gymdeithasol y mae’n gerbyd iddi. Dyma’r nofelydd o’r Wyddgrug ar ei orau, ac yntau’n awdur a oedd yn ddigon dewr ac yn ddigon hyderus i edrych yn feirniadol ar ei gymdeithas ei hun. Mae hefyd yn dychanu diwylliant llenyddol Cymraeg cyfoes a’r traddodiad crefyddol yr oedd yn perthyn iddo. Rhyfeddwn wrth sylwi bod llawer o ddychan y nofel yn ymddangos yn hynod gyfoes, a Richard Wyn Jones yn gweld Susi Trefor fel influencer arwynebol ar y cyfryngau cymdeithasol heddiw! * The Tribulations of Enoc Huws: Daniel Owen (part 2) We have fun in this episode while discussing Daniel Owen’s satirical masterpiece, The Tribulations of Enoc Huws. We begin with the novel’s opening sentence – possibily the most famous sentence in the entire history of Welsh fiction – and considering the social critique for which it is a vehicle. This is the novelist from Yr Wyddgrug (Mold) at his best, an author who was brave enough and confident enough to look critically at his own society. He also satirizes contemporary Welsh literary culture and the religious tradition to which he himself belonged. We are amazed as we note that much of the novel’s satire appears very contemporary, and Richard Wyn Jones sees Susi Trefor as a superficial influencer on today’s social media! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - https://www.llyfrgell.cymru/darganfod-dysgu/arddangosfeydd-arlein/llyfrau/rhyddiaith-a-nofelau/profedigaethau-enoc-huws - Rydym ni’n deall y bydd Melin Bapur yn ailgyhoeddi Profedigaethau Enoc Huws cyn bo hir.

    Pennod 94 - Profedigaethau Enoc Huws: Daniel Owen (rhan 2)
  8. Aug 13

    Pennod 93 - ‘Cymreigrwydd ei Gymeriadau’: Daniel Owen (rhan 1)

    Wedi ystyried gwrthwynebiad rhai Cymry Ymneilluol i’r nofel mewn ambell bennod ddiweddar, cawn yn y bennod hon gyfle i ddechrau trafod Daniel Owen, nofelydd Cymraeg mwyaf llwyddiannus y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nodwn fod ei waith wedi’i wreiddio yng nghymdeithas ddiwydiannol sir y Fflint a bod Methodistiaeth Galfinaidd yn ddylanwad mawr arno hefyd, er iddo ysgrifennu ffuglen ddychanol sy’n feirniadol iawn o’i enwad ei hun. Lluniodd fersiwn ffuglennol o’i dref enedigol, Yr Wyddrug, yn Y Dreflan, ac edrychwn ar nifer o ddyfyniadau sy’n enghreifftio’i ddychan afieithus a’i allu i gymeriadu’n gryno ac yn effeithiol. Wrth drafod ei nofel boblogaidd, Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel – a dechrau trafod campwaith arall ganddo, Profedigaethau Enoc Huws – nodwn y modd y tynnodd yr awdur ei hun sylw at ‘Gymreigrwydd ei gymeriadau’ gan bwysleisio’r ffaith ei fod yn cynhyrchu nofelau Cymraeg a Chymreig, yn wahanol i’r cyfieithiadau a frithai’r wasg gyfnodol ar y pryd. * ‘The Welshness of his Characters’: Daniel Owen (part 1) Having considered some Welsh Nonconformists’ opposition to the novel in a few recent episodes, we have an opportunity in this episode to start discussing Daniel Owen, the most succesful Welsh-language novelist of the nineteenth century. We note that his work was grounded in Flintshire’s industrial society and that Calvinistic Methodism was another big influence upon him, although he wrote satirical fiction which is very crictical of his own denomination. He created a fictional version of his home town, Mold, in Y Dreflan, and we look at a few quotes which exemplify his vivacious satire and his ability to characterize succinctly and effectively. While discussing his popular novel, Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel – and while beginning to discuss another of his masterpieces, Profedigaethau Enoc Huws – we note that the author himself drew attention to the ‘Welshness of his characters’, emphasizing the fact that he was producing novels which were Welsh in character as well as language, unlike the translations which appeared frequently in the periodical press at the time. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach/Further Reading: - Robert Rhys, Daniel Owen (2000).

    Pennod 93 - ‘Cymreigrwydd ei Gymeriadau’: Daniel Owen (rhan 1)

About

Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.

You Might Also Like